EVANS, DAVID ALLAN PRICE (1927 - 2019), ffarmacogenetegydd

Enw: David Allan Price Evans
Dyddiad geni: 1927
Dyddiad marw: 2019
Rhiant: Owen Evans
Rhiant: Ellen Evans (née Jones)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ffarmacogenetegydd
Maes gweithgaredd: Meddygaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: D. Ben Rees

Ganwyd David Price Evans ar 6 Mawrth 1927 ym Mhenbedw, Lerpwl, yn unig blentyn i Owen Evans, postfeistr, a'i wraig Ellen (g. Jones) a hanai o Fôn. Cyn iddo gychwyn yn yr ysgol, roedd y teulu wedi symud i Langefni, ac eto wedyn i'r Fflint lle cwblhaodd ei addysg gynradd a mynychu Ysgol Ramadeg Treffynnon.

Aeth i Brifysgol Lerpwl ym 1945 a graddiodd gyda dosbarth cyntaf mewn ffisioleg a biocemeg ym 1948. Trodd wedyn i fyd meddygaeth a llwyddo i gael gradd MBChB Lerpwl ym 1951, gan ennill nifer o wobrau am ei ddisgleirdeb. Ar ôl graddio, cyflawnodd wasanaeth milwrol gorfodol gyda'r R.A.M.C., 1953-5, gan mwyaf yn y Dwyrain Pell. Bu'n trin clefydau'r jwngl ymhlith y milwyr a'u teuluoedd yng Nghorea tua diwedd y rhyfel yno, ac yna yn Kuala Lumpur yn ystod yr argyfwng ym Malaya. Bu'r cyfnod hwn yn brentisiaeth arbennig.

Daeth yn ôl i gwblhau ei hyfforddiant yn Lerpwl o 1955-58. Lluniodd draethawd M.Sc ar y pwnc Experimental Peptic Ulcer ym 1957. Dyma gychwyn ei yrfa fel ymchwilydd o dan gyfarwyddyd dau o gewri'r byd academaidd meddygol, sef Henry Cohen (yn ddiweddarach Arglwydd Cohen o Benbedw) a Syr Cyril Clarke. Ar awgrym Cyril Clarke treuliodd gyfnod ym mhrifysgol John Hopkins yn Baltimore, lle cafodd gyfle i weithio gyda Victor McKusick ac ennill gradd M.D. am waith ymchwil ym maes etifeddeg ym 1960.

Daeth ymchwil meddygol David Price Evans ag ef i sylw'r byd academaidd, yn arbennig ym maes ffarmacogeneteg. O ganlyniad i'w ddarganfyddiadau, bu'n dysgu a darlithio yn ei faes arbenigol mewn deg gwlad ar hugain. Apwyntiwyd ef ym 1960 yn ddarlithydd yn Adran Feddygaeth Prifysgol Lerpwl ac fel houseman i'r Athro Henry Cohen yn Ysbyty Frenhinol Lerpwl. O, bu'n feddyg ymgynghorol yn ysbytai Broadgreen, Stanley a'r Northern. Dyrchafwyd ef yn Athro Meddygaeth ym 1968 ac ym 1972 dilynodd Syr Cyril Clarke fel Cadeirydd yr Adran Feddygaeth a Chyfarwyddwr Uned Geneteg Feddygol Nuffield.

Ar ôl un mlynedd ar ddeg yn y swydd allweddol honno, penderfynodd dderbyn sialens newydd ac ym 1983, daeth yn Gyfarwyddwr Meddygol Ysbyty Athrofaol y Lluoedd Arfog yn Riyadh yn Saudi Arabia. Golygai hyn fod at wasanaeth aelodau o'r teulu brenhinol yn Riyadh. Roedd yn llwyr gyfrifol am ochr feddygol yr ysbyty, a bu yno am bron i chwarter canrif, gan dreulio chwe mis yn Riyadh a chwe mis yn ei gartref yn Allerton, Lerpwl. Bu'n cynllunio adeiladau newydd ar gyfer yr ysbyty ac yn datblygu agweddau amrywiol o'r ymchwil, yn arbennig ym myd cyffuriau i drin gwythiennau'r corff dynol. Yn ystod ei gyfnod yn Riyadh y cwblhaodd ei gyfrol nodedig, Genetic Factors in Drug Therapy a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Caergrawnt ym 1993. Cyfrannodd, dros gyfnod o ddeugain mlynedd, nifer fawr o bapurau ac erthyglau ar faterion meddygol i gylchgronau a gyhoeddwyd yn Lloegr, Cymru, yr Alban, yr Unol Daleithiau a nifer o sefydliadau meddygol Ewropeaidd.

Ymhyfrydai yn ei Gymreictod a darllenai gylchgronau Cymraeg yn rheolaidd. Prynodd dyddyn Pen yr Allt, Llangristiolus, Môn ym 1963 a theithiai yn gyson ar y penwythnosau i ofalu am anghenion ffermio. Dan ei gynllunio gofalus, cynyddodd y tyddyn hyd at dros hanner can erw, a byddai ei rieni yn cael cryn bleser ar eu hymweliadau cyson â'r lle. Nid rhyfedd iddo fabwysiadu'r enw 'Dafydd o Baradwys' pan dderbyniwyd ef, ar sail ei gyfraniad i'r Gymraeg ac i Gymry Lerpwl ac i feddygaeth, yn aelod o Orsedd y Beirdd.

Perthynai i Gapel Presbyteraidd Cymru, Heathfield Road, Lerpwl a bu'n hynod o ffyddlon; er yn niwedd ei oes, fel ei rieni, penderfynwyd ar wasanaeth angladdol yr Eglwys Esgobol, a hynny yn Eglwys y Plwyf, Llangristiolus. Bu'n haelionus iawn i Gapel Bethel, Lerpwl, Eglwys Anglicanaidd Llangristiolus ac Adran Feddygol Prifysgol Lerpwl. Credai'n gydwybodol y dylai person fel ef, gydag ychydig o deulu, wasgar ei adnoddau ariannol i helpu eraill. Cyflwynodd dair miliwn o bunnoedd i Brifysgol Lerpwl i noddi dwy Gadair yn yr Adran Feddygaeth, sef 'Cadair David Price Evans mewn Meddygaeth' ac yna er cof am ei rieni, 'Cadair Oncoleg Owen ac Ellen Evans'.

Roedd ei flynyddoedd olaf yn gyfnod trist, gan iddo orfod mynd i gartref gofal wrth iddo ddirywio'n feddyliol a dioddef strôc a amharodd ar ei leferydd. Bu David Price Evans farw yn Ysbyty Brenhinol Lerpwl ar 29 Awst 2019, ac fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Llangristiolus, Môn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-03-21

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.