GREEN, BEATRICE (1894 - 1927), gweithredydd gwleidyddol

Enw: Beatrice Green
Dyddiad geni: 1894
Dyddiad marw: 1927
Priod: Ronald Emlyn Green
Plentyn: Kenneth Emlyn Green
Plentyn: John Nicholas Green
Rhiant: William Dykes
Rhiant: Mary Ann Dykes
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: gweithredydd gwleidyddol
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Bryan Boots

Ganwyd Beatrice Green ar 1 Hydref 1894 yn Abertyleri, sir Fynwy, yn seithfed o wyth o blant Williama Mary Dykes. Gweithiwr tun oedd ei thad, a daeth yn löwr pan oedd hi'n bum mlwydd oed. Cafodd un o'i brodyr, John Arthur Dykes, ei ladd gan gwymp to yng nglofa Rose Heyworth, Abertyleri yn 1910, yn 19 oed.

Cyflwynwyd Beatrice i fywyd cyhoeddus trwy Eglwys Ebenezer y Bedyddwyr, lle chwaraeodd ran flaenllaw yn yr Ysgol Sul. Cafodd ei haddysg yn Ysgol yr Eglwys, Abertyleri, ac Ysgol Ramadeg Abertyleri, a daeth yn athrawes. Er ei bod yn amlwg yn ddawnus yn ei phroffesiwn, yn sgil y gwaharddiad priodas a oedd yn weithredol ar y pryd fe'i gorfodwyd i roi'r gorau i ddysgu pan briododd Ronald Emlyn Green (1892-1967), glöwr, ar 22 Ebrill 1916. Cawsant ddau fab, Kenneth Emlyn (1917-1980) a John Nicholas (1925-2001).

Erbyn dechrau'r 1920au roedd Beatrice Green yn brysur iawn yn cefnogi'r ysbyty lleol a gydag adran merched Plaid Lafur Abertyleri. Fel merched Llafur eraill De Cymru ar y pryd, ni alwai am drawsnewidiad radical o swyddogaethau'r rhywiau yn y gymdeithas. Serch hynny, credai y dylai merched gael rheolaeth dros y pethau mwyaf perthnasol i'w bywydau ac y dylent weithredu'n gyhoeddus ar yr un telerau â dynion er mwyn cyflawni hynny.

Gweithiodd Green yn ddiflino fel ysgrifenyddes Cynghrair Lieiniau yr ysbyty o adeg ei sefydlu yn 1922. Grŵp o ryw ddeugain o ferched lleol oedd y Gynghrair, gan gynnwys dwy o chwiorydd Beatrice a nifer o ferched y Blaid Lafur, a'r nod oedd darparu gwasanaethau llieiniau a golchi i'r ysbyty. Byddent yn trefnu gweithgareddau codi arian er mwyn prynu defnyddiau ac yn gwnïo eitemau megis cynfasau a chasys gobenyddion. Rhoddai ei chydweithwyr lawer o'r clod am lwyddiant y Gynghrair i Beatrice Green yn bersonol. Yn 1923 penderfynwyd codi tâl aelodaeth ac estyn diben y Gynghrair i fod yn glwb cymdeithasol gyda digwyddiadau rheolaidd i'r aelodau. Byddai'r ysbyty hefyd yn ymgynghori â'r Gynghrair ar ddatblygiadau megis cynnig David Daggar am glinig atal cenhedlu yn 1925. Fel cynrychiolydd y Gynghrair ar y bwrdd rheoli cyfrannai Green i lawer o benderfyniadau polisi'r ysbyty. Roedd Marie Stopes yn allweddol i ffurfiant y clinig a daeth Green yn ffrind agos iddi yn y cyfnod hwn. Er bod Green yn gefnogol iawn i'r clinig, nid oedd y Gynghrair, na chwaith adran leol y merched, yn unfryd o blaid ei sefydlu yn yr ysbyty. Parhaodd y clinig am 16 mis cyn cael ei orfodi i gau yn sgil gwrthwynebiad chwyrn dan arweiniad gwŷr eglwysig lleol.

Bu Green yn weithgar iawn yn ystod Streic Gyffredinol 1926, fel llywydd Cynghor Ymgynghorol Merched Llafur Sir Fynwy ac ar ran Pwyllgor y Merched dros Gymorth i Wragedd a Phlant y Glowyr (WCRMWC). Cynorthwyodd i ffurfio Pwyllgor Cymorth Mamolaeth yn Abertyleri a ganolbwyntiai ar ferched yn eu hamser esgor. Cyfrannodd hefyd i'r cynllun maethu a drefnwyd gan y WCRMWC i ddarparu cartrefi dros dro i blant anghennus. Ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno hebryngodd Beatrice Green ac Elizabeth Andrews griw o hanner cant o blant glowyr o Ddowlais, Merthyr, y Rhondda ac Abertyleri at deuluoedd maeth yn Llundain am gyfnod y Cloi Allan.

Roedd gan Green ddawn ysgrifennu ac areithio hefyd. Ceir cyfweliad â hi yn rhifyn Gorffennaf 1926 o Labour Woman lle mae'n disgrifio bywyd yn Abertyleri yn fyw iawn gyda manylion am y system Cymorth i'r Tlodion a sut beth oedd bod yn fam i deulu mawr heb gyflog yn dod i mewn. Gofynnwyd iddi siarad mewn ralïau yn Llundain ac i fod yn aelod o ddirprwyaeth Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr i'r Undeb Sofietaidd. Amcan y ddirprwyaeth o bedwar ar bymtheg, gan gynnwys chwe menyw yn cynrychioli gwragedd glowyr amryw feysydd glo, oedd cadarnhau'r cwlwm rhwng glowyr Prydain a gweithwyr Sofietaidd yn dilyn rhoddion gan undebwyr Rwsia tuag at gymorth i'r glowyr yn ystod y Cloi Allan. Yn ystod y daith hir rhwng 27 Awst ac 16 Hydref 1926 ymwelodd y gwragedd â gweithleoedd, clybiau, ysbytai ac ysgolion gan archwilio sawl gwedd ar y bywyd Sofietaidd. Yn ôl Marion Phillips roedd y daith hon yn goron ar hapusrwydd Green ac yn fodd iddi flodeuo fel areithydd, awdur ac ymgyrchydd. Anfonodd Green ddwy erthygl faith i Labour Woman yn adrodd am ei phrofiadau. Er nad arddelai gomiwnyddiaeth, mae'n amlwg bod y gyfundrefn Sofietaidd wedi gwneud cryn argraff arni, ac adroddodd fod merched wedi ennill cydraddoldeb.

Parhaodd Beatrice Green yn weithgar iawn tan ei marwolaeth gynamserol o golitis wlserol yn Ysbyty Aber-big, sir Fynwy, ar 19 Hydref 1927. Fe'i claddwyd yn Eglwys Blaenau Gwent, Abertyleri. Mewn ysgrif goffa yn Labour Woman (Tachwedd 1927), honnodd Phillips mai caledi ac ansicrwydd y cyfnod a gwtogodd fywyd Green. Er mai cymharol fyr oedd ei gyrfa wleiyddol, erbyn ei marwolaeth roedd ei chyflawniadau'n sylweddol a diau y buasai dyfodol addawol o'i blaen yn y mudiad llafur.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2022-10-26

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.