GIVVONS, ALEXANDER (1913 - 2002), chwaraewr rygbi

Enw: Alexander Givvons
Dyddiad geni: 1913
Dyddiad marw: 2002
Priod: Eunice Givvons (née Clayton)
Plentyn: Alexander Givvons
Plentyn: Trevor Givvons
Rhiant: Alexander Givvons
Rhiant: Johanna Givvons (née Dunn)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: chwaraewr rygbi
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden

Ganwyd Alexander Givvons ar 2 Tachwedd 1913 ym Mhilgwenlli, Casnewydd, Sir Fynwy, plentyn hynaf Alexander Givvons (g. 1888), masnachlongwr o St Thomas yn India'r Gorllewin, a'i wraig Johanna Dunn (1896-1987). Roedd yn un o chwech o blant, gan gynnwys ei hanner brawd Trevor Williams (g. 1925) o ail briodas ei fam. Gelwid ef yn Alex (wedi ei ynganu fel Alec).

Mynychodd Ysgol Gatholig Holy Cross, ysgol a oedd ag enw mawr yn lleol am gampau chwaraeon. Ymunodd â thîm Rygbi'r Undeb yr ysgol yn naw oed, a daeth yn gapten arno'n fuan iawn. Chwaraeodd hefyd dros ysgolion Sir Fynwy.

Mwynhaodd chwarae rygbi ar gae Rodney Parade yng Nghasnewydd, ond soniai'n aml am fethu fforddio cymdeithasu gyda bechgyn y colegau pan fyddent gartref dros fisoedd yr haf. Roedd yn well ganddo felly chwarae dros ei glwb lleol, Pill Harriers RFC, nes iddo ymuno â thîm Cross Keys yn 19 oed. Gwnaeth argraff fawr yn syth fel mewnwr chwim, ac ar ôl ei weld yn chwarae yn erbyn Pontypŵl, honnodd y chwaraewr rhyngwladol Clem Lewis mai ef oedd 'the biggest discovery that I have seen since the war' (Daily News, 1932).

Clywodd pwyllgor Clwb Rygbi'r Gynghrair Oldham am allu Givvons, ac arwyddodd dros y clwb yn Ionawr 1933. Wrth i chwaraewyr eraill o Gymru droi i Rygbi'r Gynghrair yng ngogledd Lloegr, roedd Givvons yn awyddus i bobl wybod nad hiliaeth oedd y rheswm iddo adael Cymru. Cafodd y chwaraewr newydd lawer o sylw yn y papurau newydd ar y pryd, ac roedd diddordeb mawr yn ei botensial i chwarae dros Gymru.

Chwaraeodd Givvons gyfanswm o 241 o gemau dosbarth cyntaf fel hanerwr ac yn ddiweddarach fel blaenwr rhydd dros Oldham o 1933 i 1949 (gyda bwlch rhwng 1944 a 1948 pan chwaraeodd dros Huddersfield). Enillodd chwe chap dros Gymru rhwng 1936 a 1939, ac ef oedd yr ail chwaraewr Du i gynrychioli Cymru yn Rygbi'r Gynghrair (ar ôl George Bennett, yntau hefyd o Gasnewydd, yn 1935), ac roedd ei dîm yn fuddugol ym mhob un o'r chwe gêm. Bu iddo hefyd deithio Ffrainc ddwywaith gyda thîm Rygbi'r Gynghrair Prydain Fawr.

Yn 1934 priododd Eunice Clayton, a chawsant ddau fab, Alexander (1935-2017) a fu hefyd yn chwaraewr Rygbi'r Gynghrair, a Trevor (g. 1946).

Anogodd Givvons ei hanner brawd Trevor Williams i ddilyn ei gamre trwy chwarae dros Oldham. Ond yn anffodus, wedi i Trevor drosglwyddo o glwb Cross Keys nid oedd yn cyd-dynnu â hyfforddwr Oldham, ac er bod si y byddai yntau hefyd yn chwarae dros Gymru rhoddodd Trevor y gorau i'r gêm. Honnodd Givvons mai rhagfarn hiliol oedd achos hynny.

Wedi i'w yrfa fel chwaraewr ddod i ben, daeth Givvons yn hyfforddwr a dyn cit dros dîm 'A' Oldham. Yn annwyl gan bawb, roedd i'w weld yn gyson yn y clwb, yn cefnogi'r chwaraewyr ac yn gwarchod y stafelloedd newid sanctaidd rhag golwg newyddiadurwyr a ffotograffwyr. Pan ofynnwyd iddo am hyn atebodd gyda gwyleidd-dra nodweddiadol, 'I'm just doing my job'.

Yn 1995, pan gyflwynwyd Oriel Anfarwolion Rygbi'r Gynghrair Oldham, Givvons a ddewiswyd i'w ddadorchuddio ac yn ddiweddarach cafodd ei gynnwys ynddo. Enwyd stryd ar ei ôl wedyn, 'Givvons Fold' ger yr hen stadiwm yn ardal Watersheddings o Oldham. Nid anghofiwyd amdano yng Nghymru chwaith, ac mae lluniau ohono i'w gweld yng Nghlwb Rygbi Pill Harriers lle bu'n chwarae'n ddyn ifanc.

Bu Alex Givvons farw ar 14 Mehefin 2002 yn Oldham.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2022-05-03

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.