ROGERS (RODGERS, AP ROGER), OWEN (c.1532 - c.1570), argraffydd a llyfrwerthwr

Enw: Owen Rogers
Dyddiad geni: c.1532
Dyddiad marw: c.1570
Priod: Rose Rogers (née Lloid)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: argraffydd a llyfrwerthwr
Maes gweithgaredd: Argraffu a Chyhoeddi

Gwnaed Owen Rogers yn rhyddfreiniwr Urdd y Safwerthwyr yn Llundain ar 8 Hydref 1555. Mae ei wreiddiau'n anhysbys, ond roedd ei wraig Rose yn ferch i David Lloid o 'Biteffery' (Bodfari), roedd ganddo ddau lysfrawd o'r enw Jones, lletywr o'r enw Lewis Evans a sgrifennodd 'new year's gift' ac o leiaf un o'r baledi a argraffodd, a'i ddau brentis olaf oedd Humphrey Powell o 'llodrod' (Lledrod?) a'i lysnai Rice Jones. Ni all fod fawr o amheuaeth nad oedd o dras Gymreig ac yn aelod o gymuned Cymry Llundain.

Mae'r llyfrau cynharaf sy'n cynnwys y teipiau a'r addurniadau a ddefnyddiodd yn ei lyfrau arwyddedig o 1558 ymlaen naill ai wedi eu hargraffu'n ddienw neu maent yn ddiffygiol, ond nid oes rheswm i amau nad ei waith ef oeddent. Yr un cynharaf yw ymdeithlyfr Sarum wedi ei argraffu'n raenus yn 1555 (STC 16246); ymhlith eraill y mae ymosodiad dienw ar yr Esgob Edmund Bonner (STC 3286) ac yn ôl pob tebyg argraffiad coll o The Recantation of Thomas Cranmer (6005.5). Saif ei enw ef yn bedwerydd ar ddeg a phedwar ugain allan o gant namyn tri o ryddfreinwyr a restrir yn siartr ymgorffori Urdd y Safwerthwyr ym Mai 1557, a hyd ganol y 1560au cofrestrodd lond dwrn o lyfrynnau neu faledi ym mhob blwyddyn ariannol a chael dirwyon bychain am dorri mân reolau.

Yn 1559 llwyddodd Senedd gyntaf Elizabeth i awdurdodi ailargraffiad (gydag ychydig o ddiwygiadau pwysig) o'r ail Book of Common Prayer Edwardaidd, ond roedd teyrnasiad Mary wedi gadael Llundain heb fawr o argraffdai digon o faint i fasgynhyrchu'r llyfr yn gyflym. Cychwynnwyd ar ddau argraffiad ffolio, gan ffermio un (STC 16292) allan i saith argraffdy gwahanol, a gofynnwyd i Rogers argraffu cwiriau H, M, a hanner cwîr I (deugain o gyfanswm o 288 o dudalennau). Daeth dau argraffiad arall yn fuan ar ôl ei gilydd, a chyfrannodd Rogers wyth tudalen a deugain i'r naill a deuddeg ar hugain i'r llall.

Aeth ei gynnyrch yn ôl i fod yn brin ac yn ddi-nod wedyn, ac nid oes dim yn goroesi yn ddiweddarach na 1561. Erbyn 1565 roedd wedi rhoi'r gorau i argraffu, ac argraffwyd ei ychydig gyhoeddiadau bychain gan eraill. Roedd yn dal yn fyw pan rwymodd Rice Jones yn brentis iddo ym Mawrth 1566, ond gellir cymryd ei fod wedi marw pan ryddhawyd Jones gan Safwerthwr arall yn Ebrill 1577.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2022-04-20

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.