JOHN, THOMAS GEORGE (1880 - 1946), peiriannydd a dyn busnes

Enw: Thomas George John
Dyddiad geni: 1880
Dyddiad marw: 1946
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: peiriannydd a dyn busnes
Maes gweithgaredd: Peirianneg, Adeiladu, Pensaerniaeth Forwrol ac Arolygu Tir; Diwydiant a Busnes
Awdur: Lyn Owen

Ganwyd Thomas John ar 18 Tachwedd 1880 yn Noc Penfro, Sir Benfro, yn ail o bedwar o blant William H. John, saer llongau, a'i wraig Maria (g. Rees). Roedd ganddo ddau frawd ac un chwaer, a Chymraeg oedd iaith yr aelwyd. Ar ôl ei addysg mewn ysgolion lleol, daeth yn brentis yn nociau'r llynges lle gweithiai ei dad. Gwnaeth gryn argraff ar ei gyflogwyr, ac enillodd ddwy ysgoloriaeth i astudio yng Ngholeg Brenhinol y Llynges ac yn y Coleg Gwyddoniaeth Brenhinol. Roedd ei allu peirianyddol yn fodd iddo symud ymlaen yn gyflym i gael profiad yn nociau'r llynges yn Devonport ac yn iard longau Harland a Woolf ym Melffast. Erbyn 1904 roedd yn aelod o'r Sefydliad Peirianwyr Sifil, y Sefydliad Arolygwyr Siartredig, a'r Sefydliad Peirianwyr Modurol, ac yn Aelod Cyswllt o'r Coleg Gwyddoniaeth Brenhinol.

Erbyn 1907 roedd John wedi symud i iard longau Vickers yn Barrow-in-Furness gyda chyfrifoldeb dros ymchwil a datblygiad, ac yn 1908 daeth yn rheolwr yr iard. Ar ôl peth gwaith ar awyrlong arbrofol yn 1909-11, bu'n gweithio'n bennaf ar ddatblygiad cynnar llongau tanfor, gan arwain cynhyrchu teip MI gyda gynnau maint llong ryfel, a theip M2 a allai gludo awyrennau rhagchwilio. Trwy'r gwaith hwn cafodd gyswllt cynnar â Winston Churchill. Yn ystod ei gyfnod yn Barrow priododd Louie Jane Rees, hithau hefyd o Ddoc Penfro, a ganwyd un ferch iddynt yn 1907.

Yn Ionawr 1916 gadawodd Vickers i gymryd swydd fel peiriannydd yn datblygu motorau awyren yng nghwmni moduron Siddeley-Deasey yng Nghanolbarth Lloegr. Chwaraeodd ran fawr yn y gwaith o ddatblygu motor awyren a adwaenid wedyn fel y Puma. Yn 1919 defnyddiodd ei gynilion a chymorth ariannol gan ei gysylltiadau yn Sir Benfro i sefydlu ei fusnes ei hun yn cynhrychu motorau ceir ac awyrennau yn Coventry. T. G. John Ltd oedd enw gwreiddiol y cwmni, ac yn 1921 newidiodd yr enw i The Alvis Car and Engineering Company.

Gydag Alvis arweiniodd John ddatblygiad ystod o geir rasio bychain ond pwerus a chyflym iawn a enillodd rasau mawr ym Mhrydain ac Ewrop. Yn sail i'r llwyddiant roedd tîm cryf o beirianwyr eraill yn ei gynorthwyo i fireinio'r motorau o hyd. Ymhlith y gwelliannau arloesol dan batent roedd peiriannau tra-chywasgedig, gyriant olwyn flaen a chrogiant annibynnol. Yn 1932 cyflwynodd y car rasio Alvis Speed 20 ochr yn ochr â chynnydd mawr mewn ceir o safon ar gyfer y farchnad foduro ehangach. Yn 1934 agorodd ffatri newydd yn Coventry. Wrth i ryfel nesáu anogwyd John gan Churchill i wneud datblygiadau newydd gan gynnwys peiriant o'r enw Leonides ar gyfer awyrennau, a addaswyd wedyn i'w ddefnyddio mewn hofrenyddion. Cychwynnodd gynhyrchu cerbydau arfog hefyd a wnaeth Alvis yn arweinydd yn y maes hwnnw.

Dioddefodd ei iechyd yn sgil pwysau cynhyrchiant rhyfel, gan gynnwys cyrch bomio dinistriol ar y ffatri yn Coventry, ac o 1944 cafodd John orchymyn i orffwys. Ymddeolodd a symud i Putney Hill yn Llundain lle bu farw ar 9 Awst 1946. Amlosgwyd ei weddillion ar 13 Awst.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-03-25

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.