WILLIAMS, ORIG ('El Bandito') (1931 - 2009), pêl-droediwr, reslwr, hyrwyddwr a newyddiadurwr

Enw: Orig Williams
Dyddiad geni: 1931
Dyddiad marw: 2009
Priod: Wendy Kay Williams (née Young)
Plentyn: Tara Bethan Williams
Rhiant: Ellen Ann Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pêl-droediwr, reslwr, hyrwyddwr a newyddiadurwr
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Barry Jenkins

Ganwyd Orig Williams ar 20 Mawrth 1931 yn 7 Stryd Fawr, Ysbyty Ifan, Sir Gaernarfon, yn fab i Ellen Ann (Nellie) Williams, morwyn. Ni nodir enw tad ar ei dystysgrif geni.

Roedd Ysbyty Ifan yn lle garw i dyfu i fyny. Byddai dynion y pentref yn sôn yn aml am y gwŷr cryfion a welsant ac ymladdai'r bechgyn am safle yn y gymdeithas, a bu'r ddau beth yn sbardun i hoffter Orig o heriau corfforol. Yn un ar ddeg oed enillodd le yn Ysgol Ramadeg Llanrwst lle tyfodd ei obsesiwn gyda chwaraeon, a phêl-droed yn arbennig. Magodd flas hefyd ar lenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg.

Yn 1949 ymunodd â'r RAF er mwyn cyflawni ei wasanaeth cenedlaethol. Er iddo gael ei wawdio i gychwyn am fod yn Gymro, ar sail ei allu corfforol a meddyliol amlwg cafodd ei argymell i wasanaethu mewn criw awyr, ond gwrthododd a dewisodd waith fel clerc er mwyn cael mwy o amser i chwarae pêl-droed a gwneud ymarfer corff yn y gampfa.

Wedi iddo gwblhau ei wasanaeth cenedlaethol cafodd Williams gynnig prawf gyda chlwb pêl-droed Oldham Athletic, a derbyniodd y cyfle yn eiddgar. Gwahoddwyd ef i gael gêm brawf gyda thîm amatur Cymru hefyd, ond er gwaethaf ei wladgarwch tanbaid, gwrthod a wnaeth gan arwyddo'n broffesiynol gydag Oldham. Ar ôl gwrthdaro corfforol gyda rheolwyr Oldham, aeth i glwb Amwythig cyn cael anaf a fyddai'n ddiwedd ar ei yrfa yn Lloegr.

Dychwelodd Williams i Ysbyty Ifan ac roedd yn gweithio fel prentis saer coed pan ddaeth y pêl-droediwr enwog Tommy Jones i'w weld a chynnig cyfle iddo chwarae dros dîm Pwllheli. Yn y pen draw daeth Williams yn chwaraewr/rheolwr gyda'r clwb a dechreuodd sgrifennu colofn yn rhaglenni'r gemau. Ar ôl gadael Pwllheli, aeth yn chwaraewr/rheolwr Dyffryn Nantlle. Buan iawn y daeth y tîm yn ddrwg-enwog am ei ddull corfforol o chwarae, dan arweiniad Williams, a oedd yn ôl y sôn yn cael ei ddanfon o'r maes yn amlach na neb arall yn y gynghrair. Yn sgil lleihad ym maint y dorf, yn rhannol oherwydd darlledu reslo ar ITV yr un pryd â'r gemau, a phroblemau cynyddol gyda'r awdurdodau, rhoddodd Williams y gorau i chwarae pêl-droed.

Heb fawr o opsiynau ac yn benderfynol o osgoi mynd yn was ffarm, holodd hyrwyddwr reslo am gyfleoedd. Ar ôl cwrs carlam mewn reslo elfennol anfonwyd ef ar daith yn Iwerddon. Er bod ei berfformiadau'n weddol, roedd angen mwy o brofiad arno, felly trefnodd yr hyrwyddwr waith iddo mewn ffair yng Nghernyw. Cyn pen fawr o dro roedd Orig Williams yn reslwr uchel ei barch drwy Brydain, gan ennill enw da fel gweithiwr dygn. Cafodd gyfle i reslo yn India lle ymgodymodd â'r pencampwr enwog Imam Bux a'i fab 'the Great Bholu'. Yn ystod ei gyfnod yn India gofynnodd Bholu iddo fynd i Bacistan, lle byddai'n reslo'n rheolaidd o flaen torfeydd hyd at 100,000. Arhosodd dramor am ddeunaw mis, gan reslo yn Asia, yr nol Daleithiau ac Ewrop.

Yn ôl ym Mhrydain daeth Orig Williams yn enwog fel reslwr 'dyn drwg' dan y llysenw 'El Bandito' a gafodd yn America am fod ei fwstash arwyddnod yn gwneud iddo edrych fel Mecsicanwr. Dechreuodd hyrwyddo ei sioeau ei hun yn fuan, gan berfformio ei hunan er mwyn arbed arian. Hyfforddodd reslwyr ifainc hefyd, ac aeth rhai ohonynt ymlaen i fod yn llwyddiannus iawn, megis William Regal a Klondyke Kate, dau sydd wedi mynegi eu dyled i'w gefnogaeth. Gweithiodd yn helaeth gydag S4C ar eu sioe Reslo yn y 1980au fel reslwr, trefnydd a chyflwynydd. Roedd y sioe'n flaengar ym maes reslo teledu ym Mhrydain, gan ddangos gornestau merched yn rheolaidd am y tro cyntaf yn ogystal â themâu arbennig fel caetsh, cadair ac ysgolion, a honno oedd y rhaglen reslo olaf i'w darlledu'n rheolaidd ar deledu Prydain nes iddi ddod i ben yn 1995.

Priododd Wendy Kay Roberts yn 1983, gan ymgartrefu yn Llanfair Talhaearn. Ganwyd iddynt un ferch, Tara Bethan, a ddaeth yn actores a chantores.

Yn ystod ei gyfnod ar y rhaglen Reslo parhaodd Williams i newyddiadura, gyda cholofn ddadleuol ond poblogaidd, 'Siarad Plaen' yn y North Wales Daily Post. Byddai ei golofn yn aml yn lleisio safbwynt cenedlaetholgar, yn enwedig o ran y frwydr i gadw'r iaith yn fyw ac yn berthnasol. Yn 1985 cyhoeddodd ei hunangofiant dan y teitl Cario'r Ddraig. Cafodd ei gyfraniad i'r iaith ei gydnabod gan yr Eisteddfod Genedlaethol pan dderbyniwyd ef i Orsedd y Beirdd yn 2000.

Er gwaethaf ei dymer wyllt a'i gryfder corfforol, roedd Orig Williams yn ddyn caredig a hael. Cynhaliodd dŷ agored ar gyfer ei reslwyr, roedd yn adnabyddus am ei barodrwydd i gynorthwyo rhai mewn angen, ac roedd hefyd yn awyddus i sicrhau bod pawb a weithiai iddo yn dod yn reslwyr gwell o'r herwydd.

Bu Orig Williams farw o drawiad ar y galon yn Llanelwy ar 12 Tachwedd 2009. Fe'i claddwyd yn y Fynwent Newydd, Rhuddlan.

Coffawyd ei ymroddiad i bêl-droed Cymru yn 2019 pan gystadlodd Llansannan a Dyffryn Nantlle, dau dîm agos at ei galon, am Gwpan Orig Williams.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2023-11-07

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.