EVANS, ILLTUD (John Alban Evans) (1913 - 1972), offeiriad Catholig

Enw: Illtud Evans
Dyddiad geni: 1913
Dyddiad marw: 1972
Rhiant: David Spencer Evans
Rhiant: Catherine Evans (née Jones)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad Catholig
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Ruth Gooding

Ganwyd Illtud Evans ar 16 Gorffennaf 1913, yn fab i David Spencer Evans, postfeistr, a'i wraig Catherine (g. Jones). Er iddo gael ei eni yn Chelsea, Cymry Anghydffurfiol oedd ei rieni. Ei enwau bedydd oedd John Alban. Mynychodd Ysgol Ramadeg Tywyn yn Sir Feirionnydd, a chafodd fagwraeth ddwyieithog. Roedd yn ddawnus yn academaidd, ac enillodd wobr Bates i astudio Saesneg yng Ngholeg Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan yn 1931. Ceir peth o'i waith cyhoeddedig cynnar yn rhai o gylchgronau'r coleg. Roedd hefyd yn aelod o gymdeithas Eingl-Gatholig Dewi Sant yn y coleg. Serch hynny, cafodd ei ddiarddel o'r coleg yn 1934 am anghyfunrhywiaeth, wedi iddo bledio'n euog i gyhuddiad 'of having persistently attempted to induce a fellow-student to commit an act of gross immorality', fel y nodwyd yng nghofnodion y Bwrdd a drafododd ei achos. Yn ddiweddarach ymgyrchodd ei gyfaill Cliff Tucker dros roi gradd iddo ar ôl ei farwolaeth.

Wedi iddo adael y coleg gweithiodd Evans am gyfnod fel newyddiadurwr, a bu'r sgiliau a ddysgodd yn ddefnyddiol iddo trwy gydol ei yrfa. Tua'r adeg honno trodd at Gatholigiaeth Rufeinig, ac yn 1937 ymunodd ag Urdd y Dominiciaid. Cafodd ei ordeinio'n offeiriad chwe blynedd yn ddiweddarach, gan gymryd yr enw Illtud ar ôl sylfaenydd mynachlog Llanilltud Fawr, ac o hynny ymlaen fe'i hadwaenid fel Dom Illtud Evans.

Ymgartrefodd Evans yng Nghaergrawnt yn gyntaf. Wedyn o 1955 i 1958, gwasanaethodd fel prior St Dominic's yng ngogledd-orllewin Llundain. Ond fel awdur a darlledwr y daeth yn fwyaf adnabyddus. Bu'n olygydd ar gylchgrawn misol y Dominiciaid, Blackfriars, o 1950 hyd 1962; ef wedyn oedd ysgogwr ei ail-lansio fel New Blackfriars. Cyfrannodd hefyd at amryw gyhoeddiadau eraill: Time and Tide, The Tablet (yn aml o dan y ffugenw Aldate), The Times, The Times Literary Supplement, Saturday Review a The Observer. Ysgrifennodd ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys celfyddyd grefyddol, llenyddiaeth a bywgraffiaeth yn ogystal â diwygio cosbedigaeth. Yn ei lyfr One and Many (Blackfriars, 1957), disgrifiodd Grist yn byw ym mhob Pabydd, gan wneud y lliaws yn un.

Treuliodd Evans y rhan fwyaf o'r 1960au yn yr Unol Daleithiau. Bu'n byw i ddechrau yn Efrog Newydd, cyn dod yn Brif Bregethwr yn Athrofa Daleithiol y Dominiciaid yn Oakland, California, yn 1966. Dysgodd homileteg yno a chynhaliodd encilion esgobaethol. Bu hefyd yn olygydd cyswllt Faith Now.

Ers dechrau ei weinidogaeth, roedd gan Evans ddiddordeb arbennig ym mhob agwedd ar drosedd a chosbedigaeth, ac ymwelodd â charchardai a chanolfannau hyfforddi ar draws Prydain. Yn yr UD, hwn oedd ei brif ddiddordeb. Ymwelodd â nifer o sefydliadau cosb tra'n paratoi adroddiad ar weithrediad parôl ar gyfer y William J Kirby Foundation yn Washington DC. Anerchodd gynhadledd flynyddol Cymdeithas Gosbedigaeth America yn 1961 ac yn yr un flwyddyn fe'i penodwyd yn gynrychiolydd i gynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Atal Trosedd a Thriniaeth Troseddwyr. Cyfrannodd erthygl sylweddol ar 'Punishment' i'r Catholic Encyclopaedia, cyf. 11, a gyhoeddwyd yn 1969.

Gwnaeth enw iddo'i hun hefyd am gynorthwyo offeiriaid a boenai am y newidiadau a wnaed gan Vatican II; llwyddodd yn aml i gymodi rhwng carfannau a wahanwyd gan draddodiadau, hyfforddiant ac oedran.

Ni fu iechyd Evans erioed yn dda, a dychwelodd i Brydain yn 1970 yn dilyn strôc. Bu farw yn Athens on 22 Gorffennaf 1972, yn 59 oed. Fe'i claddwyd yn y fynwent Gatholig yn Heraklion. Mae ei bapurau ar gadw yng Nghasgliadau Arbennig Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-03-25

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.