Ganwyd Evan James Williams ar 8 Fehefin 1903 yn Brynawel, Cwmsychbant, Sir Aberteifi, yr ieuengaf o dri mab i James Williams (1868-1950), saer maen, a'i wraig Elizabeth (Bes) (g. Lloyd, 1870-1948). 'Desin' oedd ei lysenw ymysg ei ffrindiau oherwydd ei allu wrth drin rhifau degol (decimal).
Bu'n ddisgybl yn Ysgol Llanwenog ac yna Ysgol Sir Llandysul cyn ennill ysgoloriaeth yn 16 oed i Goleg Technegol Abertawe, gan drosglwyddo i Goleg Prifysgol Abertawe pan agorodd y sefydliad hwnnw ei ddrysau yn Hydref 1920. Ym 1923 graddiodd â dosbarth cyntaf mewn ffiseg ac ym marn yr arholwr allanol, yr Athro Charles Barkla, enillydd gwobr Nobel, 'his papers submitted in the Honours Degree Examination were some of the most remarkable I have ever had the privilege of reading'.
Arhosodd yn Abertawe am flwyddyn arall a sicrhau gradd MSc am astudiaeth ar ddargludedd metalau hylifol, cyn symud i adran ffiseg Prifysgol Manceinion ym 1924 i baratoi ar gyfer PhD. Gwasgariad pelydrau X gan atomau gwahanol nwyon oedd testun ei ymchwil. Gyda chefnogaeth cymrodoriaeth Prifysgol Cymru llwyddodd i gwblhau ei draethawd ddiwedd 1926. Mae'n drawiadol i oruchwyliwr ei waith ddatgan i Williams gwblhau'r drafodaeth ddamcaniaethol heb unrhyw gymorth.
Ym 1927 sicrhaodd ysgoloriaeth Arddangosfa Frenhinol 1851 i astudio yn labordy'r Cavendish, Prifysgol Caergrawnt, a dod yn aelod o goleg Gonville a Caius. Gwrthdrawiadau electronau cyflym yn mudo drwy nwyon oedd y testun dan oruchwyliaeth pennaeth y labordy, Ernest Rutherford, un o gewri ffiseg yr ugeinfed ganrif. Sicrhaodd ei ail ddoethuriaeth ddiwedd 1929.
A Williams wedi cyhoeddi nifer o bapurau, gan gynnwys rhai yn Nhrafodion y Gymdeithas Frenhinol, roedd pennaeth adran ffiseg Prifysgol Manceinion, Laurence Bragg, yn awyddus i'w ddenu yn ôl a chafodd ei benodi yn ddarlithydd cynorthwyol yn yr adran ym 1929. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, ym 1930, dyfarnwyd gradd DSc Prifysgol Cymru iddo ar sail ei gyhoeddiadau. Ym 1931 fe'i dyrchafwyd i swydd darlithydd arbennig mewn ffiseg fathemategol.
Parhaodd Williams i astudio gwrthdrawiadau atomig gan gyhoeddi pum papur damcaniaethol yn Nhrafodion y Gymdeithas Frenhinol. Yn y cyhoeddiadau hyn seiliai ei ddadansoddiad o'r gwrthdrawiadau ar y ffiseg newydd - ffiseg cwantwm - a oedd dros y ddau ddegawd blaenorol wedi trawsnewid dealltwriaeth gwyddonwyr o natur y byd atomig. Yn ogystal, ymgorfforai gysyniadau mwy traddodiadol oedd yn rhoi gwell mewnwelediad i natur y gwrthdrawiad na mathemateg astrus ffiseg cwantwm. Croesawyd hyn gan arbrofwyr nad oedd o anghenraid wedi eu trwytho yn y ffiseg newydd.
Yn ogystal â'i waith ei hun roedd Williams yn barod iawn i gynorthwyo cydweithwyr mewn meysydd eraill i ddatblygu modelau damcaniaethol. Enghraifft nodedig oedd datblygiad model Bragg-Williams ar gyfer egluro canlyniadau oeri aloion poeth, model a ddaeth yn enwog ym myd cemeg. Llwyddodd Williams i gwblhau ei ddatrysiad drwy weithio drwy'r nos a chyflwyno'r gwaith gorffenedig i'w bennaeth adran y bore wedyn!
Ym 1933 sicrhaodd Williams gymrodoriaeth Rockefeller oedd yn ei alluogi i weithio gyda Niels Bohr yn ei athrofa ym Mhrifysol Copenhagen yn ystod blwyddyn academaidd 1933-34. Roedd hyn yn dipyn o bluen yn het Williams gan taw Bohr oedd un o brif sylfaenwyr ffiseg cwantwm ac yn awdurdod yn y maes. O ganlyniad roedd yr athrofa yn gyrchfan i ffisegwyr o bell ac agos - cyfle euraidd i Williams fedru trafod a chyfnewid syniadau gyda rhai o feddylwyr praffaf ffiseg atomig.
Bu'r flwyddyn yn Copenhagen yn gyfnod ffrwythlon iddo. Un cyfraniad pwysig o'i eiddo oedd datblygu dull damcaniaethol o ddadansoddi gwrthdrawiadau atomig, un y gellid ei gymhwyso ar gyfer ystod eang o sefyllfaoedd. Daeth y dull yn adnabyddus maes o law fel dull Weizäcker-Williams; cynyddu wnaeth y defnydd ohono ac mae'n dal i gael ei ddefnyddio heddiw. Enwir yr Almaenwr Carl von Weizäcker oherwydd iddo ychwanegu, yn annibynnol, at ymdriniaeth Williams.
Arweiniodd astudiaeth arall ar y cyd rhwng Williams a Bohr at ganlyniad a brofodd yn bellgyrhaeddol. Fe'u sbardunwyd gan anghydweld rhwng ffisegwyr ynghylch natur pelydrau cosmig o'r gofod gyda rhai yn awgrymu nad oedd ffiseg cwantwm yn ddilys ar gyfer gronynnau egnïol iawn. Llwyddodd y ddau i wrthbrofi hyn, ac awgrymodd eu dadansoddiad ymhellach fod gronyn anhysbys yn bodoli.
Ar ôl dychwelyd o Copenhagen treuliodd Williams ddwy flynedd arall ym Manceinion cyn cael ei benodi ym 1936 yn ddarlithydd a chymrawd Leverhume yn adran ffiseg Prifysgol Lerpwl dan y pennaeth, James Chadwick. Erbyn hyn roedd gwaith Williams ym maes ffiseg atomig yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol, felly roedd ei benodiad yn gaffaeliad ac yn codi proffil rhaglen ymchwil yr adran. Yn ogystal roedd gan Chadwick ddiddordeb yn y maes ag yntau wedi derbyn gwobr Nobel am ddarganfod y niwtron (cydymaith y proton yn y niwclews atomig). Anogodd Williams i chwilio am y gronyn anhysbys a ragfynegwyd yn Copenhagen ac aed ati i adeiladu cyfarpar ar gyfer astudio pelydrau cosmig, y lle tebycaf i'w ganfod. Flwyddyn yn ddiweddarach, ym 1938, yr oedd ymhlith llond dwrn o ffisegwyr a lwyddodd i sicrhau tystiolaeth o fodolaeth y gronyn - y meson fel y'i enwyd wedyn.
Treuliodd Williams ddwy flynedd yn Lerpwl cyn cael ei benodi ym 1938 i gadair ffiseg Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth; dyrchafiad oedd yn rhoi cyfle hefyd iddo fod yn agos at ei rieni a'r fro a oedd mor agos at ei galon.
Gyda chynnydd yn y diddordeb yn y meson does dim syndod i Williams ddod â'r cyfarpar a adeiladodd yn Lerpwl i Aberystwyth. O ganlyniad, ddiwedd 1939, llwyddwyd i arddangos y modd yr oedd y meson yn dadfeilio. Williams oedd y cyntaf i ganfod y dystiolaeth gan roi Aberystwyth ar flaen y gad.
Yn y cyfamser bu cydnabyddiaeth bellach ym 1939 i statws Williams pan gafodd ei ethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol. Arwydd arall oedd gwahoddiad, yn yr un flwyddyn, i gyflwyno cyfres o ddarlithoedd yn ysgol haf ffiseg ddamcaniaethol Prifysgol Michigan, ysgol haf a ddisgrifiwyd fel 'summer school for geniuses'.
Gyda llwyddiant ymchwiliadau'r meson roedd pob rheswm i dybio y byddai'r blynyddoedd canlynol yn dod â bri rhyngwladol i Aberystwyth. Fodd bynnag, torrodd yr Ail Ryfel Byd ar draws gwaith yr adran a bu'n rhaid troi golygon i raddau helaeth tuag at yr ymgyrch filwrol. Ymunodd Williams â grŵp o wyddonwyr i ddatblygu strategaethau drwy ddulliau ystadegol ar gyfer ymosod ar longau tanfor yr Almaen yn yr Iwerydd. Bernir i'r dadansoddiadau a baratowyd fod yn allweddol yn y dasg o dargedu'r llongau tanfor ac felly arbed y confois oedd yn cludo nwyddau hanfodol i Brydain. Daeth Williams yn arweinydd y grŵp ac ystyrir fod ei allu i ddatblygu'r dulliau ystadegol angenrheidiol yn ddigymar.
A'r rhyfel yn dirwyn i ben bwriad Williams oedd ailgychwyn astudio'r meson. Yn anffodus fe'i trawyd gan gancr y perfeddion ac er llawdriniaeth ni fu gwellhad. Penderfynodd ddod adre at ei rieni yng Nghwmsychbant ac yno y bu farw ar 29 Medi 1945. Fe'i claddwyd ym mynwent Capel y Cwm, Cwmsychbant.
Cafodd ei ddisgrifio gan Patrick Blackett, enillydd gwobr Nobel, fel 'one of the most brilliant physicists of our generation'. Nid oes amheuaeth nad oedd Williams wedi cyrraedd y brig, gyda'i gyfraniadau i ffiseg atomig yn cael eu cydnabod ar draws y byd. A chymaint i'w gyflawni eto roedd ei farwolaeth annhymig, ac yntau yn ei anterth, yn golled enfawr i ffiseg ac i Gymru.
Dyddiad cyhoeddi: 2022-07-28
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Ganwyd 8 Mehefin 1903 yng Nghwmsychpant, Sir Aberteifi, yn fab i James Williams, saer maen, ac Elizabeth (née Lloyd), ei wraig. Aeth o ysgol elfennol Llanwennog i ysgol sir Llandysul, ac yna i goleg Prifysgol Cymru, Abertawe, lle y graddiodd (1923) gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn ffiseg. Bu'n gwneuthur gwaith ymchwil yn Abertawe, Manceinion a Chaergrawnt, ac enillasai raddau Ph.D. (Manceinion), Ph.D. (Caergrawnt) a D.Sc. (Cymru) erbyn 1930. Rhwng 1929 a 1938 bu'n olynol yn ddarlithydd ym mhrifysgolion Manceinion a Lerpwl a threuliodd flwyddyn o'r cyfnod (1933-4) ym mhrifysgol Copenhagen. Yn 1938 penodwyd ef yn athro ffiseg yng ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ond torrodd y rhyfel ar draws ei yrfa yno, ac o 1939 hyd 1945 bu'n gwneuthur ymchwil gwyddonol yn gysylltiedig â'r lluoedd arfog. Etholwyd ef yn gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol yn 1939. Bu'n swyddog gwyddonol yn sefydliad yr awyrlu yn Farnborough 1939-41, yn gyfarwyddwr ymchwil 'R.A.F. Coastal Command', 1941-2, yn gynghorydd gwyddonol i'r llynges ynglŷn â dulliau i ymladd llongau tanfor, 1943-4, ac yn gyfarwyddwr cynorthwyol ymchwil yn y llynges, 1944-5.
Bu farw 29 Medi 1945. Ceir rhestr o'i gyhoeddiadau a gwerthfawrogiad o'i waith fel gwyddonydd ac o'r rhan arbennig a chwaraeodd yn y frwydr yn erbyn llongau tanfor gan P. M. S. Blackett yn Obituary Notices of Fellows of the Royal Society, cyf. 5, rhif 15, 1947.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.