KILMISTER, IAN FRASER (Lemmy) (1945 - 2015), cerddor

Enw: Ian Fraser Kilmister
Dyddiad geni: 1945
Dyddiad marw: 2015
Plentyn: Sean
Plentyn: Paul Inder
Rhiant: Sidney Davy Albert Kilmister
Rhiant: Jessie Milda Willis (née Simpson)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: Gethin Matthews

Ganwyd Ian Fraser Kilmister ar 24 Rhagfyr 1945 yn Stoke-on-Trent, yn fab i Sidney Davy Albert Kilmister, cyn-gaplan yn yr RAF, a'i wraig Jessie Milda, 'June' (g. Simpson). Gadawodd ei dad pan oedd Ian yn dri mis oed ac fe'i magwyd gan ei fam a'i fam-gu mewn tref fechan yn Swydd Stafford. Pan oedd yn ddeg mlwydd oed priododd ei fam â George Willis a symudodd y teulu i fferm ym Menllech, Ynys Môn. Aeth i ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch, ac wrth iddo hel atgofion am ei brofiadau, dywedodd 'funnily enough, being the only English kid among 700 Welsh ones didn't make for the happiest time - but it was interesting from an anthropological point of view'. Yn y cyfnod hwn fe dderbyniodd y llys-enw 'Lemmy'; er i'r stori fynd ar led fod yr enw yn deillio o'i arfer o ymbil yn ddi-baid ar ei ffrindiau, 'Lend me a quid', honnodd Lemmy ei hun na allai gofio tarddiad yr enw.

Dysgodd sut i chwarae'r gitâr tra'n byw ym Môn, a hefyd darganfu bleserau treulio amser gyda merched a ddeuai i'r ynys ar eu gwyliau. Ar ôl gadael ysgol (yn ôl ei dystiolaeth ei hun, fe gafodd ei ddiarddel) symudodd am gyfnod i Gonwy, a chafodd ei brofiad cyntaf o chwarae mewn band, mewn clwb yn Llandudno. Ac yntau'n awchu i ymdrochi yn niwylliant newydd roc a rôl, buan iawn y denwyd ef i ogledd-orllewin Lloegr. Honnodd iddo weld y Beatles yn perfformio yn y Cavern Club pan yn un ar bymtheg oed, ac ymunodd â band o Fanceinion o'r enw 'The Rockin' Vickers'. Yn 1967, aeth i Lundain lle gwasanaethodd am gyfnod fel roadie i Jimi Hendrix cyn ymuno â'r band Hawkwind fel basydd yn 1971. Canodd Lemmy ar eu sengl mwyaf llwyddiannus, 'Silver Machine' a aeth i rif 3 yn y siartiau yn 1972. Dyma fand a oedd yn enwog am eu defnydd toreithiog o gyffuriau, ac mae'n eironig braidd iddo gael ei ddiarddel o'r grŵp yn 1975 yn sgil cael ei arestio am fod â chyffuriau yn ei feddiant pan yn teithio yng Nghanada.

O'r anhap hwn fe ddaeth y prosiect a lywiodd weddill ei fywyd: y band Motörhead. Am y rhan fwyaf o'r deugain mlynedd canlynol roedd y band yn driawd, gyda Lemmy yn canu a chwarae bas, a gitarydd a drymiwr yn ei gynorthwyo i greu cerddoriaeth hynod o swnllyd. Er i'r rhan fwyaf o feirniaid a rhelyw y ffans alw cerddoriaeth y band yn 'fetal trwm', mynnodd Lemmy nad oedd ond roc a rôl.

Cafodd y band ddigon o lwyddiant ar ddiwedd y 1970au a dechrau'r 80au. Nid oedd eu cerddoriaeth at ddant y rhan fwyaf o orsafoedd radio, ond eto fe gyrhaeddodd cân enwoca'r band, 'Ace of Spades', rif 15 yn y siartiau yn 1980. Roedd y triawd yn ei elfen ar y llwyfan, ac aeth ei albwm o recordiad byw, 'No Sleep 'til Hammersmith', i rif 1 yn y siartiau yn 1981.

Gwelwyd nifer o newidiadau yn aelodau Motörhead dros y blynyddoedd nesaf, gyda'r band yn bedwarawd am gyfnod cyn setlo fel triawd unwaith yn rhagor yn 1995, gyda'r Cymro Phil Campbell (g. 1961) ar gitâr. Dyna'r drefn nes i'r band ddod i ben gyda marwolaeth Lemmy.

Gyda'i olwg unigryw a'i fri fel y cerddor roc trwm diffiniol, roedd Lemmy yn westai poblogaidd i fandiau eraill ac mewn sawl cameo ar raglenni teledu. Gallai gynnig cyfweliadau diddorol, pryfoclyd, i newyddiadurwyr a gohebwyr (oni bai ei fod yn analluog oherwydd effaith cyffuriau), gan ddangos ei fod â safbwyntiau craff ar nifer o faterion. Ymysg y caneuon a ysgrifennodd (ac ef oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'r geiriau ar dros ugain o albymiau Motörhead) ceir nifer fawr sydd â themâu di-fflach am ryw, cyffuriau, motorbeiciau ac yn y blaen, ond eto rhai sydd â chenadwri dwysach. Mae '1916' yn faled dawel, fyfyriol, gydag allweddell a soddgrwth i gyd-fynd â llais Lemmy wrth iddo alaru dros farwolaethau milwyr ifainc yn y Rhyfel Mawr. I'r gwrthwyneb, efallai mai cân drymaf y band yw 'Orgasmatron', lle mae Lemmy yn brygowthan yn ddeifiol am dri o'i gasbethau: crefydd sefydliadol, twyll gwleidyddion ac anturiaethau rhyfelgarwyr.

Cafodd Lemmy ddau fab; mabwysiadwyd y cyntaf, Sean, a daeth yr ail, Paul Inder, yn gitarydd a berfformiodd o bryd i'w gilydd gyda'i dad.

Mae'n gwestiwn dilys a ddylid cynnwys Lemmy yn y Bywgraffiadur o gwbl. Fel sydd yn hollol glir yn ei hunangofiant a'r ffilm amdano, Lemmy (2010), â Lloegr yr ymuniaethai, nid Cymru. West Hollywood, Los Angeles oedd ei gartref am ei ddegawdau olaf. Fodd bynnag, gallwn weld bod ei flynyddoedd fel llanc ar Ynys Môn wedi gadael eu hôl arno. Yn y ffilm, adroddodd ychydig o straeon am ei ieuenctid yng Nghymru. Wrth chwarae cyngherddau yng Nghymru yn y blynyddoedd pan oedd Phil Campbell yn aelod o'r band, byddai Lemmy yn datgan 'Cymru am byth' mewn i'r meicroffon. Daeth ei gyfraniad rhyfeddaf i fywyd cyhoeddus Cymru yn 2005 pan wahoddwyd ef gan Aelod Ceidwadol yn y Cynulliad Cenedlaethol i annerch cyfarfod am y cam-ddefnydd o heroin. Galwodd am i'r cyffur gael ei gyfreithloni er mwyn dileu dylanwad maleisus gwerthwyr cyffuriau.

Parhaodd Lemmy i chwarae gyda'i fand tan y diwedd, er gwaethaf ei iechyd ffaeledig. Cyngerdd olaf Motörhead oedd un ym Merlin ar 11 Rhagfyr 2015. Roedd Lemmy yn sâl iawn pan gafodd ei barti pen-blwydd 70 oed mewn clwb nos yn West Hollywood a bu farw bedwar diwrnod wedi ei ben-blwydd, ar 28 Rhagfyr 2015. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa yn Forest Lawn Memorial Park, Hollywood Hills, ar 9 Ionawr 2016.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-04-29

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.