Ganwyd Terry Jones ar 1 Chwefror 1942 ym Mae Colwyn, Sir Ddinbych, ail fab Alick George Parry-Jones, clerc banc, a'i wraig Dilys Louisa (g. Newnes). Cwrddodd â'i dad am y tro cyntaf ar blatfform gorsaf reilffordd Bae Colwyn pan ddychwelodd hwnnw o India lle bu'n gwasanaethu gyda'r RAF yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Pan oedd Terry yn bedair oed, symudodd y teulu i Surrey lle mynychodd ysgol gynradd Esher a'r Royal Grammar School yn Guildford cyn mynd ymlaen i astudio Saesneg yn St Edmund Hall, Rhydychen, er iddo 'grwydro i mewn i hanes', fel y dywedodd, sef y pwnc y graddiodd ynddo. Yn ystod ei gyfnod yn Rhydychen daeth i adnabod Michael Palin a pherfformio comedi gydag ef yn The Oxford Revue.
Ar ôl graddio yn 1964, ymunodd Jones a Palin â thîm o sgrifenwyr a pherfformwyr ar Twice a Fortnight, sioe sgetshis a ddarlledwyd ar y BBC am 10 wythnos ar ddiwedd 1967. Bu'n sgrifennu hefyd ar gyfer The Frost Report, y gyfres lle gweithiodd darpar aelodau Monty Python gyda'i gilydd am y tro cyntaf, ac ar gyfer sioe ITV, Do Not Adjust Your Set. Aeth ef a Palin ymlaen i sgrifennu The Complete and Utter History of Britain, a ddarlledwyd ar ranbarth Llundain ITV yn 1969. Ond teimlai Jones yn rhwystredig gyda'r ffordd y crewyd y sioe a phenderfynodd ei fod am reoli ei brosiectau ei hun. 'It got me really convinced that you have to control everything,' meddai yn ddiweddarach. 'You not only act in the things, you've got to actually start directing the things as well.' Cafodd ei gyfle pan lansiwyd rhaglen deledu'r BBC Monty Python's Flying Circus ym mis Hydref 1969, y gyntaf o bedair cyfres o 45 o episodau, gan arwain at dair ffilm yn eu sgil. Sgrifennodd ac actiodd res o gymeriadau poblogaidd gan gynnwys Cardinal Biggles o Chwil-lys Sbaen a Mr Creosote, yn ogystal â'i bortreadau sgrechlyd o fenywod a ddaeth yn ffefrynnau gyda chynulleidfaoedd. Dychwelodd at y thema honno yn y ffilmiau, gyda rhannau fel mam Brian yn Life Of Brian a mam ogleddol ddosbarth gweithiol doreithiog o ffrwythlon yn The Meaning Of Life.
Terry Jones oedd prif ysgogwr cefnu ar linellau clo ar ddiwedd sgetshis a chael dilyniant abswrdaidd yn eu lle, megis pan fyddai Graham Chapman yn ymddangos fel cyrnol byddin a datgan bod y sgetsh ar ben am ei bod yn rhy wirion, neu y byddai marchog mewn arfwisg yn crwydro ar y llwyfan ac yn bwrw rhywun dros ei ben gyda chyw iâr rwber. Ymddangosodd Jones yn noeth hefyd, heblaw am goler a thei, gan chwarae organ fel math o atalnod rhwng sgetshis. Roedd ei ddyfeisgarwch yn fodd i dynnu'r pwysau oddi ar y sgrifenwyr gan nad oedd rhaid iddynt feddwl am linell drawiadol i gloi sgetsh. Estynnodd Jones ei ddoniau sgrifennu ac actio wedyn trwy gyd-gyfarwyddo The Holy Grail gyda'i gydweithiwr Python Terry Gilliam, cyn cymryd cyfrifoldeb llawn dros gyfarwyddo Life of Brian yn 1979 a The Meaning of Life yn 1983. Dywedodd ei gyd-Python John Cleese amdano: 'Of his many achievements, for me the greatest gift he gave us all was his direction of Life of Brian. Perfection.' Disgrifiwyd Jones gan Terry Gilliam fel 'a brilliant, constantly questioning, iconoclastic, righteously argumentative and angry but outrageously funny and generous and kind human being'.
Ar ôl Monty Python, parhaodd Jones i sgrifennu comedi deledu gyda Ripping Yarns, ar y cyd â Michael Palin. Roedd yn barod bob amser i herio uniongrededd, ac yn 1987 cyfarwyddodd y ffilm Personal Services, yn seiliedig yn fras ar hanes go iawn Cynthia Payne, a ddaeth yn ddrwg-enwog ar ôl cael ei chyhuddo o redeg puteindy yn un o faestrefi Llundain. Wrth iddo droi at sgrifennu llyfrau hanes, ac yn fwyaf nodedig Chaucer's Knight: The Portrait of a Medieval Mercenary (1980), chwalodd y syniad bod marchogion canoloesol yn batrymau o rinwedd Gristnogol.
Yn nes ymlaen yn ei fywyd, ei lyfrau plant a chyflwyno teledu a gafodd y flaenoriaeth. Fe'i sefydlodd Jones ei hun yn awdur plant poblogaidd gyda The Saga of Erik the Viking, a enillodd y 'Children's Book Award' yn 1984. Daliodd ati i gyfarwyddo hefyd, yn enwedig The Wind In The Willows yn 1996 a addasodd a chwarae rhan Mr Toad, gan ennill y brif wobr yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Chicago. Sgrifennodd a chyflwynodd Crusades, cyfres ddogfen bedair rhan a ddarlledwyd ar deledu'r BBC yn 1995, gyda Jones yn ymwisgo yn null y cyfnod mewn rhai golygfeydd i ddarlunio'r digwyddiadau dan sylw.
Er i'w rieni symud i Surrey pan oedd e'n bedair oed, roedd calon Jones yn wastad yng Nghymru. 'I bitterly didn't want to leave and hated being transported to the London suburbs,' cofiodd. 'I regretted that and was always saying 'I'm Welsh'. I couldn't bear it and for the longest time I wanted Wales back,' ac eto yn ddiweddarach, 'I still feel very Welsh and feel it's where I should be really.'
Yn 2009, cymerodd Jones ran mewn rhaglen BBC Cymru Coming Home am hanes ei deulu, ac olrheiniodd ei hynafiaid ar ochr ei dad i 1760, gyda rhai yn weithwyr plwm, ei hen-nain yn forwyn i deulu Mostyn a'i hen-daid yn weinidog Methodistaidd. Yn rhan olaf ei fywyd, roedd gan Jones ddiddordeb brwd yn theatr Fictoraidd ei drefn enedigol, gan ddod yn noddwr iddi ac ailagor Theatr Colwyn yn swyddogol yn 2011 ar ôl gwaith ailwampio'n costio £738,000. 'Theatr Colwyn means a lot to me,' meddai, 'because my grandfather [William Newnes] conducted the orchestra for the Colwyn Bay Operatic Society there and my mother and uncle both trod the boards on that very stage. This is a beautiful theatre, the oldest working cinema in the UK - it's an important thing to have in a community like this, you need a centre, a place for people to go.'
Ni werthfawrogwyd gwaith Jones bob amser ymhob rhan o Gymru. Cafodd Monty Python's Life Of Brian ei gwahardd mewn rhai trefi yn sgil honiadau ei bod yn gableddus. Un o'r trefi hynny oedd Aberystwyth, lle mynychodd Jones a Palin ddangosiad elusennol arbennig ar 30fed mlwyddiant y ffilm yn 2009, pan oedd Sue Jones-Davies, a chwaraeodd ran cariad Brian, yn faer y dref. Nid oedd problem o'r fath gyda'i lyfr plant 1981 Fairy Tales, a addaswyd i'r llwyfan fel Silly Kings gan National Theatre Wales yn 2013.
Yn Hydref 2016, cafodd Jones gymeradwyaeth sefyll yng Ngwobrau BAFTA Cymru pan dderbyniodd wobr Cyflawniad Oes am ei gyfraniad rhagorol i deledu a ffilm. Gyda chefnogaeth ei gyfaill a'i gyd-seren Monty Python Michael Palin roedd y clod hwn yn ffarwel cyhoeddus olaf i Terry Jones. Dywedodd Palin fod Jones yn 'very Welsh in his attitudes, his passion, his energy and inventiveness'.
Priododd Jones ag Alison Telfer yn 1970 a ganwyd iddynt ddau o blant, Sally yn 1974 a Bill yn 1976. Yn 2009, gadawodd Jones Telfer am Anna Söderström yr oedd wedi cwrdd â hi mewn sesiwn llofnodi llyfr yn 2005 pan oedd hi'n fyfyrwraig 23 oed yn Rhydychen; ganwyd eu merch Siri yn 2009 ac wedi iddynt fod mewn perthynas am bum mlynedd priodasant yn 2012.
Yn 2015, cafwyd bod affasia cynradd cynyddol arno, math o ddementia blaenarleisiol sy'n amharu ar y gallu i lefaru a chyfathrebu. Roedd wedi rhoi achos i bryderu am y tro cyntaf yn ystod y sioe aduniad Monty Python Live (Mostly) yng Ngorffennaf 2014 oherwydd yr anhawster a gafodd i ddysgu ei linellau. Daeth yn ymgyrchydd dros ymwybyddiaeth o ddementia gan godi arian a gadael ei ymenydd ar gyfer ymchwil i ddementia. Erbyn Ebrill 2017, roedd wedi colli'r gallu i ddweud mwy nag ychydig eiriau cydsyniol. Bu farw Terry Jones o'i ddementia ar 21 Ionawr 2020 yn ei gartref yn Highgate. Fe'i coffawyd gan ei deulu a chyfeillion agos mewn seremoni angladd ddyneiddiol.
Gofynnwyd i Jones mewn cyfweliad yn 2011 sut, o'i amryw gyflawniadau, y dymunai gael ei gofio, a'i ateb oedd: 'Maybe a description of me as a writer of children's books or some of my academic stuff'.
Dyddiad cyhoeddi: 2023-02-01
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.