WILLIAMS, GRIFFITH VAUGHAN (GRIFF) (1940 - 2010), newyddiadurwr ac actifydd hoyw

Enw: Griffith Vaughan Williams
Dyddiad geni: 1940
Dyddiad marw: 2010
Partner: Paul Cannon
Rhiant: Griffith Williams
Rhiant: Katherine Williams (née Turner)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: newyddiadurwr ac actifydd hoyw
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol

Ganwyd Griff Vaughan Williams ar 9 Tachwedd 1940 ym Mangor, Gwynedd, unig blentyn Griffith Williams (g. 1910), a'i wraig Katherine (g. Turner, 1910-1968). Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg Friars ym Mangor ac astudiodd newyddiaduraeth yng Nghaerdydd, a gweithiodd wedyn i nifer o gylchgronau a phapurau rhanbarthol ar draws y wlad cyn ymuno â'r Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol fel swyddog y wasg. Yn nes ymlaen gweithiodd fel newyddiadurwr llawrydd.

Pan fethodd y llywodraeth weithredu argymhellion Adroddiad Wolfenden (1957) ynghylch rhannol ddad-droseddoli cyfunrhywiaeth, sefydlwyd nifer o grwpiau actifyddion a gwirfoddolodd Williams gyda'r Gymdeithas Ddiwygio Cyfraith Gyfunrhywiol o 1962 i 1970. Roedd yn aelod cynnar o'r Ymgyrch dros Gydraddoldeb Cyfunrhywiol (YGC), a ffurfiwyd yn 1969, a gweithiodd drosto'n ddi-dor am 35 mlynedd tan ei farwolaeth.

Un o'i ddyletswyddau yn yr YGC oedd trefnu'r gynhadledd flynyddol, a phan wnaeth gais i'w chynnal yn Scarborough yn 1976 gwrthodwyd y cais gan y cyngor lleol. Arweiniodd ei ymdrechion i gynnal y gynhadledd yn Llandudno y flwyddyn ganlynol at ffrae gyhoeddus ynghylch anffafriaeth, ond bu'r achos yn fodd i gynyddu proffil ac aelodaeth YGC.

Yn 1974 bu'n ymgynghorydd ac yn gyfrannwr i raglen ddogfen arloesol am gydraddoldeb cyfunrhywiol ar ITV, Speak for Yourself, a amlinellodd waith yr YGC. Pan safodd Peter Mitchell yn ymgeisydd yr 'Ymgyrch dros Hawliau Sifil Cyfunrhywiol' dros Ddinas Llundain a San Steffan mewn etholiad seneddol yn 1977, gweithredodd Williams fel ei asiant etholiadol.

O'r 1980au ymlaen poenai Williams fwyfwy am y lefel uchel o drais yn erbyn hoywon, a chyfrannodd ymchwil i gyhoeddiad yr YGC Attacks on Gay People gan Julian Meldrum (1981). Trwy gydol y 1980au hwyr a'r 90au bu cyfres o lofruddiaethau amlwg, gan gynnwys y llofrudd cyfresol Peter Moore yng ngogledd Cymru, ac felly aeth Williams, ynghyd ag aelodau eraill yr YGC, at Heddlu Llundain i gynnig cydweithio. Nid oedd hyn yn dderbyniol gan yr holl aelodau, a ddrwgdybiai'r heddlu oherwydd eu gelyniaeth tuag at bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, a thrawsrywiol a'u diffyg ymroddiad i fynd i'r afael â throseddau yn eu herbyn. Serch hynny, bu'r cyfarfod yn llwyddiant ac arweiniodd at sefydlu Menter Lesbiaidd a Hoyw Heddlu Llundain a fu'n cwrdd yn rheolaidd yn ystod y 1990au.

Bu'r achos bomio erchyll mewn tafarn hoywon yn Llundain, yr Admiral Duncan, yn 1999, pan laddwyd tri o bobl ac anafu 79, yn sbardun i Heddlu Llundain i gysylltu â Williams ac eraill i'w cynghori ar weithio gyda'r gymuned LHDT. Arweiniodd hyn at ffurfio'r Grŵp Ymgynghorol LHDT, 'Policing Watchdog for LGBT People in London' (sy'n dal i fodoli heddiw). Parhaodd Williams i weithio'n agos gyda'r grŵp hwn hyd at ei farwolaeth a bu'n gynghorydd pwysig ar lofruddiaethau pobl LHDT.

Bob Hodgson oedd cyd-gadeirydd y Grŵp Ymgynghorol, a chofiodd Griff Williams fel: a character, and a gay activist who had an encyclopaedic knowledge of LGBT issues and details of past and current cases. He scoured local papers and visited coroner's courts to discover pieces of information on LGBT cases which had been overlooked or badly investigated.

Parhaodd y problemau gyda'r heddlu ac yn 2002 cynigiwyd syniad gan y Grŵp Ymgynghorol i archwilio'r ffyrdd yr oedd llofruddiaethau'n cael eu trin gan yr heddlu, ac ymhen pum mlynedd cyhoeddwyd The Murder Review (2007) lle honnwyd bod y gwahaniaethu sefydliadol a fodolai o fewn yr heddlu yn dal i rwystro ymchwiliadau i lawer o'r llofruddiaethau. Gwnaed llawer o'r ymchwil gan Griff Williams a Bob Hodgson. Argymhellodd yr adroddiad ddau ar hugain o welliannau yn Heddlu Llundain; gweithredwyd pob un, a dyfarnodd yr Heddlu Gymeradwyaeth am eu gwaith i Williams a'i gydweithwyr. Yn y blynyddoedd wedyn dilynodd heddluoedd eraill arweiniad Heddlu Llundain gan weithredu newidiadau a ddeilliodd yn y pen draw o adroddiad yr YGC.

Bu Griff Vaughan Williams farw ar 15 Tachwedd 2010, gan adael ei bartner ers deng mlynedd ar hugain, Paul Cannon. Fe'i claddwyd yn Amlosgfa Mortlake, Richmond upon Thames, Llundain.

Yn ysgrif goffa'r Independent dyfynnir disgrifiad yr hanesydd Keith Howes ohono: passionately, noisily committed to gay rights but never pompous or elitist; always politely eloquent, even at his most bombastic. His was a powerful gay voice, devoted to truth and equality.

Mae ei bapurau ar gadw yn y Bishopsgate Institute, Llundain, ac yn llyfrgell Ysgol Economeg Llundain.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2022-10-11

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.