MOSSELL, AARON ALBERT (1863 - 1951), cyfreithiwr, peiriannydd mwyngloddio ac ymgyrchydd dros hawliau sifil

Enw: Aaron Albert Mossell
Dyddiad geni: 1863
Dyddiad marw: 1951
Rhyw:
Galwedigaeth: cyfreithiwr, peiriannydd mwyngloddio ac ymgyrchydd dros hawliau sifil
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Diwydiant a Busnes; Ymgyrchu
Awdur: Rebecca Eversley-Dawes

Ganwyd Aaron Mossell ar 3 Tachwedd 1863 yn Hamilton, Ontario, Canada, mewn teulu o Americanwyr Affricanaidd, yr ieuengaf o chwech o blant Aaron Mossell, gwneuthurwr briciau ac yr i bobl gaethiwedig, a'i wraig Eliza Bowers Mossell. Ei frodyr a chwiorydd oedd: Charles W. (1849-1915), Mary E. (1853-1886), James (g. 1853), Nathan Francis (1856-1946) ac Alvaretta (g. 1858). Symudodd y teulu yn nes ymlaen i Lockport yn Niagara County, UDA, lle buont yn berchen ar westy ac yn adnabyddus am eu gwaith yn hyrwyddo hawliau sifil.

Aeth Aaron i Brifysgol Lincoln lle graddiodd yn 1885, ac yn 1888 graddiodd o Ysgol y Gyfraith Pennsylvania, yr Americanwr Affricanaidd cyntaf i wneud hynny. Gweithiodd fel cyfreithiwr yn Philadelphia, a bu'n ysgrifennydd Ysbyty Coffa Douglass a sefydlwyd gan ei frawd Nathan.

Priododd Aaron â Mary Louisa Tanner (1865/6-1935) yn 1890 yn ei chartref teuluol yn Philadelphia mewn seremoni a gynhaliwyd gan ei thad, yr Esgob Benjamin Tucker Tanner. Ganwyd iddynt dri o blant, Aaron Albert Mossell (1893-1959), Elizabeth Mossell Anderson (1894-1975), a Sadie Tanner Mossell (1898-1985).

Yn fuan ar ôl genedigaeth Sadie, cafodd Aaron a Mary ysgariad, ac ymadawodd Aaron ag America, gan dreulio cyfnod yn Affrica cyn dod yn y pen draw i dde Cymru, lle hyfforddodd fel peiriannydd mwyngloddio rhwng 1906 a 1909. Mewn adroddiad papur newydd yn 1909 disgrifiwyd ef fel 'a coloured Canadian student who came to Mountain Ash from West Africa a few years ago.' Symudodd i Gaerdydd yn 1926, gan letya gyda'r teulu Jason yn Sgwâr Loudoun ac yn nes ymlaen gyda Jacob Enfield a'i deulu.

Dilynodd Aaron draddodiad ei deulu o gynorthwyo pobl lai ffodus nag ef ei hun, a daeth yn ymgyrchydd brwd dros hawliau morwyr Du yng Nghaerdydd. Bu'n Ysgrifennydd y Frawdoliaeth Kru a gefnogai forwyr o Affrica a'u teuluodd (ac nid rhai o lwyth y Kru yn unig), a chyfrannodd at uno amryw gymdeithasau pobl Ddu Caerdydd i ffurfio'r 'United Committee of Coloured and Colonial Organizations'. Yn 1945 traddododd anerchiad yn y Gyngres Holl-Affricanaidd ym Manceinion.

Tra'n byw yn Sgwâr Loudoun cafodd ymweliad gan Paul Robeson. Roedd gan Aaron a Paul berthnasau'n gyffredin, gan fod Nathan, brawd Aaron, yn briod â chwaer i fam Paul, Gertrude Emily Hicks Bustill.

Bu Aaron Mossell farw yng Nghaerdydd ar 6 Chwefror 1951 ac fe'i claddwyd ym Mynwent Cathays.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-04-19

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.