Ganwyd Mary Knibb tua 1798 ym mhlwyf Pontypŵl, Sir Fynwy. Watkins oedd enw ei rhieni, a bu'r ddau farw pan oedd Mary yn ifanc. Nid oes fawr ddim yn hysbys am ei bywyd cynnar, ond gellir tybio iddi aros yng Nghymru gan fod sôn ei bod yn siarad Cymraeg. Erbyn Mawrth 1823 roedd wedi symud i Fryste, lle daeth yn aelod gyda'r Bedyddwyr yn eglwys Broadmead. Bu'n dysgu yn yr ysgol Sul gyda William Knibb, prentis argraffydd o Swydd Northampton. Ffurfiodd perthynas rhwng y ddau, a phriodasant ym Mryste ar 5 Hydref 1823, gan deithio i Jamaica fel cenhadon fis yn ddiweddarach. Mewn llythyron oddi wrth weinidog Broadmead a chyd-aelodau disgrifir Mary 'an exceptionally sweet tempered and sensible girl'. Disgwylid y byddai Mary yn 'calming influence' ar ei gŵr, a ystyrid yn 'impulsive and passionate man'. Cafodd Mary a William wyth o blant yn Jamaica.
Fel gwraig i genhadwr swyddogaeth Mary oedd cefnogi ac addysgu menywod y gynulleidfa a gofalu am wedd ddomestig y genhadaeth, yn enwedig pan oedd rhaid i William deithio i blanhigfeydd pell i ymweld â'i blwyfolion. Mae cofiannau i'w gŵr a dyddiaduron ymwelwyr yn datgelu natur groesawgar Mary; fe'i cafwyd yn un 'dawel, mwyn, annwyl a hapus'. Roedd cenhadon yn gwbl ddibynnol ar eu gwragedd am gefnogaeth gymdeithasol. Rhannai William ei feichiau a'i lawenydd gyda'i wraig, gan drafod ei brosesau meddwl a'i fwriadau. Ysgrifennodd fod Mary yn dwyn 'much of the anxiety of the stations … I attribute most of my successes in my missionary career to her'.
Buan y daeth William a Mary yn ymwybodol o greulondeb a chieidd-dra caethwasiaeth fel yr effeithiai ar eu plwyfolion, ac yn 1832 penderfynasant fynd yn groes i gyngor Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr a chodi llais yn erbyn caethwasiaeth, gan ddadlau dros ryddhau di-oed. Cyfrannodd eu safiad a'u hymgyrchu at ddiddymu caethwasiaeth yn y pen draw yn 1834 ond nid oedd heb ei gost. Dinistriwyd eu cartref ac adeiladau'r eglwys gan wrth-ddiddymwyr nifer o weithiau a bu perchnogion planhigfeydd gelyniaethus yn bygwth eu lladd.
Hyd yn oed ar ôl pasio'r Ddeddf Ddiddymu, daliodd William a Mary ati i ymgyrchu dros well amodau byw a gweithio i Jamaicaid Affricanaidd. Sefydlwyd trefn brentisiaeth tan 1838, er mwyn hyfforddi cyn-gaethweision ar gyfer bywyd rhydd. Creodd nifer o berchnogion planhigfeydd reolau a wnaeth fywydau Jamaicaid Affricanaidd hyd yn oed yn galetach nag a fuasent dan gaethwasiaeth, gyda chosbau fel y felin draed yn arferol ar gyfer troseddau mawr a mân. Bu'r Knibbs yn gyfrwng i sefydlu pentrefi rhydd yn Trelawny, y plwyf lle roeddent yn byw, lle gallai rhai oedd newydd eu rhyddhau fyw y tu hwnt i gyfyngiadau'r planhigfeydd. Codasant arian i brynu tir i adeiladu pentref gyda chapel ac ysgol, gan ofyn i gyfeillion ym Mhrydain anfon cyfraniadau, a hwythau yn aml eisoes wedi gwerthu eu dodrefn ac unrhyw eiddo arall o werth. Wedi iddynt ymladd dros hawliau Jamaicaid Affricanaidd, bu'r ddau hefyd yn ymorol dros Ewropeaid ymrwymedig a oedd yn cael eu dwyn i'r wlad yn lle'r gweithlu caeth. Roedd rhai'n sâl neu heb allu ennill digon o arian i ddychwelyd adref ar ôl gweithio eu cyfnod penodedig a byddai'r Knibbs yn aml yn rhoi eu ceiniog olaf i brynu bwyd neu docyn adref iddynt.
Cymaint oedd parch Jamaicaid Affricanaidd plwyf Trelawny at Mary fel y bu iddynt adeiladu tŷ iddi hi a'i phlant ym mhentref rhydd Kettering. Dywedodd Edward Barrett, diacon yng Nghapel Falmouth, wrth William, 'gallech chi farw, ac ni allwn oddef y syniad y byddai eich gwraig yn mynd adref.' Wedi marwolaeth William yn 1845, yn wahanol i'r rhan fwyaf o wragedd cenhadol, penderfynodd Mary aros yn Jamaica, gan fyw yn y tŷ yn Kettering. Gyda chymorth ariannol gan y Ladies Negro's Friend Society yn Birmingham, bu i Mary a dwy o'i merched, Catherine ac Ann, gynnal ysgol i ferched o'r tŷ, gan barhau'r rhaglen addysgol a ddechreuwyd pan oedd William yn fyw. Anfonid adroddiadau rheolaidd i'r gymdeithas yn egluro sut roedd eu harian yn cael ei wario ac am gynnydd y merched a fynychai'r ysgol.
Teimlai Mary yn gartrefol yn Jamaica, a gwelai bentrefwyr Kettering fel ei chyd-wladwyr. Credai William a hithau eu bod wedi eu hanfon i'r ynys nid i droi'r Jamaicaid Affricanaidd yn Saeson Caribeaidd ond i'w cynorthwyo i greu Jamaica newydd, un lle byddai cyfleoedd cyfartal i Dduon a Gwynion. Priododd Ann, merch Mary, ag Ellis Fray, un o raddedigion Du athrofa Calabar, a sefydlwyd gan William a Mary Knibb i alluogi Jamaicaid Affricanaidd i hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth, ac mae eu disgynyddion yn dal i fyw ar yr ynys hyd heddiw.
Bu Mary Knibb farw ar 1 Ebrill 1866 yn Jamaica, wedi cystudd hir. Ar fur Capel Goffa William Knibb ceir yr arysgrif hon: 'Mary widow of the Rev. William Knibb, born in South Wales in 1798: in January 1825 she and her devoted husband arrived in this island: alone with him, she laboured and suffered to promote the temporal and spiritual interests of its enslaved inhabitants.' Yn wahanol i'w gŵr nid oes placiau glas yn dynodi cyfraniad Mary i'r mudiad diddymu na chwaith ei gwaith dros ddiwygiadau cymdeithasol. Yn 1948, ysgrifennodd penweinidog Jamaica ar y pryd - ac yn ddiweddarach Prif Weinidog - Alexander Bustamente mewn rhagair i gyfrol goffa William Knibb: 'In truth and in fact he laid the foundation for everything we attempt to do this day in our march, towards emergence of a Jamaican nation.' Mae hyn yn siŵr o fod yr un mor wir am y gwaith a wnaeth Mary hefyd.
Dyddiad cyhoeddi: 2023-02-24
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.