GIFFORD, ISABELLA (c. 1825 - 1891), botanegydd ac algolegydd

Enw: Isabella Gifford
Dyddiad geni: c. 1825
Dyddiad marw: 1891
Rhiant: George St John Gifford
Rhiant: Isabella Gifford (née Christie)
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: botanegydd ac algolegydd
Maes gweithgaredd: Gwyddoniaeth a Mathemateg; Natur ac Amaethyddiaeth
Awdur: Ffion Mair Jones

Ganwyd Isabella Gifford yn ne Cymru (Abertawe yn ôl un ffynhonnell, Defynnog, Brycheiniog, yn ôl ffynonellau eraill) tua 1825. Roedd yn ferch i George St John Gifford (bu farw 1869), a wasanaethodd gyda Syr John Moore ym mrwydr A Coruña ar 16 Ionawr 1809, a'i wraig Isabella (bu farw 1891), a briodwyd yn 1824. Merch i'r diwydiannwr John Christie (1774-1858) oedd ei mam: o'r Alban yn wreiddiol, ymgyfoethogodd Christie drwy fasnachu indigo yn India, gan ddefnyddio'i fodd i brynu tir y Fforest Fawr ym Mrycheiniog a chodi rhwydwaith o dramffyrdd rhwng Pontsenni a Chwm Tawe. Arddangosodd ei bwysigrwydd yn lleol drwy godi plasty bychan Glan Wysg yn 1822; fe'i penodwyd yn siryf Brycheiniog yr un flwyddyn. Wedi priodi, bu George Gifford yn gweithio am gyfnod fel asiant tir i'w dad-yng-nghyfraith, ond symudodd y teulu yn ystod plentyndod Isabella, gan dreulio cyfnodau yn Ffrainc, Ynys Jersey, Melcombe Regis, swydd Dorset, a Falmouth yng Nghernyw. Yno yr oeddynt yn byw pan fu farw unig frawd Isabella ym mis Medi 1844.

Addysgwyd Isabella gan ei mam, ac er nad oedd gan ei mam unrhyw alluoedd na diddordebau gwyddonol y mae'n bosibl bod aelodau eraill o'i theulu wedi cyfrannu at ddatblygiad a llwyddiannau'r ferch ym maes botaneg ac algoleg. Yn 1842, cyhoeddwyd cyfrol fechan yn dwyn y teitl The Little Marine Botanist: or, guide to the collection and arranging of sea-weed. Cysylltwyd enw Isabella â'r gyfrol hon, er nad yw'n amlwg beth yn union oedd natur ei chyfraniad. Gallai fod yn arwyddocaol, fodd bynnag, mai Darton & Sons oedd un o'r cyhoeddwyr, cwmni a oedd eisoes wedi cyhoeddi gwaith yr awdures llyfrau plant Emily Taylor (1795-1872), a berthynai i Isabella drwy briodas brawd Emily, Edgar Taylor, ac Ann Christie, chwaer i fam Isabella. Yn eu plith yr oedd gweithiau ynghylch byd natur megis Letters to a child: on the subject of maritime discovery (1820), cyfrol a fyddai'n sicr wedi apelio at yr Isabella ifanc. Perthynas arall i deulu Taylor oedd y daearegwr a'r tirfesurydd Richard Cowling Taylor (1789-1851); a thrwy briodas Mary Christie, chwaer arall i fam Isabella, a'r Undodwr a'r meddyg Thomas Southwood Smith (1788-1861), daeth gwyddonydd amlwg yn rhan o'r teulu.

Mae'n debyg mai yn 1848 yr ymfudodd Isabella a'i rhieni am y tro olaf ac ymgartrefu'n barhaol yn The Parks, Minehead, Gwlad yr Haf (soniodd am ei hymweliad cyntaf â thraeth Minehead yn y flwyddyn honno). Dyma hefyd flwyddyn ymddangosiad ail argraffiad o'i chyfrol, yn dwyn yn awr y teitl The Marine Botanist: An introduction to algology. Y flwyddyn ddilynol, cofnododd ymwelydd nodedig ei ymweliad â'i rhieni yn Minehead; daeth y botanegydd a'r archeolegydd Charles Cardale Babington (1808-1895) heibio i gael te gyda Chapten a Mrs Gifford fin nos ar 2 Gorffennaf 1849. Pan ddychwelodd yno drachefn yr haf canlynol, nododd enw 'Miss Gifford' yn ogystal yn ei ddyddiadur. Yr oedd Isabella yn dechrau ennyn sylw gwybodusion yn y maes a'i difyrrai fwyaf, felly. Canmolwyd ail argraffiad ei chyfrol mewn un adolygiad am ei egluro clir a doeth, gan broffwydo, er nad oedd yn cyflwyno llawer o wybodaeth y tu hwnt i enwau'r rhywogaethau, y byddai ei symlrwydd yn denu dilynwyr newydd i fyd blodau morol. Datblygodd gwaith Isabella fel algolegydd gyda chyhoeddi 'Observations on the Marine Flora of Somerset' yng nghylchgrawn Cymdeithas Archeoleg a Hanes Naturiol Gwlad yr Haf yn 1852. Dangosodd yn yr ysgrif hon mor drwyadl yr oedd wedi dod i adnabod Minehead a'r cyffiniau at ddibenion ei gwaith - traethau Blue Anchor, Bossington, Warren, a Clevedon, ynghyd ag aber afon Hone - gan gyflwyno gwybodaeth am algâu a ganfyddasai yn tyfu ar y traethau hyn ynghyd â rhai a ddaethai i'r lan arnynt mewn cyflwr mor dda fel ei bod yn bur sicr na allai eu tarddiad fod ymhell oddi wrth arfordir Gwlad yr Haf. Dangosodd ei chrebwyll gwyddonol yn glir wrth drafod sut yr archwiliodd ac yr asesodd ei sbesimenau gan ddefnyddio meicrosgop i sylwi ar faint y cellanau; eu trochi mewn dŵr ffres a nodi'r newid lliw; trafod manteision defnyddio tynrwyd i ganfod enghreifftiau pellach mewn dŵr dwfn; ac, wrth gwrs, nodi pryd ac ymhle arall y canfuwyd yr un algâu, boed hynny dros ffin y sir ar draeth Lynmouth yng ngogledd Dyfnaint neu mor bell i ffwrdd â Cádiz yn Andalucia neu Seland Newydd, hyd yn oed. Ymesgusododd rhag cyflwyno rhestr gynhwysfawr o'r holl algâu a ddaeth i'w sylw gan nodi mai ei nod oedd tynnu sylw at y sbesimenau a oedd ar gael yn gyson yn yr ardal yn hytrach na rhai nad oeddynt ond i'w gweld yn achlysurol. Ategai'r agwedd hon yr hyn a ddywedwyd am ail argraffiad ei chyfrol yn 1848, gan ddangos ei dymuniad i ddemocrateiddio'r broses o chwilota a gwneud y ddisgyblaeth yn hygyrch i algolegwyr newydd. Pan gyhoeddwyd trydydd argraffiad o The Marine Botanist yn 1853, wedi'i ehangu'n sylweddol ac yn cynnwys darluniau lliw o blanhigion morol (gan William Dickes (1815-1892), fel yn achos yr argraffiad blaenorol), nododd Isabella yn y rhagair mor falch ydoedd bod ei hymdrechion i symleiddio astudiaeth o algoleg wedi cael eu cydnabod am eu dull syml, poblogaidd, yn ogystal â thrwyadl wyddonol, o ddwyn sylw at gangen ddifyr o fotaneg nas astudiwyd fawr ddim arni yn y gorffennol. Rhan bwysig o'r poblogeiddio hwn oedd perthynas y gwaith â chyhoeddiadau William Henry Harvey (1811-1866), A manual of the British marine algæ (1841) - 'to which it will be found, I trust, a useful introductory volume', meddai Isabella mewn llythyr i'r wasg - a'i Phycologia Britannica (1846-51). Yr oedd ei pherthynas bersonol hi â Harvey yn gyfoes â chyfnod ei gyhoeddiadau ef: nododd ei henw ymhlith rhestr o unigolion, yn ddynion a menywod, a gyfrannodd sbesimenau at ei waith yn ail a thrydedd gyfrol y Phycologia Britannica, gan ddangos pwysigrwydd rhwydweithio iddi hi a'i chydlafurwyr yn y maes. Cyswllt arall a roddodd gydnabyddiaeth o'i chymorth oedd yr algolegydd a'r botanegydd Edward Morell Holmes (1843-1930), a gofiai anfon algâu ati i'w henwi, gan dderbyn mwsoglau yn gyfnewid oddi wrthi hi iddo yntau eu henwi.

At ei llwyddiant fel algolegydd, datblygodd Isabella yn ogystal fel botanegydd. Cofiai gyda boddhad wrth fynd yn hŷn gyfarfod gwyddonol yn Dunster, Gwlad yr Haf, lle darllenwyd papur o'i gwaith yn y maes hwn, ac arddangos ei chasgliad o blanhigion gorllewin Gwlad yr Haf. Y mae'n bur debyg mai hwn oedd Seithfed Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas Archeoleg a Hanes Naturiol Gwlad yr Haf, a gynhaliwyd ar 21-23 Awst 1855; nodir yng nghylchgrawn y Gymdeithas i bapur o waith Isabella gael ei gyflwyno, ac fe'i cyhoeddwyd o dan y teitl 'Notices of the Rare and most Remarkable Plants in the neighbourhoods of Dunster, Blue Anchor, Minehead, &c'. Nododd yn y papur ei bod wedi sylwi ar dros bum cant a hanner o blanhigion a rhedyn blodeuol yn yr ardal; gresynodd nad oedd cyfrol wedi'i hargraffu yn eu cylch, o ystyried mor eang oedd Gwlad yr Haf ac mor amrywiol ei phridd a'r cyfeiriadau daearyddol a wynebai; a dangosodd sensitifrwydd i effaith amaethu ar y rhywogaethau brodorol, a oedd yn marw, megis brodorion America wrth i'r dyn gwyn gamu tuag atynt ('dying, at the approach of cultivation, like the Red Indian disappearing from his hunting-grounds before the advancing footsteps of the white man').

Yn 1890, ymunodd Isabella Gifford â Chymdeithas Selborne, un o nifer o gymdeithasau yr ymaelododd â hwy yn ystod ei hoes, gan gynnwys y Clwb Cyfnewid Botanegol hyd 1871 a Chlwb Cyfnewid Botanegol Thirsk. Byddai wedi hoffi sefydlu cangen o Gymdeithas Selborne yng Ngwlad yr Haf, meddai, ond fe'i rhwystrwyd gan gyflyrau iechyd (cryd cymalau a niwralgia) a oedd yn ei gwneud yn bur gaeth i'w chynefin erbyn y cyfnod hwn. Ym mis Rhagfyr 1891, daeth y ffliw i'w chartref hi a'i mam; bu farw ei mam ddydd Nadolig ac Isabella y diwrnod canlynol. Claddwyd y ddwy ym mynwent Minehead. Drwy law ei hysgutor a'i chefnder, Herman Southwood Smith (1819-1897), cyflwynwyd casgliad botaneg Isabella i Gymdeithas Archeoleg Gwlad yr Haf. Gwarchodwyd rhai eitemau a gasglwyd ganddi neu a ddaeth drwy ei llaw hi i gasgliadau Margaret Gatty (née Scott, 1809-73) a Philip Brookes Mason (1842-1903), y naill bellach ym Mhrifysgol St Andrews a'r llall yn Amgueddfa ac Oriel Bolton.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-01-31

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.