Ganwyd Helen Wyn Thomas ar 16 Awst 1966 yng Nghastellnewydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin, yn ferch i John Thomas a'i wraig Janet (g. Jones). Cadwai ei rhieni ddwy siop yn y dref, JDR Thomas ac Y Goleudy. Mynychodd Helen Ysgol Dyffryn Teifi ac wedyn astudiodd hanes yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan.
Ar ôl graddio, teithiodd Helen i India am chwe wythnos, lle cwrddodd â'r Fam Theresa. Bu'n gweithio wedyn dros Gymorth Menywod Caerdydd ac elusennau eraill, ac ymunodd â'r Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear.
Yr adeg honno, roedd safle maes awyr yr Unol Daleithiau ar Gomin Greenham yn Berkshire, lle bwriadai NATO leoli 96 o daflegrau criws. Yn haf 1981, gorymdeithiodd y grŵp Cymreig 'Menywod dros fywyd ar y ddaear' o Gaerdydd i Gomin Greenham i brotestio. Sefydlasant Wersyll Heddwch Menywod yno, ac wrth i'r brotest dyfu, sefydlwyd gwersylloedd eraill o amgylch y ffens terfyn. Protestiodd degau o filoedd o fenywod yn erbyn rhyfel ac arfau niwclear. Mewn amodau byw cyntefig iawn, gydag aflonyddu cyson a dan fygythiad parhaus o'u troi allan, cynhaliwyd protestiadau lu yn amrywio o addurno'r ffens terfyn a'i dorri, i flocedio'r ffyrdd.
Ar ddechrau 1989, ymunodd Helen â gwersyll y Porth Melyn yng Nghomin Greenham. Yn ôl ei mam, roedd angen mwy o fenywod yno ar y pryd ac roedd Helen yn awyddus i gyfrannu ac i roi o'i hamser dros heddwch. Ysgifennai Helen at ei rhieni gan ddweud bod merched Greenham yn ysbrydoliaeth enfawr iddi. Roedd yn ymroddedig i achos yr iaith Gymraeg, ac aeth ati i gyfieithu un o bamffledi cyhoeddusrwydd Greenham i'r Gymraeg ac ysbrydoli rhai o'i chyd-brotestwyr i ddysgu mwy am genedlaetholdeb Cymru.
Lladdwyd Helen Thomas mewn damwain ffordd yn y gwersyll ar 5 Awst 1989, pan gafodd ei tharo gan ddrych ystlys fan geffylau heddlu Gorllewin y Canolbarth a oedd yn mynd heibio wrth iddi sefyll yn y parth diogel yn aros i groesi heol i bostio dau lythyr. Roedd y fan geffylau'n mynd â phedwar ceffyl i arddangosfa elusennol yn Chichester. Penderfynodd y cwêst yn Llys Ynadon Newbury fod y farwolaeth yn ddamweiniol. Er bod teulu Helen yn credu nad oedd ei marwolaeth wedi ei harchwilio'n ddigonol, methiant fu eu hymgais i ailagor y cwêst. Helen oedd yr unig un a fu farw yn Greenham o ganlyniad i'r protestiadau heddwch. Fe'i cofir fel merthyr Comin Greenham.
Wrth i'r Rhyfel Oer ddirwyn i ben, dychwelodd y taflegrau a'r staff milwrol Americanaidd i'r Unol Daleithiau rhwng 1990 a 1992. Caeodd Gwersyll Heddwch y Menywod ar 5 Medi 2000. Agorwyd gardd heddwch i'r cyhoedd yno ddwy flynedd wedyn, gan gynnwys gardd fach ar gyfer Helen Thomas, yr unig ferch a nodir ar y safle. Yn ei gardd ceir cylch o saith carreg a ddaeth o chwareli yng Nghymru, o amgylch cerflun o fflam dragwyddol. Cofeb arall iddi yw'r fainc ger cloc y dref yng Nghastellnewydd Emlyn. Lluniodd Dafydd Iwan gân er cof iddi, 'Cân i Helen'. Yn 2019, roedd Helen Thomas yn un o bump o fenywod ar restr fer i'w coffáu gan y cerflun cyntaf yng Nghymru o fenyw wrth ei henw.
Dyddiad cyhoeddi: 2022-04-06
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.