GWINNETT, BUTTON (1735 - 1777), masnachwr, tirfeddiannwr a gwleidydd

Enw: Button Gwinnett
Dyddiad geni: 1735
Dyddiad marw: 1777
Priod: Ann Gwinnett (née Bourne)
Plentyn: Amelia Gwinnett
Plentyn: Ann Gwinnett
Plentyn: Elizabeth Ann Gwinnett
Rhiant: Samuel Gwinnett
Rhiant: Ann Gwinnett (née Emes)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: masnachwr, tirfeddiannwr a gwleidydd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Perchnogaeth Tir; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol

Ganwyd Button Gwinnett yn 1735 yn Down Hatherley, Swydd Gaerloyw, y trydydd o saith o blant y Parch. Samuel Gwinnett (bu farw 1777), offeiriad Anglicanaidd, a'i wraig Ann (g. Emes, bu farw 1767). Fe'i bedyddiwyd ar 10 Ebrill 1735. Roedd hynafiaid Samuel Gwinnett wedi gadael Sir Gaernarfon ac ymgartrefu yn Swydd Gaerloyw yn y 1550au, ond roedd eu cysylltiadau Cymreig yn dal i fod yn gryf. Mae'r cyfenw Gwinnett yn ffurf ar yr enw rhanbarthol Gwynedd. Mam Ann Emes oedd Ann Prise o Forgannwg. Daliai teulu ei chyfnither gefnog Barbara Button diroedd helaeth ym Morgannwg, gan gynnwys maenor y Cotrel a etifeddwyd gan Barbara. Barbara Button oedd mam fedydd Button Gwinnett. Ei frodyr a chwiorydd oedd Anna Marie, Samuel, Thomas, Robert, John ac Emilia. Tystiolaeth o gyswllt agos y teulu â Morgannwg yw'r ffaith fod Anna Marie, a fu farw yn bymtheg oed, wedi ei chladdu yn Eglwys St Nicholas yn y Cotrel, a bod Samuel wedi priodi Emilia Button a etifeddodd Barc y Cotrel gan ei modryb.

Cafodd Button Gwinnett ei addysg yn Ysgol y Brenin, Caerloyw. Bu'n gweithio am rai blynyddoedd dros ddau ewythr o fasnachwyr ym Mryste, ac wedyn symudodd i Wolverhampton yn 1755. Yn 1757 priododd Ann Bourne, etifeddes a oedd yn ferch i groser cefnog. Ganwyd iddynt dair merch, Amelia, Ann ac Elizabeth Ann. Bu Button yn masnachu â'r gwladfeydd Americanaidd yn India'r Gorllewin. Nid oes tystiolaeth iddo fod yn rhan o'r fasnach gaethweision. Roedd yn fasnachwr aflwyddiannus, ac yn fethdalwr i bob pwrpas erbyn 1762, ac yn sgil ei fethiant ymfudodd i wladfa Georgia. Erbyn 1765, roedd yn masnachu yn Savannah, Georgia. Cafodd les 500 mlynedd ar Ynys St Catherine, oddi ar arfordir Georgia. Roedd rhai caethweision yn rhan o'r ddaliadaeth honno. Bu'n aflwyddiannus fel perchennog planhigfa, ond gwleidyddiaeth oedd ei brif ddiddordeb. Bu'n ymhél â gwleidyddiaeth leol yn y blynyddoedd 1768-1774. Er ei fod braidd yn anonest wrth daro bargeinion ariannol a chaffael tir, roedd yn un o dirfeddianwyr mwyaf Georgia erbyn 1772. Wynebodd anawsterau ariannol mynych yn America ac yn Lloegr, ac yn ystod ei gyfnod yn Georgia beiodd y rhain ar bolisïau Llywodraeth Prydain.

Yn y blynyddoedd 1775-1776, bu'n wleidydd taleithiol a chenedlaethol gydag enw fel hyrwyddwr ymroddedig annibyniaeth Americanaidd. Roedd yn un o dri chynrychiolydd Georgia yn yr ail Gyngres Gyfandirol yn Philadelphia yn 1776. Gwasanaethodd ar ddau bwyllgor yno, ac ef oedd ail lofnodwr y Datganiad Annibyniaeth (ynghyd â Francis Lewis, a anwyd yng Nghymru, a Thomas Jefferson a hawliai dras Gymreig). Ymadawodd â Philadelphia yn fuan wedyn. Ef oedd arweinydd 'Popular Party' Georgia, a dewiswyd ef ganddynt yn Llefarydd Cyngres Ranbarthol Georgia. Yn sgil y swydd honno llywiodd y gwaith o greu cyfansoddiad Georgia, un a oedd yn neilltuol o ddemocrataidd am ei gyfnod gan estyn yr etholfraint yn sylweddol. Cyfrannodd at rwystro uniad De Carolina a Georgia.

Ym Mawrth 1777, etholwyd ef yn Llywydd Cyngor Diogelwch Georgia, ac yn sgil hynny ef oedd pencadfridog y milisia. Roedd yn awyddus i arwain cyrch ar Fflorida, o ble roedd Teyrngarwyr yn ymosod ar Georgia. Bu sawl gwrthdaro rhyngddo a swyddog yn y Fyddin Gyfandirol, Lachlan McIntosh, a arweiniodd yn y pen draw at ornest lle cafodd Gwinnett glwyf yn ei goes a achosodd ei farwolaeth ar 19 Mai 1777 trwy gyfuniad o haint, trawma a madredd. Mae peth ansicrwydd ynghylch lleoliad ei fedd, ond gallai fod yn yr Hen Fynwent Wladfaol, Savannah, Georgia. Mae Gwinnett County, ardal o Atlanta, Georgia, wedi ei henwi ar ei ôl.

Er gwaethaf ei ansefydlogrwydd ariannol parhaus, awgryma ei yrfa wleidyddol ei fod yn huawdl a charismataidd. Mewn adroddiad a luniwyd yn fuan ar ôl ei farwolaeth disgrifiwyd ef yn ŵr o gorffolaeth fawreddog. Mae ei waith yn cynhyrchu cyfansoddiad anarferol o ddemocrataidd Georgia efallai'n awgrymu iddo gyfrannu mwy na'i lofnod yn unig i'r Datganiad Annibyniaeth tra bu yn y Gyngres Gyfandirol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2022-06-29

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.