Ganwyd Benjamin Vaughan ar 25 Rhagfyr 1917 yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, yn fab i James O. Vaughan (g. 1877), henadur yn y dref, a'i wraig Elizabeth (g. Lewis, 1877). Aeth i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, lle graddiodd gyda dosbarth cyntaf yn y Clasuron, ac wedyn i St Edmund Hall, Rhydychen, lle cafodd ail ddosbarth mewn Diwinyddiaeth. Cwblhaodd ei hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth yn Westcott House, Caergrawnt, a gweithiodd wedyn fel curad yn Llannon, ger Llanelli, ac yna yn Eglwys Dewi Sant, Caerfyrddin.
Symudodd i'r Caribî yn 1948, a threuliodd bedair blynedd yn diwtor yng Ngholeg Codrington, Barbados, prif ganolfan hyfforddiant diwinyddol India'r Gorllewin. Daeth rhai o'r clerigwyr a hyfforddwyd ganddo yn esgobion pan gafwyd annibyniaeth wleidyddol oddi wrth Brydain. Yn 1952, dychwelodd Vaughan i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, yn ddarlithydd mewn diwinyddiaeth. Yn ddiweddarach cafodd ei wneud yn gymrawd anrhydeddus o'r coleg.
Cymharol fyr oedd ei gyfnod yn Llanbedr Pont Steffan. Galwyd ef yn 1955 i fod yn Ddeon a Rheithor yr eglwys gadeiriol yn Port of Spain, prifddinas Trinidad a Tobago. Yn 1961, penodwyd ef yn esgob cynorthwyol Mandeville yn Jamaica; ar yr un pryd, roedd hefyd yn Archddiacon South Middlesex ac, am gyfnod, yn Rheithor Mandeville.
Daeth Vaughan yn Esgob Hondwras Brydeinig (Belize bellach) yn 1967. Ymdaflodd i fywyd ei esgobaeth fechan, a oedd yn dal i ddod dros ddinistr corwynt Hattie yn 1961. Vaughan oedd cadeirydd y Cyngor Cenedlaethol dros Addysg yn Hondwras Brydeinig, y Cyngor Cymdeithasol Cristnogol a Chomisiwn Amaethyddol yr eglwysi. Yng Nghynhadledd Lambeth 1968, dangosodd ei fod yn eciwmenydd ymroddedig a ymboenai am gyfiawnder cymdeithasol ac am y tlodion. Yn ei holl waith yn y Caribî, deallai ei bod yn hollbwysig i'r eglwys ymateb i'r byd ôl-drefedigaethol, trwy newid radicalaidd os oedd rhaid. Daeth tri llyfr o'r cyfnod hwn: Structures for Renewal (1967), Wealth, Peace and Godliness (1968) a The Expectations of the Poor (1972). Roedd yn geidwadwr yn ddiwinyddol.
Dychwelodd Vaughan i Gymru yn 1971 pan benodwyd ef yn Ddeon eglwys gadeiriol Bangor ac yn esgob cynorthwyol yn yr esgobaeth. Yn 1976 etholwyd ef yn esgob Abertawe ac Aberhonddu. Cwmpasai ei esgobaeth newydd yr ardal ddaearyddol fwyaf yng Nghymru a Lloegr, gan ymestyn o benrhyn Gŵyr i'r Mynydd Du ar y ffin â Sir Henffordd. At hynny, roedd yr eglwys gadeiriol yn Aberhonddu yn ddeugain milltir i ffwrdd o'r brif ganolfan boblogaeth yn Abertawe. Creodd Vaughan ganolbwynt undod yn ne'r esgobaeth trwy wneud Eglwys y Santes Fair Abertawe yn eglwys golegol, gyda choleg o gaplaniaid. Roedd gan bob un o'r caplaniaid hyn gyfrifoldeb dros ardal benodol o fewn yr esgobaeth. Vaughan hefyd a sefydlodd ganolfan deuluol yn Abertawe i wasanaethu aelodau difreintiedig y gymuned. Gweithiodd yn galed yn ogystal i wella addysg ddiwinyddol clerigwyr a lleygwyr.
Bu Vaughan yn llywydd Cyngor Eglwysi Cymru o 1980 i 1982. Roedd yn aelod o lys Prifysgol Cymru ac o Orsedd y Beirdd. Ar ôl ei ymddeoliad yn 1987, gwasanaethodd fel esgob cynorthwyol anrhydeddus yn ei hen esgobaeth.
Priododd Vaughan ei wraig gyntaf, Nesta Lewis (g. 1920) yn 1945; bu hi farw o gancr yn 1980. Tuag adeg ei ymddeoliad, priododd ei gyn-ysgrifenyddes, Magdalene Reynolds. Ni fu plant o'r naill briodas na'r llall. Bu farw Benjamin Vaughan ar 5 Awst 2003. Cynhaliwyd ei angladd yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu ar 13 Awst. Disgrifiwyd ef gan Archesgob Cymru fel 'a larger than life figure who touched the lives of many people during his long and fruitful ministry.'
Dyddiad cyhoeddi: 2023-12-06
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.