LEWIS, DAVID JOHN (1893 - 1982), pensaer ac Arglwydd Faer Lerpwl

Enw: David John Lewis
Dyddiad geni: 1893
Dyddiad marw: 1982
Priod: Margaret Elizabeth Lewis (née Stubbs)
Rhiant: John Lewis
Rhiant: Elizabeth Lewis (née Phillips)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pensaer ac Arglwydd Faer Lerpwl
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Gwyn Jenkins

Ganwyd David John Lewis ar 29 Ebrill 1893 ym Mhenparcau, pentref bach yn y dyddiau hynny, ger Aberystwyth. Roedd ei fam Elizabeth (Lisi neu Lizzie) Lewis (née Phillips) yn aelod o deulu diwylliedig yn y pentref, a deuai ei dad, John Lewis, yn wreiddiol o Lanwrin, sir Drefaldwyn. Wedi cyfnod o weithio yng nghymoedd de Cymru, sefydlodd John Lewis fusnes groser a gwerthu yswiriant ym Mhenparcau. Symudodd y teulu, a oedd bellach yn cynnwys pedwar o blant, i Aberystwyth tua 1912.

Yn ei lencyndod, dangosodd Lewis dalent cerddorol a meddai ar lais tenor swynol. O dan hyfforddiant ei ewythr, Thomas Herbert Phillips, bu'n canu mewn eisteddfodau a chyngherddau lleol. Un o'i hoff ganeuon oedd 'Lend me your aid' gan Gounod.

Wedi gadael ysgol, daeth Lewis yn brentis i gwmni lleol o seiri, y Brodyr Edwards, Trefechan, gan ddatblygu sgiliau drafftsmonaeth. Mynychodd ddosbarthiadau nos yn Ysgol Gwyddoniaeth a Chelf, Aberystwyth, a derbyn canmoliaeth gan y tiwtor.

Yn Chwefror 1915, wedi'i argyhoeddi o gyfiawnder achos Prydain yn y Rhyfel Mawr, ymunodd â'r fyddin, gan ymrestru gyda chatrawd y Peirianwyr Brenhinol oherwydd ei sgiliau yn y maes adeiladu. Gwasanaethodd fel 'sapper' gyda Chwmni Maes 131 ac yn ddiweddarach cafodd ei ddyrchafu'n is-gorpral. Bu'n gwasanaethu yn y ffosydd yn Ffrainc cyn iddo, yn Nhachwedd 1915, gael ei drosglwyddo gyda'i Gwmni i Salonica, Gwlad Groeg, lle'r oedd brwydro'n digwydd yn llai aml. Serch hynny, clwyfwyd ef yn ei fraich ym mrwydr gyntaf Dorian ym Mai 1917 ac yn ddiweddarach trawyd ef yn wael gyda malaria, un o’r prif achosion o ddioddefaint i filwyr yn y rhan honno o'r byd. Trosglwyddwyd ef i ysbyty ar Ynys Melita (Malta) er mwyn adfer ei iechyd ac ym mis Awst 1918 dychwelodd i Brydain. Cafodd ei ddadfyddino'n swyddogol yn Ionawr 1919. Erbyn hynny, ar 9 Tachwedd 1918 (deuddydd cyn y Cadoediad), roedd wedi priodi â Margaret Elizabeth Stubbs, o Blakeney, swydd Gaerloyw. Ni chawsant blant.

Yn 1919, manteisiodd Lewis ar y cyfle i dderbyn yr addysg bellach a gynigid i aelodau'r lluoedd arfog o ganlyniad i'w gwasanaeth milwrol. Derbyniodd gymorthdal cynnal o £200 i fynychu cwrs pensaernïaeth ym Mhrifysgol Lerpwl gyda chyfraniad ychwanegol o £50 ar gyfer y ffioedd blynyddol. Dyfarnwyd iddo dystygrif mewn pensaernïaeth gan y brifysgol yn 1921 a chafodd swydd gyda chwmni pensaernïol adnabyddus yn Lerpwl, Gray, Evans & Crossley.

Roedd y cwmni hwn yn arbenigo mewn cynllunio sinemâu Art Deco a chredir i Lewis weithio ar gynllun y Rialto, un o adeiladau mwyaf nodedig Lerpwl (ond adeilad a losgwyd i'r llawr yn ystod terfysgoedd Toxteth yn 1981). Gweithiodd hefyd ym Mharis wrth i'r cwmni addasu sinema'r 'Alhambra' yno. Cafodd bron y cyfan o'r sinemâu a gynlluniwyd gan gwmni Gray, Evans & Crossley, gan gynnwys y 'Majestic', 'Mayfair' a'r 'Astoria', Lerpwl, a'r 'Capitol', Scarborough, eu dymchwel yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Daeth Lewis yn ddyn amlwg ym mywyd cyhoeddus Lerpwl o'r 1930au ymlaen. Yn 1936 etholwyd ef yn gynghorydd ar gyngor y ddinas yn enw'r Blaid Geidwadol, gan wasanaethu ar y cyngor hwnnw tan 1974. Etholwyd ef yn henadur dros ward Netherfield yn 1952 ac enwebwyd ef yn ynad heddwch yn 1946. Ymgeisiodd Lewis dros y Blaid Geidwadol yn etholiadau cyffredinol 1950 ac 1951 ar gyfer sedd Kirkdale, Lerpwl, gan golli ddwywaith o ychydig gannoedd o bleidleisiau i'r ymgeisydd Llafur.

Ganol y 1950au, cymerodd ddiddordeb arbennig yn nghynllun Dinas Lerpwl i foddi Cwm Tryweryn, gan gynnwys pentref Capel Celyn, Sir Feirionnydd, ar gyfer cynyddu’r cyflenwad dŵr i’r ddinas. Roedd yn aelod blaenllaw o Bwyllgor Amddiffyn Tryweryn Lerpwl a bu’n dadlau’r achos yn erbyn y cynllun mewn cyfarfodydd o’r Cyngor, ond yn ofer. Mewn llythyr maith at y wasg, o dan y pennawd 'Why I defend Wales against Liverpool', esboniodd ei safbwynt yn ddiflewyn ar dafod: 'It may be commendable that our city council should be awake to Liverpool's needs; it is wrong that these needs be met by the exploitation of a weaker, poorer community.'

Ar y Cyngor, gwasanaethodd fel cadeirydd Pwyllgor Addysg y Ddinas yn 1961-62 ac yn 1962 etholwyd ef yn Arglwydd Faer y Ddinas. Yn ystod ei gyfnod fel maer, nodwyd iddo deithio 16,000 milltir a mynychu 1,000 o ddigwyddiadau, ac un o'r uchafbwyntiau oedd ei ymweliad, ynghyd â maer Manceinion, â dinas Berlin pryd y cyfarfu â maer enwog y ddinas ranedig honno, Willy Brandt.

Roedd blynyddoedd cynnar y 1960au yn gyfnod o ail-adeiladu Lerpwl ac o fwrlwm diwylliannol poblogaidd ar lannau afon Merswy. Cipiodd clwb pêl-droed Everton bencampwriaeth Lloegr yn 1962-63 ond roedd yn well gan Lewis wylio criced neu rygbi. Yn yr un modd, nid oedd canu grwpiau poblogaidd y cyfnod, fel y Beatles, at ei ddant a pharhaodd i ymddiddori yn y byd cerddorol clasurol. Bu'n llywydd y Liverpool Welsh Choral Union ac yn gadeirydd y Liverpool Philharmonic Society rhwng 1951 a 1955. Yn ei gyfnod fel cadeirydd y Gymdeithas nodedig honno, dadleuodd dros ehangu apêl cerddoriaeth glasurol. Ystyriai haneswyr y Gymdeithas iddi gael ei rhedeg y pryd hwnnw gan 'more enlightened and forward-looking individuals' ac, mewn cyfweliad, honnodd Lewis y byddai'n fodlon gweld mynychwyr y cyngherddau yn gwisgo 'overalls' cyhyd â'u bod wedi talu am docyn. Iddo ef nid oedd angen gwisgo lan i wrando ar y Gerddorfa.

Bu ei wraig farw yn 1978, a bu Lewis yntau farw yn ei gartref yn Aigburth, Lerpwl, ar 6 Mai 1982. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol yng nghapel Cymraeg Heathfield Road, Lerpwl, ar 11 Mai, a chafodd ei gorff ei amlosgi yn Aigburth. Yn ddiweddarach, claddwyd ei lwch ym medd ei rieni ym mynwent Aberystwyth.

Gwasanaethodd Lewis ei ddinas fabwysiedig gydag arddeliad ond nid anghofiodd ei wreiddiau yng Nghymru. Disgrifiwyd ef gan John Braddock, arweinydd y Blaid Lafur ar y cyngor, fel 'an undisguised Welshman' ac yn un a gynhaliodd enw da a statws dinas Lerpwl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2023-10-04

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.