Ganwyd Margaret Price ar 13 Ebrill 1941 yn y Coed Duon, yn ferch i Thomas Glyn Price a'i wraig Lilian Myfanwy (g. Richards). Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Uwchradd Pontllan-fraith, a'i bwriad gwreiddiol oedd bod yn athrawes bioleg. Er bod ei thad yn bianydd medrus, nid oedd yn cymeradwyo gyrfa gerddorol i'w ferch, ond yn bymtheg oed enillodd hi ysgoloriaeth i Goleg Cerdd y Drindod yn Llundain, lle bu'n ddisgybl i Charles Kennedy Scott. Wedi gadael y Coleg ymunodd â Chantorion Ambrosian a chael profiad ymarferol gwerthfawr ganddynt, gyda'r bwriad o fod yn gantores lieder. Er gwaethaf ei anfodlonrwydd cynnar, daethai ei thad yn gefnogwr brwd i yrfa gerddorol ei ferch, a bu'n gohebu ar ei rhan â chwmnïau opera.
Ymddangosodd gyntaf yn rhan Cherubino yn Le nozze di Figaro gan Mozart gyda Chwmni Opera Cymru yn 1962, a chanodd yr un rhan yn Covent Garden pan ddirprwyodd yn llwyddiannus iawn i'r gantores Sbaenaidd, Teresa Berganza. O hynny ymlaen, daethpwyd i'w hadnabod fel cantores opera, yn arbenigo ar operâu Mozart a Verdi. Sefydlodd bartneriaeth broffesiynol lewyrchus gyda James Lockhart, a fu'n ei hyfforddi ac yn cyfeilio iddi am rai blynyddoedd, gan symud ei llais yn raddol o mezzo-soprano i soprano. Bu'n canu yn Glyndebourne, ac ymddangosodd gyntaf yn yr Unol Daleithiau yn San Francisco yn 1969 yn rhan Pamina yn Die Zauberflöte. Ni chafodd gyfle i ganu yn yr Opera Fetropolitanaidd yn Efrog Newydd tan 1985, ond gwnaeth hynny'n llwyddiannus iawn, yn rhan Desdemona yn Otello Verdi. Dewisai ei rhannau'n ofalus, ac ni fyddai'n canu dim nad oedd yn addas i'w llais. Roedd yn enwog am ei dehongliad o ran Desdemona a rhan Donna Anna yn Don Giovanni Mozart. Ar gais yr arweinydd Carlos Kleiber, recordiodd ran Isolde yn opera Richard Wagner, Tristan und Isolde, i gymeradwyaeth gyffredinol, er na fyddai'n canu'r rhan ar lwyfan. Diogelwyd ei llais ar nifer o recordiadau opera o safon uchel, ond daliai i berfformio lieder ar hyd ei gyrfa. Ymsefydlodd yn 1981 yn yr Almaen, lle bu'n brif gantores yn y Staatsoper yn Munich hyd ei hymddeoliad yn 1999. Testun siom i lawer oedd na chafodd fwy o gyfleoedd i berfformio yn nhai opera Prydain.
Roedd Margaret Price yn enwog am gyfoeth ac esmwythder ei llais, a enynnai gryn edmygedd ymhlith beirniaid. Mewn cyfweliad gyda Yehuda Shapiro ar gyfer y cylchgrawn Opera, a fwriadwyd fel teyrnged iddi ar ei phen blwydd yn 70, ond a ymddangosodd fel erthygl goffa, dywedodd ei bod yn ddigon bodlon ar ei gyrfa, a'i bod wedi cael canu popeth a fynnai. Am ei bod yn berffeithydd, câi'r enw o fod yn anodd, ond roedd yn y bôn yn berson didwyll a diymhongar a anelai at y gorau yn ei pherfformiadau. Roedd gwybodusion byd opera yn ei chyfrif yn un o'r ugain soprano orau yn y byd.
Wedi ymddeol o fyd canu yn 1999 dychwelodd i Gymru i fyw yn ymyl Bae Ceibwr ar arfordir sir Benfro, lle bu'n bridio ac yn arddangos cŵn. Fe'i hurddwyd yn CBE yn 1982 ac yn DBE yn 1993. Bu farw o drawiad ar y galon ar 28 Ionawr 2011, yn 69 oed.
Dyddiad cyhoeddi: 2023-09-14
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.