STENNETT, ENRICO ALPHONSO (Henry, Ricky) (1926 - 2011), actifydd cydberthynas hiliol, dyn busnes, dawnsiwr

Enw: Enrico Alphonso Stennett
Dyddiad geni: 1926
Dyddiad marw: 2011
Priod: Margaret Stennett (née Stone)
Priod: Mary Ann Stennett (née Knowles)
Plentyn: Robert Anthony Stennett
Plentyn: Paul Raymond Stennett
Rhiant: Lilian Stennett
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: actifydd cydberthynas hiliol, dyn busnes, dawnsiwr
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Diwydiant a Busnes; Perfformio
Awdur: Audrey West

Ganwyd Enrico Stennett ar 9 Hydref 1926 yn Mount Carey, ger Bae Montego, Jamaica, yn fab i Lilian Stennett, menyw wen o deulu a ddaliai blanhigfa yn Jamaica. Cafodd ei fam ei gwrthod gan y rhan fwyaf o'i theulu am iddi gael plant gyda dynion Jamaicaidd du. Mae cofnodion a hanesion teuluol yn ansicr, ond ar sail manylion hunangofiannol ac Archifau Cenedlaethol Jamaica, ymddengys mai Enrico oedd yr olaf o saith o blant Lilian: Daphne May Stennett (1914-1915); Percival Joseph Stennett (g. 1919); Rupert Wesley Stennett (g. 1922); Carlton (tad Jamaicaidd du Carlton Gordon); Louise Mercedes Stennett (g. 1923); May Stennett (g. 1925). Serch hynny, mae Enrico hefyd yn crybwyll brawd iau o'r enw Ronald yn ei hunangofiant. Bu farw tad Enrico cyn i'r mab gael ei eni, ac nid enwir ef ar y dystysgrif eni. Cyflwynodd Enrico ei hunangofiant i'w Fodryb Rose (Crockett), a roddodd iddo ofal a chariad ar ôl i'w fam ei adael gyda pherthnasau eraill yn chwe mis oed. Mae ei gefndir teuluol yn arwydd o'r croestynnu ym mywyd Enrico. Cafodd ei gymdeithasoli i ymarddel yn wyn ac yn uwchraddol i 'bobl o liw' yn Jamaica, er iddo brofi elyniaeth o'r ddwy ochr am fod o 'dras gymysg'.

Cyrhaeddodd Stennett yn y DU yn 1947 yn gudd-deithiwr ar yr Empire Windrush cyn ei charfan fwy o deithwyr dilys yn 1948. Ei fwriad oedd hyfforddi fel cyfreithiwr. Ystyriai Stennett y DU fel ei etifeddiaeth deuluol, a chafodd fraw o weld y difrod ym Mhrydain wedi'r rhyfel. Sioc fwy byth iddo oedd cael ei wthio i'r cyrion fel dyn 'o liw' ar ôl bod yn gyfarwydd â breintiau statws 'brown uchel' yn Jamaica. Yn sgil ei brofiad o gleddyf daufiniog hiliaeth yn Jamaica a'r DU taniwyd ei angerdd dros ddileu'r aflwydd gartref ac yn rhyngwladol. Cydnabu ei hunaniaeth Affricanaidd ac yn fuan iawn ymunodd â'r 'League for Coloured People', y 'Coloured Workers' Association of Great Britain and Northern Ireland', undebau a'r mudiad llafur.

Trwy gydol ei yrfa, arbenigodd Stennett ym meysydd addysg, y gyfraith a chyfiawnder troseddol. Cafodd ei addysgu i safon uchel mewn amryw ysgolion preifat a chyhoeddus yn Jamaica a disgwyliai symud ymlaen gyda'i addysg yn y DU. Yn bragmatydd bob amser, aeth ati i astudio adeiladu a dodrefnwaith yng Ngholeg Technegol Shoreditch yn fuan ar ôl cyrraedd y DU pan gafodd waith dros dro yn y proffesiwn hwnnw. Yn ogystal â'i actifiaeth wleidyddol, roedd Stennett hefyd yn entrepreneur. Ymhlith amryw weithgareddau byddai'n sefydlu tai llety ar gyfer mewnfudwyr newydd a thai bwyta ar sail ei sgiliau fel adeiladwr proffesiynol. Roedd yn aelod o undebau llafur dros y galwedigaethau hyn.

Priododd Enrico Stennett a Margaret Stone (1923-1972) yn 1950, a bu iddynt ysgaru o'r diwedd yn 1960, oherwydd iddo esgeuluso'r teulu. Ganwyd iddynt ddau o blant: Robert Anthony a Paul Raymond.

Yn 1950, ynghyd â'i wraig Margaret a'i gyfaill Iddewig Stanley Freeman, sefydlodd Stennett y 'Cosmopolitan Social Society' i ddarparu cefnogaeth gymdeithasol, gyfreithiol a llety i newydd-ddyfodiaid o Affrica ac India'r Gorllewin ym Mhrydain. Y flwyddyn ganlynol, ynghyd â'i gyfeillion Mr E. Brewer a Mr W. Longmore, dau a sicrhaodd swyddi uchel yn Ghana a Nigeria annibynnol, sefydlodd Stennett y Gynghrair Affricanaidd, corff cymdeithasol a gwleidyddol i hyrwyddo gwell amodau byw a gweithio a statws annibynnol i bobl o India'r Gorllewin ac Affrica ym Mhrydain ac yn rhyngwladol.

Bu llofruddiaeth hiliol y saer o Antigua Kelso Cochrane yn Notting Hill yn 1959 yn gryn ysgytwad i Stennett, ac yn sgil hynny siaradodd yn Speaker's Corner Hyde Park bob dydd am ddeng mlynedd er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn clywed am brofiadau pobl Ddu yn y DU ac ar draws y byd. Mewn cyd-destunau hanesyddol a chyfoes, cyflwynodd faterion cymdeithasol, gwleidyddol a moesol, gan gynnwys gweithredu gwrth-drefedigaethol, gwrth-hiliaeth, rhyddhad ac annibyniaeth i drefedigaethau Affrica. Daliodd ati gyda'r areithio bocs sebon cyson tan iddo sefydlu'r misolyn African Voice, a ystyrir y papur newydd Du cyntaf ym Mhrydain, ac a barhaodd nes i Claudia Jones sefydlu papur ehangach ei gylchrediad, West Indian World. Ef oedd cadeirydd y Mudiad Somali yn Nwyrain Llundain, a chyhoeddodd y Somali Voice hefyd. Roedd yn aelod o'r Ymgyrch yn erbyn Anffafriaeth Hiliol (rhagflaenydd y Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol).

Bu Stennett yn gweithio ac yn byw ar draws y DU: yn Llundain a'r De-ddwyrain, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ac yng Nghymru. Ymhlith ei ymyriadau gwleidyddol roedd cynrychioli a chefnogi pobl ifainc o liw yn erbyn aflonyddu gan yr heddlu a'r wladwriaeth. Ar ôl ymddeol sefydlodd y Conffederasiwn Cenedlaethol Cymdeithasau Africanaidd a Charibeaidd, wedi ei leoli yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr. Enillodd Stennett wobrau am ei waith rhagorol mewn cydberthynas gymunedol, gan gynnwys Gwobr Mileniwm.

Yn 1986 cyflwynodd y BBC y rhaglen ddogfen fer Mr Magic Feet am Enrico Stennett. Daeth yn enwog mewn rhai dinasoedd a maestrefi ym Mhrydain trwy rannu ei foddhad a'i sgiliau mewn dawnsio neuadd a jeif. Cafodd bartner delfrydol yn Mary Ann Knowles, (1953-2018) a oedd hefyd yn ysgafndroed ar y llawr dawnsio. Priododd y ddau yn 1974, ddwy flynedd ar ôl marwolaeth ei wraig gyntaf.

Yn 1995 symudodd Enrico a Mary i ogledd Cymru i ddianc rhag y straen a achoswyd gan ymosodiadau a sarhad a ddioddefai ef yn sgil ei waith dros gydraddoldeb hiliol yn Wolverhampton. Sefydlasant fusnes gwesty i ddechrau, ond methodd hwnnw yn y pen draw. Yn 2006 gwerthasant eu cartef yng Nghymru a symud i fyw yn Jamaica. Ond wedi tair blynedd o gael eu gwthio i'r cyrion a'u hecsbloetio fe'u gorfodwyd i ymadael a dychwelyd i fyw ym Mhenmaenmawr, Gwynedd, lle roedd y tirwedd yn atgoffa Enrico o Jamaica. Daliodd ati i ymgyrchu dros gydberthynas hiliol yno gyda Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Gogledd Cymru. Bu Enrico Stennett farw ar 7 Gorffennaf 2011 yn dilyn brwydr hir gyda salwch yr arennau, ac fe'i claddwyd ym Mynwent Lawnt Llanrhos, Llandudno.

Ni dderbyniai Stennett y cysyniad o wahaniaethau hil, na'r ieithwedd sy'n perthyn iddynt. Roedd yn well ganddo gyfleu hunaniaeth rhywun trwy gyfeirio at eu trigfan barhaol. Roedd ei ddwy wraig yn 'Brydeinwyr Gwyn'. Yng Nghyfrifiad 2001, disgrifiodd Stennett ei hunaniaeth ethnig fel 'Citizen of the United Kingdom.' Amddiffynnodd hyn gan ddweud, 'Citizen is a powerful term to be understood in the context of "subject of the crown"' ac ymhelaethodd ar oblygiadau'r statws hwn. Er iddo gydweithio'n agos â'r diwydiant cydberthynas hiliol, roedd Stennett hefyd yn feirniadol iawn o'i strwythur. Teimlai ei fod fel arfer yn atgyfnerthu hierarchaeth swyddogion o'i fewn yn hytrach na chynorthwyo'r cymunedau yr oeddent i fod i'w gwasanaethu, gan barhau hiliaeth yn ddiddiwedd.

Yn ei hunangofiant Buckra Massa Pickney, cofnododd Stennett ei brofiad personol a chymunedol o hierarchaethau hiliol cymhleth a dinistriol o fewn Jamaica a'r DU yn sgil caethwasiaeth drawsatlantig a threfedigaethedd, ynghyd â'i ymroddiad i wrthsefyll y gorthrwm hwn yn lleol ac yn fyd-eang. Llwyddodd ei lais ymgyrchol er gwaethaf helbulon parhaus. Yn 2018 fe'i cydnabuwyd gan Race Council Cymru yn un o 100 Eicon Cymru Ddu.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2022-08-15

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.