Ganwyd Edward Hartmann ar 3 Mai 1912 yn Wilkes-Barre, Pennsylvania, UDA, yn fab i Louis Hartmann (1877-1954) a'i wraig Catherine (g. Jones-Davies, 1877-1940). Roedd Catherine yn dair blwydd oed pan ymfudodd ei theulu i'r Unol Daleithiau. Cartref ei thad, Edward R. Jones, oedd Penhernwenfach ger Llanwrtyd yn Sir Frycheiniog. Cofiai Edward Hartmann mai cartref mam Catherine, Jane Davies, oedd 'Tynllwyn', hefyd yn Sir Frycheiniog. Gallai Catherine Hartmann olrhain ei thras i rai o deuluodd hynaf Dyffryn Irfon, ac yn uniongyrchol oddi wrth deulu Llwyn-On, a oedd ymhlith sylfaenwyr Capel Annibynnol Troedrhiwdalar, y capel anghydffurfiol hynaf a fodolai yng Nghymru, yn dyddio o 1590, yn ôl yr hyn a glywodd Edward gan ei fam. Roedd gan Edward un brawd, Louis (1906-1983).
Tref lofaol Wilkes-Barre, ynghyd â Scranton, oedd y ganolfan â'r nifer fwyaf o ymfudwyr o Gymru i'r Unol Daleithiau yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Tyrrai mewnfudwyr i weithio yn Wilkes-Barre, a chofiodd Hartmann dyfu i fyny gyda Phwyliaid, Slofaciaid, Wcrainiaid ac eraill, ac mae hyn yn gymorth i esbonio ei arbenigedd fel hanesydd yn nes ymlaen.
Enillodd Hartmann ei AB a'i AM o Brifysgol Bucknell yn 1937 a 1938. Rhwng 1943 a 1946, gwasanaethodd ym myddin UDA yn Ewrop fel hanesydd rhyfel gyda'r 90fed Adran Troedfilwyr. Ar ôl ei wasanaeth rhyfel, enillodd PhD o Brifysgol Columbia, Efrog Newydd, yn 1947, gan lunio ei draethawd ar 'The Movement to Americanize the Immigrant'. Aeth ati wedyn i ennill gradd arall gyda chymorth y 'GI Bill', sef BS mewn Astudiaethau Llyfrgell yn 1948.
Yn ystod 1942-1943, dysgodd Hartmann Hanes yn Sefydliad Ann-Reno yn Ninas Efrog Newydd. Yn 1946-1947, dysgodd yng Ngholeg Wilkes, Wilkes-Barre, ac yna yn City College, Efrog Newydd (1947-1948). Yn 1948, cynigiwyd iddo swydd Cyfarwyddwr Llyfrgelloedd ym Mhrifysgol Suffolk, Boston, ar gyflog o $5000 y flwyddyn, 'a wonderful salary in those days' fel y cofiodd. Arhosodd yn y swydd honno am naw mlynedd, ac yn aelod o staff Hanes y Brifysgol am ddeng mlynedd ar hugain. Ymddeolodd yn 1978. Yn sgil ei fri fel academydd a gweinyddwr, cafodd Hartmann ei gynnwys am sawl blwyddyn yn Who's Who in America?
Prif gyhoeddiadau Hartmann oedd: The Movement to Americanize the Immigrant, Columbia University Press, 1948; A History of American Immigration, Rand McNally, 1967; Americans from Wales, Boston: Christopher House, 1967 (ailargraffwyd yn 1978 a 1983, New York: Octagon Books, a chan y National Welsh-American Foundation yn 2001); History of the Welsh Congregational Church of the City of New York, 1801-1951, Swansea, 1969; American Immigration, Lerner Publishing Group, 1979; The Welsh of Wilkes-Barre and the Wyoming Valley, St David's Society of Wyoming Valley, Wilkes-Barre, Pennsylvania, 1985, sef hanes ei gymuned ei hun yn ôl Hartmann. Fe'i disgrifiodd Hartmann ei hun fel 'an ethnic historian, meaning my emphasis is broader than just plain Welsh, such as immigration, Americanization, and things of that sort.' Dywedodd iddo lunio ei draethawd doethurol 'before all the interest in immigrants... So I'm sort of a pioneer in the field among many others...'
Bu Hartmann yn weithgar iawn yn cynnal cysylltiadau rhwng Cymru ac America, a nododd yn ei gyfrol Americans from Wales iddo ymfalchïo yn llwyddiannau'r Cymry yn yr Unol Daleithiau. Yn sgil ei falchder yn ei dras Gymreig bu'n un o sylfaenwyr Sefydliad Cenedlaethol Cymru-America, a dyfarnwyd iddo Fedal Dreftadaeth y Sefydliad yn 1991. Cydnabuwyd ei gyfraniad i gysylltiadau Cymru-America hefyd gan ddyfarniad Medaliwn Aur Cymdeithas Cymry Philadelphia yn 1966, a Medal Hopkins Cymdeithas Dewi Sant Talaith Efrog Newydd yn 1970. Bu'n is-lywydd mygedol Cymru a'r Byd (1975-95) ac Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion Llundain (1983-95).
Bu Edward Hartmann farw ar 26 Hydref 1995 yn Wilkes-Barre, ac fe'i claddwyd ym mynwent St Nicholas yn Shavertown, Luzerne County, Pennsylvania.
Dyddiad cyhoeddi: 2022-10-31
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.