REUBEN, BERNICE RUTH (Bernice Rubens) (1923 - 2004), nofelydd

Enw: Bernice Ruth Reuben
Dyddiad geni: 1923
Dyddiad marw: 2004
Priod: Hans Rudolf Nassauer
Plentyn: Sharon Nassauer
Plentyn: Rebecca Nassauer
Rhiant: Eli Harold Reuben
Rhiant: Dorothy Reuben (née Cohen)
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: nofelydd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Desmond Clifford

Ganwyd Bernice Rubens ar 26 Gorffennaf 1923 yn 9 Glossop Terrace, Sblot, Caerdydd, yn drydydd o bedwar o blant Eli Harold Reuben a'i wraig Dorothy (g. Cohen). Roedd ei thad yn Iddew Uniongred a ffodd rhag pogrom yn Latfia yn 1900, trwy Hamburg dan gredu ei fod ar ei ffordd i America. Roedd wedi cael ei dwyllo a dim ond tocyn i Gaerdydd oedd ganddo. Yno y bu iddo gwrdd â'i ddarpar wraig a oedd hithau o deulu Iddewig a ddihangodd rhag erledigaeth yng Ngwlad Pwyl.

Pan oedd Bernice yn blentyn mynychai ei theulu synagog ar Heol yr Eglwys Gadeiriol (er iddi dramgwyddo'n nes ymlaen trwy briodi yn y synagog arall ym Mhlas Windsor). Roedd cerddoriaeth yn ganolog i fywyd y teulu; bu ei dau frawd a'i chwaer i gyd yn gerddorion proffesiynol ar wahanol adegau. Chwaraeai Bernice y soddgrwth, ond nid i'r un safon â'i brodyr a'i chwaer. Dywedodd iddi ddysgu gwrando yn lle, a bod hynny wedi bod yn llesol i'w datblygiad fel awdur.

Mynychodd Ysgol Gynradd Parc y Rhath ac Ysgol Uwchradd y Merched Caerdydd, ac aeth ymlaen wedyn i astudio Saesneg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd - 'my first major folly … to be saturated in the great nineteenth-century tradition of the English novel turned out to be no great favour to a would-be writer.' Ar ôl graddio yn 1944 daeth yn athrawes yn Birmingham, a mwynhau'r gwaith, er iddi gael ei diswyddo o'i swydd gyntaf am drefnu gwrthwynebiad i gosbi corfforol.

Ar ôl symud i Lundain ymsefydlodd fel cyfarwyddwr a sgriptiwr ffilmau dogfen, a pharhaodd â'r yrfa honno ochr yn ochr ag ysgrifennu ar hyd ei bywyd. Yn 1947 priododd Rudolf Nassauer (1924-1996), masnachwr gwin, bardd a nofelydd o deulu Iddewig a oedd wedi ffoi o'r Almaen ychydig cyn y rhyfel. Cawsant ddwy ferch, Sharon (g. 1949) a Rebecca (g. 1951), cyn i'r briodas ddod i ben trwy ysgariad yn 1969 oherwydd ei anffyddlondeb ef, er iddynt gadw cyswllt ar hyd eu hoes.

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Set on Edge, yn 1960 dan yr enw Bernice Rubens, enw a ddefnyddiodd o hynny ymlaen. Enillodd ei phumed nofel, The Elected Member (1969), Wobr Booker yn 1970, yn ail flwyddyn y wobr honno. Hi oedd y fenyw gyntaf i ennill y wobr, a hyd yn hyn hi yw'r unig awdur o Gymru i'w hennill. Cafodd le ar restr fer Gwobr Booker eto yn 1978 am A Five Year Sentence. Gwnaed ffilmiau o ddwy o'i nofelau, Madame Sousatzka (1962), sy'n seiliedig ar brofiadau ei brawd Harold, a fu'n bianydd rhyfeddol o ddawnus yn blentyn, ac I Sent A Letter to My Love, a bu un arall, Mr Wakefield's Crusade, yn sail i gyfres ddrama ar deledu'r BBC yn 1992.

Roedd Rubens yn awdur toreithiog a gyhoeddodd bump ar hugain o nofelau yn ogystal â hunangofiant, When I Grow Up (2005), gan lunio un llyfr bob rhyw ddeunaw mis. Mae'r rhan fwyaf o'i nofelau'n fyr ac yn ddarllenadwy iawn, wedi eu gosod mewn cefndir domestig maestrefol gan amlaf. Naws ddigrif sydd iddynt yn bennaf, â hiwmor tywyll weithiau, ac mae'r storïau'n tueddu at abswrdiaeth gydag elfennau gothig. Honnodd yn ei hunangofiant na chymerai ysgrifennu ormod o ddifrif, ac adlewyrchir yr agwedd ysgafn honno yn ei harddull.

Gosodir nifer o'i nofelau yng Nghaerdydd a'r cyffiniau gan dynnu ar ei phrofiad personol, megis Set on Edge am deulu o Gymry Iddewig, a Yesterday in the Back Lane (1995) a osodir yng Nghaerdydd yn ystod y rhyfel a bomio gan yr Almaenwyr. Mae I Sent A Letter to My Love (1975) yn stori am hunaniaeth a rhyw sy'n seiliedig ar wyliau teuluol ym Mhorthcawl. Mae trawswisgo a hunaniaeth rywiol yn themâu yn Mr Wakefield's Crusade (1985) a Sunday Best (1971). Yn Birds of Passage (1981), mae dwy fenyw'n cael eu treisio sawl gwaith gan stiward llong ond maent yn ymateb i'r profiad yn wahanol iawn.

Mae Brothers (1983) yn bur wahanol i'w nofelau eraill. Nofel hanesyddol enfawr ydyw sy'n adrodd hanes teulu (hanes ei theulu ei hun yn y bôn), gan gwmpasu Rwsia dan y Tsariaid, Odesa, Hamburg, Caerdydd, Leipzig, Mosgo, Israel - a'r Holocawst, lle daeth rhan o hanes ei theulu i ben. Mae'n stori afaelgar, bron yn rhy boenus i'w darllen mewn mannau; ni ellir ond dychmygu'r draul arni o'i hysgrifennu - yn ei hunangofiant mae'n lled-awgrymu anhawster, gyda thanosodiad mawr. Nid oes yr un gwaith arall gan awdur o Gymru sy'n hafal i Brothers o ran rhychwant a thrasiedi, ac ni luniodd awdur o Gymru nofel fwy erioed.

Mae Leon, yn Brothers, yn prynu tocyn o'r Almaen i Gymru gyda pheth anhawster ac wedyn yn chwerthin, 'for there was something faintly unreliable about a country that even the ticket official had never heard of'. Mae hunaniaeth ac amwysedd yn ganolog i waith Rubens. Nodweddir yr hunaniaeth Iddewig gan symudedd, goroesi, y bag wedi ei bacio o hyd. Nodau amgen yr hunaniaeth Gymreig yw amheuaeth a rhyw ddiffyg manwl gywirdeb. Beth ydyw a ble'n union y mae? Ac yn wir, pwy ydyw, ac a yw'n fy nghynnwys innau? Yn ei hunangofiant dywed Rubens, 'my birthplace as well as my nationality were accidental, and I accepted that, by proxy, I was a survivor.'

Ar ôl pum mlynedd yn Birmingham, Llundain oedd ei chartref am weddill ei bywyd. Roedd yn Gymraes ac yn Iddewes; ymddengys na fu iddi deimlo'n ddim arall. Ymwelodd â Chaerdydd yn aml, ond nid oedd ganddi gyswllt y tu hwnt. Ar un olwg, â Chaerdydd yr ymuniaethai yn hytrach nag â Chymru. Yn ei hunangofiant mae'n ddilornus am y defnydd o'r Gymraeg ar arwyddion cyhoeddus, a theimlai wedi ei dieithrio gan y cynnydd mewn hunaniaeth Gymreig a welodd yn ystod ei hoes. 'Once upon a time, I had thought that the land was mine. But now I am made to feel a foreigner…'.

Fe'i gwnaed yn gymrawd o Goleg y Brifysgol, Caerdydd yn 1982, a dyfarnwyd iddi DLitt er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1991. Enillodd dwy o'i nofelau wobrau gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ond serch hynny mae wedi ei hesgeuluso braidd gan y sefydliad llenyddol yng Nghymru, efallai'n rhannol oherwydd amwysedd ei hagwedd hithau tuag at Gymru. Yn ddiamau mae Bernice Rubens yn un o nofelwyr mwyaf Cymru yn y naill iaith neu'r llall.

Bu Bernice Rubens farw ar 13 Hydref 2004 yn y Royal Free Hospital yn Llundain.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-01-24

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.