Ganwyd Stan Stennett ar 30 Gorffennaf 1925 ar fferm yn Rhiwceiliog, Pencoed, ger Pen-y-bont ar Ogwr, yr hynaf o dri mab Doris Stennett. Nid adwaenai ei dad erioed, a bu ei fam farw yn 1937, felly o'i ddeuddeg oed ymlaen cafodd Stan ei fagu gan ei dad-cu a'i fam-gu, Richard ac Annie Stennett. Daeth ei ddawn gerddorol i'r amlwg yn gynnar iawn, a gallai chwarae'r gitâr a'r harmonica yn bymtheg oed. Tyfodd ei hoffter o ddifyrrwch wrth iddo wylio ffilmiau cowbois Gene Autry tra'n gweini hufen iâ fel gwaith rhan-amser mewn sinema lleol. Bu'n gweithio wedyn dros Pickfords yn ystod y dydd, gan chwarae mewn bandiau gyda'r nos.
Yn ystod y rhyfel ymunodd â'r Royal Artillery fel gyrrwr, a threuliodd unrhyw amser rhydd yn difyrru'r milwyr eraill, gan chwarae'r gitâr a dweud jôcs ac anecdotau rhwng caneuon. Ymunodd yn y pen draw ag Uned Ddifyrrwch y Combined Services, a dyna'i gyfle mawr i feithrin ei ddawn. Ar ôl gadael y fyddin, bu'n chwarae mewn nifer o fandiau, ac aeth ar gylchdaith y sioeau amrywiaethol yn llawn amser. Ymunodd hefyd â chast Welsh Rarebit gyda pherfformwyr cyson eraill fel Harry Secombe, Wyn Calvin, Eynon Evans, Gladys Morgan a Maudie Edwards.
Priododd Elizabeth Rogers yn 1948, a ganwyd iddynt ddau fab, Roger (g. 1949) a Ceri (g. 1960).
Setlodd Stennett yn y pen draw mewn band o'r enw The Harmaniacs, gan chwarae jazz a cherddoriaeth boblogaidd yn bennaf. Cawsant eu bachu gan y radio, ac ymddangos yn aml ar Workers' Playtime, gan wneud sioe bob wythnos o wahanol leoliadau ar draws y wlad. Teithiodd y band yn helaeth, a dysgodd Stennett ei hun i chwarae'r trwmped a'r piano.
Ar ôl ychydig flynyddoedd, mentrodd Stennett ar ei ben ei hun, gan weithio fel artist nodwedd gyda'r Joe Loss Band a'r Ted Heath Band, ac yn berfformiwr blaenllaw ar y gylchdaith amrywiaethol ochr yn ochr â holl sêr y cyfnod, megis Ken Dodd, Danny Kaye, Petula Clark, Bob Hope, Tony Bennett, Johnnie Ray a James Cagney.
Bu'r llwyddiant hwn yn fodd i Stennett ymroi i'w ddiléit mawr - hedfan. Yn eironig ddigon, gan iddo gael ei wrthod gan y Llu Awyr yn ystod y rhyfel oherwydd ei olwg gwan, dysgodd hedfan yn gynnar yn y 1950au, a bu'n berchen ar ryw ugain o awyrennau yn ystod ei fywyd. Yn 1955 dyfarnwyd ef yn hedfanwr preifat y flwyddyn gan y Royal Aeronautical Club.
Er i'r gylchdaith amrywiaethol leihau o dipyn i beth yn ystod y 1950au, ni fu Stennett fyth yn ddi-waith. Symudodd i'r teledu, gan ymddangos ar lawer o sioeau'r cyfnod, fel Face the Music, Variety Parade a Show Band Parade. Yr alwad fawr ar gyfer seren comedi oedd gwahoddiad i chwarae'r Palladium, a dyna gafodd Stennett ar raglen Val Parnell, Sunday Night At The London Palladium - ac ar ei ail ymweliad yn y gyfres gyntaf llwyddodd i ragori ar Bob Hope o ran ffraethebion yn eu rhan ar y cyd yn Chwefror 1956. Ymunodd hefyd â'r Black and White Minstrel Show fel cyflwynydd am gyfnod o ryw bum mlynedd. Perfformiodd yn gyson mewn pantomeimiau a thymhorau haf ar draws y wlad. Gwahoddwyd ef i ddod yn aelod o'r Grand Order of the Water Rats yn Ebrill 1959, a bu'n gweithio'n ddiflino dros elusennau trwy gydol ei fywyd.
Yn y 1960au, cafodd Stennett gyfle i ddangos ei ddoniau fel actor. Yn ogystal â'i ymddangosiadau personol ar y teledu, cafodd sawl rhan yn A Play For Today ar y radio, ychydig episodau yn Coronation Street am gyfnod byr yn 1960, ac yn fwyaf nodedig fel panelwr cyson ar Jokers Wild ar Yorkshire Television yn 1973 a 1974.
Daeth rhannau mewn operâu sebon dros y ddau ddegawd nesaf. Yn 1971, gofynnwyd iddo gymryd rhan fechan yn y rhaglen boblogaidd Crossroads, lle chwaraeodd GI Americanaidd ar ffo. Daeth Coronation Street ar ei ofyn eto yn 1976, a chymerodd ran brawd Hilda Ogden yn fedrus iawn.
Yn 1980, newidiodd Stennett gyfeiriad eto, gan ddod yn Gyfarwyddwr Theatr 'The Roses' yn Tewkesbury am y 13 blynedd nesaf, lle defnyddiodd ei gysylltiadau helaeth i ddenu perfformwyr. Ond cafwyd tristwch yn sioe fawreddog 1984. Seren y sioe oedd Eric Morecambe, hen ffrind i Stennett. Wedi noson gyda'i gilydd ar y llwyfan, a'u galw'n ôl chwe gwaith, llewygodd Morecambe yn yr esgyll a bu farw yn Ysbyty Cheltenham ychydig oriau wedi'r sioe.
Dychwelodd Stennett i Crossroads yn 1982 a chwaraeodd ran Sid Hooper am y saith mlynedd nesaf. Erbyn 1983 roedd Stennett yn ddigon enwog i gael ei gynnwys ar This Is Your Life, ac fe'i daliwyd yn annisgwyl gan Eamonn Andrews yn studios HTV lle recordiwyd y rhaglen.
Ni fu ymddeol ar feddwl Stennett erioed, a bu'n teithio gyda'i sioeau ei hun a phantomeimiau yn bell heibio ei bedwar ugain. Ef sy'n dal y record o hyd am lywyddu'r nifer fwyaf o bantomeimiau yn olynol yn y Theatr Newydd yng Nghaerdydd - wedi gwerthu allan yn llwyr am bum mlynedd ar y tro. Bu hefyd mewn sioeau teledu megis Heartbeat, Doctors, Casualty, The History of Mr Polly ac yn fwyaf diweddar Stella gyda Ruth Jones. Dywedodd unwaith fod ganddo 25,000 o jociau yn ei lyfr, un ar gyfer pob achlysur, ond honnodd hefyd ei fod yn gomedïwr 'amgen', gan fod y sefydliad comedi erbyn hynny yn aflan ac yntau wedi aros yn lân.
Bu Stennett yn byw am flynyddoedd lawer yn Rhiwbeina, Caerdydd. Collodd ran fawr o'i bethau cofiadwy mewn tân yn y tŷ yn 1998, ond colli ei offerynnau cerdd a achosodd y gofid mwyaf iddo. Er ei holl brysurdeb, cafodd amser o hyd i chwarae golff, a bu'n weithgar gyda Chlwb Pêl-droed Caerdydd. Dyfarnwyd MBE iddo yn 1979 am ei wasanaeth i ddifyrrwch ac i elusennau.
Bu farw Stan Stennett yn Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd ar 26 Tachwedd 2013 yn sgil cymhlethdodau yn dilyn strôc.
Dyddiad cyhoeddi: 2024-01-10
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.