Ganwyd Mohammad Asghar, a adwaenid fel Oscar, ar 30 Medi 1945 yn Peshawar, Talaith Goror y Gogledd Orllewin, India Brydeinig, fel yr oedd yr adeg honno, Khyber-Pakhtunkhwa, Pacistan bellach, mewn teulu Mwslemaidd, yn fab i Aslam Khan a'i wraig Zubaida Aslam. Medrai Urdu, Hindi a Punjabi. Enillodd radd BA mewn Gwyddoniaeth Wleidyddol ym Mhrifysgol Peshawar cyn symud i Loegr i wneud MBA ac wedyn i Gymru i gwblhau cwrs cyfrifeg yng Nghasnewydd. Bu'n gweithio mewn amryw gwmnïau cyfrifwyr, gan gynnwys R. J. Minty Chartered Accountants yng Nghasnewydd o 1972 cyn sefydlu ei gwmni ei hun yn 1983.
Priododd Firdaus yn 1983, a ganwyd merch iddynt, Natasha, yn Hydref 1983. Etholwyd Natasha Asghar i'r Senedd yn aelod Ceidwadol dros Dde-ddwyrain Cymru yn 2021. Yn fabolgampwr brwd a redodd gyda'r fflam Olympaidd yn 1964, roedd Mohammad Asghar yn hoff o griced yn enwedig. Ymgyrchodd dros gael tîm criced i Gymru a cheisiodd gychwyn tîm yn y Senedd.
Dechreuodd Mohammad Asghar ei yrfa wleidyddol yn aelod o'r Blaid Geidwadol am ddau ddegawd o'r 1970au hyd y 1990au, pan drodd at y Blaid Lafur. Daeth yn gynghorydd Mwslemaidd cyntaf Casnewydd yn 2004, ac wedyn ymunodd â Phlaid Cymru, penderfyniad a oedd yn syndod i lawer gan fod ei safbwynt unoliaethol yn groes i bolisi Plaid Cymru o annibyniaeth i Gymru. Dywedodd Asghar ei hun ar goedd fod y cynnig o brofiad gwaith i'w ferch gan ASE Jill Evans yn ddylanwad ar ei benderfyniad. Pan etholwyd ef ym Mai 2007 i gynrychioli Plaid Cymru dros Dde-ddwyrain Cymru ef oedd yr aelod cyntaf o'r Senedd o leiafrif ethnig. Yn 2009 croesodd y llawr i ailymuno â'r Blaid Geidwadol gan ddatgan ei fod 'out of tune' â Phlaid Cymru ac yn teimlo fel 'a little parrot in a jungle'. Yn etholiadau'r Senedd yn 2011 fe'i hetholwyd dros y Blaid Geidwadol.
Daeth Asghar yn Weinidog yr Wrthblaid dros Gydraddoldeb a Chwaraeon 2011-2018, ac wedyn yn Weinidog yr Wrthblaid dros Addysg Bellach, Ffydd a Sgiliau 2018-2020. Bu'n aelod hefyd o sawl pwyllgor, gan gynnwys y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus 2007-2020, Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau 2019, a Phwyllgor yr Economi, Isadeiledd a Sgiliau. Yn 2018, bu'n gadeirydd Cyfeillion Ceidwadol India a hefyd Cyfeillion Ceidwadol Pacistan. Rhoddodd lawer o'i amser yn ogystal i hyrwyddo cysylltiadau â gwledydd eraill y gymanwlad trwy Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad. Roedd yn gefnogol iawn i integreiddio cymdeithasol a gweithiodd i dorri i lawr y gwahanfuriau rhwng amryw grefyddau a chymunedau.
Bu Mohammad Asghar farw'n sydyn ar 16 Mehefin 2020 ar ôl cael ei ruthro i'r ysbyty. Cynhaliwyd ei angladd ym Mosg Canolog Casnewydd ar 25 Mehefin.
Dyddiad cyhoeddi: 2024-12-03
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.