ROBERTS, Syr IEUAN WYN PRITCHARD, yr Arglwydd Roberts o Gonwy (1930 - 2013), newyddiadurwr a gwleidydd

Enw: Ieuan Wyn Pritchard Roberts
Dyddiad geni: 1930
Dyddiad marw: 2013
Priod: Enid Grace Roberts (née Williams)
Plentyn: Geraint Roberts
Plentyn: Rhys Roberts
Plentyn: Huw Roberts
Rhiant: Evan Prichard Roberts
Rhiant: Margaret Ann Roberts (née Jones)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: newyddiadurwr a gwleidydd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Matthew W. Day

Ganwyd Wyn Roberts ar 10 Gorffennaf 1930 yn Llansadwrn, Ynys Môn, yn fab i'r Parchedig Evan Roberts a'i wraig Margaret (g. Jones). Roedd ei dad yn weinidog Methodistaidd yng nghapel Penucheldref ac yn awdur colofn wythnosol yn Y Goleuad . Athrawes yn yr ysgol leol oedd ei fam, a'r ysgoldy oedd cartref y teulu.

Mynychodd Ysgol Sir Biwmares nes iddo ennill ysgoloriaeth i Ysgol Harrow yn Llundain, gan symud i fyd hollol wahanol i'w fagwraeth Gymraeg. Ar ôl gadael Harrow, gwnaeth ei Wasanaeth Cenedlaethol yn 1949 gyda'r King's Royal Rifle Corps. Wedi ei leoli yn Vienna, bu'n rhan o ymgyrch i dapio llinellau ffôn y Pencadlys Rwsiaidd a ddaeth yn rhan o 'Operation Silver.' Aeth ymlaen wedyn i astudio Hanes yng Ngholeg y Brifysgol, Rhydychen.

Ar ôl graddio dechreuodd Roberts ar ei yrfa gyntaf fel newyddiadurwr. Yn 1952-1954 gwnaeth brentisiaeth fel is-olygydd gyda'r Daily Post yn Lerpwl cyn symud ymlaen i fod yn gynorthwyydd newyddion gyda'r BBC 1954-1957. O 1957 hyd 1968 gweithiodd i gwmni newydd Teledu Cymru a'r Gorllewin (TWW). Cyfrannodd at amryw elfennau o waith y cwmni, yn enwedig materion Cymraeg, gan weithio ar raglenni megis Camau Cyntaf a Croeso Christine. Ond pan gollodd TWW ei drwydded i Harlech (HTV) yn 1968, penderfynodd Roberts newid gyrfa a symud i fyd gwleidyddiaeth.

Priododd Enid Grace Williams yn 1956, a chawsant dri mab, Geraint, Rhys (b.f. 2004) a Huw.

Yn 1970 etholwyd Roberts yn AS dros Gonwy ar ran y Blaid Geidwadol, dewis a oedd yn syndod i rai o'i gyfeillion. Roedd Cymro Cymraeg yn gaffaeliad mawr i'r Blaid Geidwadol yr adeg honno. Gwasanaethodd fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru Peter Thomas 1970-1974, a bu'n llefarydd yr Wrthblaid ar Gymru 1974-1979. Ar ôl buddugoliaeth y Ceidwadwyr yn etholiad 1979 fe'i penodwyd yn Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn y Swyddfa Gymreig a daeth yn Weinidog Gwladol yn y Swyddfa Gymreig 1987-1994. Er na lwyddodd Roberts i gyrraedd ei nod o fod yn Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, bu'n weithgar iawn yn ei ymdrechion i gyflawni gwelliannau ystyrlon a pharhaol. Roedd ei brofiad cynnar gyda TWW yn baratoad da ar gyfer y materion a gododd yn sgil sefydlu S4C.

Fel gweinidog yn y Swyddfa Gymreig roedd Roberts yn gyfrifol am nifer o agweddau polisi yng Nghymru, gan gynnwys tai, addysg, ffyrdd a'r iaith Gymraeg. Yn ystod ei deithiau tramor gweithiodd yn galed i ddod â buddsoddiad i Gymru, gan ymgysylltu'n aml â chymdeithasau Cymreig mewn gwledydd eraill. Roedd yn boblogaidd iawn ymhlith holl bleidiau gwleidyddol Cymru, a honnodd un o'i wrthwynebwyr iddo adeiladu mwy o ffyrdd na'r Rhufeiniaid. Elfen gyson yn ei addewidion etholiadol oedd ei ymdrechion i wella'r briffordd drwy ei etholaeth, yr A55.

Ei gyflawniad mwyaf a'r un y cofir ef yn bennaf amdano oedd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Bu'r Ddeddf yn fodd i sicrhau statws cyfreithiol y Gymraeg yn y sector gyhoeddus a sefydlodd Fwrdd yr Iaith i hyrwyddo ei defnydd, er i rai ei beirniadu ar y pryd am fethu mynd yn ddigon pell i ddiogelu'r iaith.

Roedd Wyn Roberts yn Gymro gwlatgar, ac yn y 1990au daeth ei rwystredigaeth gyda'r Blaid Geidwadol yn fwyfwy amlwg. Byddai'n rhoi Cymru'n gyntaf bob amser, fel y gwnaeth yn achos Deddf Diwygio Addysg 1988 (Cymru) pan ddifethwyd ei berthynas dda â Margaret Thatcher yn sgil anghydfod â hi er mwyn Cymru.

Urddwyd Wyn Roberts yn farchog am ei wasanaeth gwleidyddol yn 1990, ac ar ôl iddo ymddeol o Dŷ'r Cyffredin yn 1997 fe'i dyrchafwyd i Dŷ'r Arglwyddi dan y teitl yr Arglwydd Roberts o Gonwy. Chwaraeodd ran arweiniol yn ymgynghoriad y Blaid Geidwadol â'i haelodau ar bolisi datganoli yn 2008, a derbyniwyd ei gynigion yn nes ymlaen gan Gomisiwn Silk dan lywodraeth David Cameron.

Bu Wyn Roberts farw yn ei gartref yn Rowen, Conwy, ar 13 Rhagfyr 2013. Yn 2015 rhoddwyd ei ddyddiaduron i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2023-11-29

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.