Ganwyd Liz Howe ar 27 Hydref 1959 yn Kingstanding yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, yn un o ddau o blant Robert Pulford, peiriannydd trydanol, a'i wraig Margaret (g. Davis). Roedd ganddi un brawd, Robert.
Mynychodd Ysgol Ramadeg Aldridge yn Walsall (1971-78) ac aeth ymlaen i Goleg y Frenhines Elizabeth, Prifysgol Llundain, lle'r astudiodd ffisioleg mamaliaid gan ennill gwobr Cheesman am ffisioleg ac astudio crwbanod yng Ngwlad Groeg a Ffrainc. Gwnaeth ei doethuriaeth wedyn ym Mhrifysgol Bangor (1981-85) ar ffisioleg y sginc llygedynnog, math o fadfall a geir yn yr Eidal, Gwlad Groeg a Malta. Ym Mangor cwrddodd â Mike Howe a oedd yn gwneud doethuriaeth mewn entomoleg. Priodasant yn 1989 a chydweithio ar brosiect Sŵ Jersey ar grwbanod Angonoka ym Madagasgar. Ar ôl geni eu dwy ferch, byddai gwyliau teuluol yn dilyn trywydd cofnodion infertebrata prin, a datblygodd y ddau ohonynt yrfaoedd mewn cadwraeth natur yng Nghymru.
Yn naturiaethydd dawnus, dechreuodd Liz Howe weithio i'r Cyngor Cadwraeth Natur (1986-91) ym Mangor, gan arolygu safleoedd ac wedyn paratoi cynlluniau rheoli cadwraeth. Fe'i penodwyd yn arweinydd tîm rhywogaethau ac ymlusgolegydd pan ffurfiwyd Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn 1991 a pharhaodd yn y swyddogaeth honno gyda Cyfoeth Naturiol Cymru tan ei marwolaeth. Hi oedd awdur y ddwy bennod ar amffibiaid ac ymlusgiaid Môn yn A New Natural History of Anglesey, a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Hynafiaethwyr Môn yn 1990.
Prif etifeddiaeth Howe ym maes cadwraeth yw ei gwaith fel cydawdur y gyfrol glodfawr Habitats of Wales: A Comprehensive Field Survey, 1979-1997, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2010. Am ddeng mlynedd o 1987, arweiniodd Howe y timau arolygu a fapiodd lystyfiant ar draws tirweddau iseldir Cymru. Cyfunwyd y canlyniadau gyda gwybodaeth debyg ar gyfer cynefinoedd ucheldir i gynhyrchu'r gyfrol honno sy'n darparu'r sylfaen wyddonol ar gyfer rheoli cadwraeth ddaearol strategol yng Nghymru. Roedd y mapiau cynefinoedd, a gynhyrchwyd cyn systemau gwybodaeth daearyddol, yn ddull gofodol arloesol a gyflwynodd y data yn y modd mwyaf defnyddiadwy posibl. Roeddent yn gymorth i adnabod safleoedd a allai fod o ddiddordeb gwyddonol arbennig ac i ddiffinio darnau o dir addas ar gyfer mynediad cyhoeddus o dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy. Roeddent hefyd yn gyfraniad at ein dealltwriaeth o ddarnio cynefinoedd a gwasgariad rhywogaethau. Bydd y mapiau cynefinoedd yn sylfaen i fonitro newidiadau yn amgylchedd gwledig Cymru dros yr unfed ganrif ar hugain a thu hwnt. Mewn astudiaeth arbennig asesiwyd lleihau a darnio rhostir a chynefinoedd lled-naturiol eraill ym Mhenrhyn Llŷn rhwng 1920-22 and 1987-88. Roedd Howe hefyd yn gydawdur arolwg o elfennau biolegol Safleodd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru a ystyriodd bosibiliadau rhwydweithio rhwng yr ardaloedd gwarchodedig.
Ar y cyd â Sŵ Caer, arweiniodd Howe brosiect llwyddiannus bridio caeth ac ailgyflwyno er mwyn adfer madfallod tywod prin mewn safleodd twyni tywod arfordirol addas yng Nghymru lle roeddent wedi bodoli'n hanesyddol ond wedi diflannu. Gollyngwyd madfallod yn Nrysfa Talacre yn y gogledd, ac yn Ynyslas sy'n rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi yn y canolbarth. Arweiniodd brosiect arall debyg ar dwyni Presthafn a Gronant a Drysfa Talacre i greu cynefin addas ar gyfer y llyffant cefnfelyn prin. Cymaint oedd llwyddiant y prosiect hwn fel bod y safle bellach yn cyfrannu grifft y llyffant cefnfelyn i adfer safleoedd eraill.
Cynghorodd Howe ar fesurau cadwraeth rhywogaethau a gynhwyswyd yng nghynllun amgylchedd amaeth cyntaf Cymru, a weithredwyd yn 1992 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Datblygodd raglen grantiau dylanwadol iawn yn ogystal i gefnogi cydweithredu adeiladol gyda mudiadau heb fod yn rhan o'r llywodraeth ac elusennau bywyd gwyllt, a chreodd rwydwaith mawr o wirfoddolwyr cadwraeth natur, gan gynnwys gwyddonwyr torfol. Cynhwysai'r rhaglen hon y cynllun prentisiaeth cennau cyntaf erioed i recordio a monitro helaethrwydd y math hwn o blanhigion isel yng Nghymru. Arweiniodd Howe y gwaith o gynhyrchu'r cynlluniau gweithredu bioamrywiaeth cyntaf ar gyfer rhywogaethau yng Nghymru a warchodir dan Orchymyn Cynefinoedd a Rhywogathau'r UE. Cynorthwyodd hefyd gyda chyhoeddi'r Rhestri Data Coch o blanhigion fasgwlaidd, bryoffytau a chennau, gan gynnwys asesiad o'r bygythiadau sy'n eu hwynebu. Ar y cyd â chydweithwyr ar draws y DU, cyfrannodd yn ddiweddarach i'r gwaith o asesu effaith ecolegol botensial gwywiad onwydd.
Yng Nghyngor Cefn Gwlad Cymru, roedd y cyngor call a gwyddonol a gafwyd gan Howe yn fodd i gynnal gweithrediadau cadwraeth natur yng Nghymru, gan gyrraedd gweinidogion o fewn Llywodraeth Cymru a chyfrannu at fentrau ar lefel y DU trwy'r Cydbwyllgor Cadwraeth Natur. Yn ogystal â hynny, yn sgil ei dawn i adnabod cymeriad a thalent, llwyddodd i adeiladu tîm o arbenigwyr teyrngar a rannai ei hymroddiad i atal colledion bioamrywiaeth, ac roedd pob un wrth eu bodd yn cydweithio â hi.
Ar eu tyddyn ym Môn adferodd Liz a'i gŵr ddarn o balmant calchfaen a ddaeth yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Y Bonc, Marian-glas, sy'n nodedig am ei gymuned glaswelltir calchfaen a rhostir.
Ni fyddai hanes Liz Howe yn gyflawn heb nodi ei hawydd i ehangu mynediad i gerddoriaeth ar gyfer pobl ifainc. Gweithiodd gyda Chyfeillion Cerdd Ieuenctid Gwynedd am dros ddeng mlynedd, gan wasanaethu fel aelod pwyllgor ac ysgrifennydd. Roedd yn ewffonydd brwd ym Mand Pres Biwmares, ac yn 2018 cyfrannodd at yr ymgyrch codi arian er mwyn i'r band ieuenctid gael mynd i Bencampwriaethau Bandiau Pres Ewrop.
Roedd Liz Howe yn angerddol am amgylchedd Cymru a gadawodd ddisgrifiad cynhwysfawr ohono. Llwyddodd yn ogystal i feithrin cenhedlaeth o arbenigwyr cynefinoedd a rhywogaethau a oedd yn ymroddedig i ofalu amdano. Er lles yr amgylchedd, rhannodd ei gwybodaeth ddofn gydag argyhoeddiad, eglurder, diplomyddiaeth a hwyl, ac elwodd ei chymuned leol yn fawr o'i hymdrechion i wella mynediad i gerddoriaeth.
Bu Liz Howe farw o gancr yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ar 31 Mawrth 2019, yn 59 oed, a llosgwyd ei gweddillion yn Amlosgfa Bangor ar 10 Ebrill. Gorwedd ei llwch mewn rhan wyllt o Ynys Môn.
Dyddiad cyhoeddi: 2022-07-06
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.