EVANS, Syr GERAINT LLEWELLYN (1922 - 1992), canwr opera

Enw: Geraint Llewellyn Evans
Dyddiad geni: 1922
Dyddiad marw: 1992
Priod: Brenda Evans Evans (née Davies)
Plentyn: Alun Evans
Plentyn: Huw Evans
Rhiant: William John Evans
Rhiant: Charlotte May Evans (née Thomas)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: canwr opera
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Rhidian Griffiths

Ganwyd Geraint Evans ar 16 Chwefror 1922 yn William Street, Cilfynydd, yn fab i William John Evans (1899-1978), glöwr, a'i wraig Charlotte May (g. Thomas, 1901-1923). Bu farw ei fam ar enedigaeth ail blentyn, a magwyd Geraint gan rieni ei fam nes cyrraedd ei ddeg oed, pan ailbriododd ei dad a symud i Drehopcyn ger Pontypridd. Gadawodd yr ysgol yn bedair ar ddeg oed a mynd i weithio mewn siop ddillad ym Mhontypridd. Yn y cyfnod hwnnw cafodd wersi canu yng Nghaerdydd a chymryd rhan mewn perfformiadau amatur lleol.

Wedi dechrau'r Ail Ryfel Byd yn 1939 gwirfoddolodd i ymuno â'r Llu Awyr, gan hyfforddi fel peiriannydd radio a chymryd rhan mewn cyngherddau adloniannol. Ar ddiwedd y rhyfel ymunodd â'r Rhwydwaith Lluoedd Prydeinig, a oedd yn darlledu o Hamburg, ac achubodd ar y cyfle i dderbyn hyfforddiant lleisiol proffesiynol gan Theo Herrmann. Wedi gadael y lluoedd, penderfynodd fentro ar yrfa ym myd canu, a derbyniodd gefnogaeth yr awdurdod lleol (er yn anfoddog) i astudio yn Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall yn Llundain. Yno yn 1948 yr ymddangosodd gyntaf mewn opera, yn rhan Don Alfonso yn Così fan tutte gan Mozart, ac ymddangosodd yn fuan wedyn yn Covent Garden mewn rhan fach yn Die Meistersinger von Nürnberg gan Wagner. Yr oedd ei ddawn naturiol i actio ac i bortreadu cymeriad yn ei wneud yn gwbl gartrefol ym myd opera - dywedai ei fod yn hoff o ddatblygu cymeriad 'o'r traed i fyny' - a meistrolodd 73 o rannau mewn 53 o operâu dros ei yrfa i gyd. Cyfrifir rhai o'r portreadau hyn, megis rhan Figaro yn Le nozze di Figaro gan Mozart, Leporello yn Don Giovanni a Papageno yn Die Zauberflöte ac yn fwyaf arbennig Falstaff yn yr opera o'r un enw gan Verdi, yn glasuron. Yr oedd hefyd yn ddigon gwylaidd i gydnabod ambell fethiant: unwaith yn unig y canodd y brif ran yn Rigoletto Verdi, a phenderfynu nad oedd yn gweddu iddo.

Perfformiodd yn eang ar gyfandir Ewrop ac yng Ngogledd America, a phalmantu'r ffordd i gantorion eraill o Gymru. Cafodd 24 tymor yn olynol yn San Francisco, a bu'n canu'n rheolaidd yn Staatsoper Fienna, Chicago, La Scala Milan a Salzburg. Perfformiodd hefyd yn rheolaidd yn Covent Garden, gan ymddangos yno am y tro olaf ar 4 Mehefin 1984 yn L'elisir d'amore gan Donizetti. Câi'r enw gan rai cyfarwyddwyr o fod yn anodd, ond yr oedd yn berffeithydd. Testun peth siom iddo oedd na chafodd fwy o gyfle i gyfarwyddo ei hun.

Roedd Geraint Evans yn Gymro twymgalon a roddai lawer o gefnogaeth i'w gyd-Gymry yn enwedig ym myd opera ar gyfandir Ewrop. Fe'i cyffyrddwyd i'r byw noson ei ffarwel â Thŷ Opera Covent Garden yn 1984 pan ymunodd y corws, ei gyd-unawdwyr a'r gynulleidfa i ganu 'Hen Wlad fy Nhadau' i gloi'r noson. Cawsai gyngerdd ffarwel yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 1982 hefyd. Roedd ganddo dŷ haf yn Aberaeron er 1966, ac ymddeolodd yno yn gyfan gwbl ar ddiwedd ei yrfa, gan ddod yn gwbl gartrefol yn y gymuned ac yn gyfeillgar iawn â'r trefolion.

Priododd â Brenda Evans Davies (1920-2010) o Gilfynydd ar 27 Mawrth 1948, a chawsant ddau fab, Alun a Huw; yn ei hunangofiant mae Geraint Evans yn canmol ei wraig am ei chefnogaeth a'i dawn i gynnig beirniadaeth adeiladol ar ei berfformiadau.

Urddwyd ef â CBE yn 1959 a daeth yn farchog ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Derbyniodd hefyd wisg wen Gorsedd Cymru. Ymhlith cantorion Cymru mae i Geraint Evans le arbennig, yn enwedig fel arloesydd ym myd opera.

Bu farw Geraint Evans o drawiad ar y galon yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth ar 19 Medi 1992, a chladdwyd ei lwch ym mynwent Llanddewi Aber-arth ger Aberaeron. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa yn Abaty Westminster yn Llundain ar 27 Tachwedd yr un flwyddyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-03-29

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.