ILLINGWORTH, LESLIE GILBERT (1902 - 1979), cartwnydd gwleidyddol

Enw: Leslie Gilbert Illingworth
Dyddiad geni: 1902
Dyddiad marw: 1979
Rhiant: Richard Frederick Illingworth
Rhiant: Helen Illingworth (née MacGregor)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cartwnydd gwleidyddol
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Chris Williams

Ganwyd Leslie Illingworth ar 2 Medi 1902 yn Ffordd yr Harbwr, y Barri, mab ieuengaf Richard Illingworth, syrfëwr meintiau o Swydd Gaer, a'i wraig Helen (g. MacGregor), athrawes o Swydd Efrog. Roedd ei ewythr Frank Illingworth yn gartwnydd llai a gyhoeddodd yn Punch yn 1914. Symudodd y teulu yn 1904 i Dregatwg, lle mynychodd Illingworth Ysgol Gynradd Ffordd Palmerston. Pan symudodd y teulu eto i Silstwn ym Mro Morgannwg yn 1912, mynychodd Ysgol St Athan, gan ennill ysgoloriaethau wedyn i Ysgol Sir Bechgyn y Barri (lle roedd yn gydoeswr â Ronald Niebour a weithiodd maes o law fel 'Neb' yn gyd-gartwnydd ag Illingworth), ac yna i Goleg Technegol Dinas Caerdydd.

Erbyn 1920 roedd Illingworth yn gweithio yn adran lithograffeg y Western Mail, a dechreuodd dynnu brasluniau a chartwnau chwaraeon ar gyfer ei chwaer-bapur y Football Express. Pan fu farw J. M. Staniforth, uchel ei barch fel 'Tenniel Cymru', yn 1921, cymerodd Illingworth ei le fel cartwnydd gwleidyddol y Western Mail, gan weithio i'r papur bob yn ail â pheidio tan 1927. Er bod ganddo ddaliadau sosialaidd yn ddyn ifanc, pan ddarllenai Marx ac Engels, ymfodlonodd i gyd-fynd â safbwynt gwleidyddol y Mail, a daliodd i weithio trwy Streic Gyffredinol 1926, gan gyfaddef yn nes ymlaen 'I knew which side of my bread was buttered'.

Yn ystod y 1920au ac i mewn i'r 1930au cyfunodd Illingworth gartwna gwleiyddol gyda gwaith llawrydd, gan arlunio ar gyfer ystod o gyhoeddiadau yn Llundain, ac yn eu plith y Strand, London Opinion, Punch a Tit-Bits, tra'n astudio yn Ysgol Gelf Gain y Slade a theithio i Baris ac i'r Unol Daleithiau. Bu'n byw yn Sain Tathan o 1925, ac yn 1936 gadawodd Gymru yn barhaol, gan symud i Lundain. Yn 1939 cymerodd le 'Poy' (P. H. Fearon) fel cartwnydd gwleidyddol gyda'r Daily Mail, ac arhosodd yn y swydd honno tan 1969. Erbyn iddo ymuno â'r Mail nid oedd gan Illingworth ddaliadau radicalaidd. Fe'i gwelai ei hun yn ddyn dosbarth canol is yn arlunio ar gyfer darllenwyr dosbarth canol is, a derbyniai safbwynt golygyddol adain-dde y Mail, gan bregethu i'r cadwedig yn ei waith yn hytrach na cheisio herio eu rhagfarnau.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd Illingworth yn y Cartreflu ac fel gynnwr gwrthawyrennol yn Hyde Park. Yn dilyn marwolaeth Bernard Partridge yn 1945 daeth yn ail gartwnydd gyda Punch, ac yna'n brif gartwnydd yn 1949. Parhaodd i arlunio ar gyfer y cylchgrawn wythnosol tan 1968. O 1940 tan 1963 bu'n byw yn Knightsbridge gyda'i howsgiper a chymdeithes Enid Ratcliff, a symudodd wedyn i Horley yn Sussex. Ni fu byth yn briod. Dewiswyd ef yn gartwnydd gwleidyddol a chymdeithasol y flwyddyn trwy bleidlais gan Glwb Cartwnwyr Prydain Fawr yn 1962, bu'n llywydd cyntaf Cymdeithas Cartwnwyr Prydain yn 1966 a derbyniodd ddoethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Swydd Gaint yn 1975. Ymddangosodd ar raglen radio'r BBC Desert Island Discs yn 1963. Daliodd ati i weithio'n achlysurol hyd 1976 dros y News of the World a'r Sun. Bu farw mewn ysbyty yn Hastings ar 20 Rhagfyr 1979.

Yn wahanol i lawer o gartwnwyr blaenllaw'r cyfnod, ni chyhoeddodd Illingworth gasgliadau o'i waith, er i dros saith deg o'i gartwnau i'r Daily Mail ymddangos mewn cyfrol gyfansawdd yn 1944 ac i'r cartwnydd a hanesydd cartwnau Americanaidd Draper Hill ddathlu gyrfa Illingworth yn Illingworth on Target (1970). Mae casgliad mawr o waith Illingworth ar gael ar-lein gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Gyda'i acen Morgannwg gref, roedd yn amlwg i bawb mai Cymro oedd Illingworth, ac ef oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y ffermwr o Gymro 'Organ Morgan' yn strip comig 'Flook' Wally Fawkes. Serch hynny, ychydig iawn o elfen Gymreig oedd i waith Illingworth yn Punch a'r Daily Mail. Ni ddyfeisiodd unrhyw stereoteip cenedlaethol neu ffigwr pobun ac nid amlygodd unrhyw gydymdeimlad â Chymry blaenllaw yn y byd gwleidyddol, megis Aneurin Bevan, a oedd yn gas ganddo, a Winston Churchill yn well ganddo o lawer.

Yn ddylunydd celfydd a grymus, arferai Illingworth lai o reolaeth dros ei gynnwys na'r rhan fwyaf o gartwnwyr blaenllaw, a'i olygyddion fyddai'n aml yn dewis y pwnc iddo ei ddarlunio. Sylwodd Malcolm Muggeridge, a fu'n olygydd arno gyda Punch am bum mlynedd, er nad oedd Illingworth yn 'political animal, and has little or no spirit of partisanship where politicians and their policies are concerned, yet he reacts profoundly to a political situation seen as part of the drama of life' ('Introduction' i Illingworth on Target, 6). Ei gartwnau gwrol a gwladgarol o gyfnod yr Ail Ryfel Byd, pan oedd bron pob gelyn yn allanol yn hytrach nag yn fewnol, yw'r cofadail effeithiolaf i gelfyddyd Illingworth. Mae 'The Combat' (Punch, 6 Tachwedd 1939), sy'n darlunio un awyren ymladd Spitfire yn paratoi i fynd i'r afael â bwystfil anferth yn cynrychioli'r Almaen Natsïaidd, yn sefyll yn atgof pwerus o natur ddirfodol y frwydr honno, ac o'r rhan bwysig a chwaraeodd cartwnwyr gwleidyddol trwy gynnal ysbryd y cyhoedd yn ystod ei chyfnodau anoddaf.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2023-11-27

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.