BURTON, IAN HAMILTON (Archimandriad Barnabas) (1915 - 1996), offeiriad Uniongred

Enw: Ian Hamilton (archimandriad Barnabas) Burton
Dyddiad geni: 1915
Dyddiad marw: 1996
Rhiant: Margaret Burton (née Latham)
Rhiant: Peter Jones Burton
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad Uniongred
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Ruth Gooding

Ganwyd Ian Burton ar 3 Medi 1915 ym Mhennal, Sir Feirionnydd, yr ail o bedwar o blant Peter Jones Burton (1883-1956), saer maen, a'i wraig Margaret (g. Latham, 1878). Cymraeg oedd ei iaith gyntaf, ac ni siaradai fawr ddim Saesneg yn ei flynyddoedd cynnar. Mynychodd ysgol y pentref, cyn ennill ysgoloriaeth i Ysgol Ramadeg Tywyn. Yn dilyn anghydfod gyda'r rheithor ynghylch glanhau'r eglwys, penderfynodd ei fam fynychu capel yr Annibynwyr yn hytrach na'r eglwys, heblaw pan ymwelai ei theulu. 'I must say I hated the long dreary services of the chapel and loved the beauty and mystery of the Church,' meddai Burton.

Gadawodd Burton yr ysgol yn 1931, wedi pasio pum pwnc yn y celfyddydau ond heb lwyddo mewn gwyddoniaeth na mathemateg. Roedd eisoes yn grefyddol iawn. Parhaodd i astudio Lladin a Groeg gyda'i Reithor, y Parch. Robert Davies, ac aeth ati yn y pen draw i ymbaratoi i'w ordeinio yn yr Eglwys yng Nghymru.

Yn dilyn cyngor gan leian feudwy Anglicanaidd, y Chwaer Mary Fidelia, a oedd yn byw yn hen dŷ ei daid yn Llanwrin, ymunodd Burton ag Urdd Anglicanaidd y Tadau Cowley yn Rhydychen, gan ddod yn ymgeisydd yno ym Medi 1933. Roedd hwn yn gyfnod ffrwythlon iawn yn ei fywyd wrth iddo ddarllen yn eiddgar a dilyn rhaglen lem y fuchedd fynachaidd.

Wedi iddo benderfynu mynd yn offeiriad, gadawodd Burton Cowley o'i anfodd yn 1934 a dychwelodd i Bennal. Er mwyn ymgymhwyso i gael mynediad i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, roedd angen ychwanegu mathemateg i'w dystysgrif ysgol, a llwyddodd i wneud hynny trwy astudio yng Ngholeg St Ioan, Ystrad Meurig, gan breswylio gwta filltir o adfeilion Ystrad Fflur. Pasiodd arholiad mynediad Coleg Dewi Sant ac fe'i derbyniwyd ar gwrs gradd mewn diwinyddiaeth yn 1935. Tra'n fyfyriwr yno bu'n aelod o gymdeithas uchel-eglwysig Dewi Sant. Cwblhaodd ei hyfforddiant ar gyfer yr offeiriadaeth yng Ngholeg Diwinyddol Ely, cyn cael ei ordeinio yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Roedd ei guradaeth gyntaf ym Mae Colwyn, lle bu'n gwasanaethu dan y Canon Clement Thomson, Eingl-Gatholig cymedrol. Yn 1940 symudodd i Fwcle yn Sir y Fflint, lle bu'n warden cyrch awyr yn ogystal â'i ddyletswyddau bugeiliol. Ei swyddi nesaf oedd fel Is-ganon yn Eglwys Gadeiriol Bangor ac yna'n gurad yng nghadarnle Eingl-Gatholig eithafol Glandŵr ger Abertawe. Deuai'n fwyfwy ymwybodol o'r gwrthddywediadau wrth hanfod Pabyddiaeth Anglicanaidd, gan deimlo tynfa gyson tuag at fynachaeth. Treuliodd ychydig fisoedd gyda Chymdeithas St Ffransis yn Cerne Abbas, ac wedyn cymerodd nifer o swyddi dros dro fel caplan lleianod.

Yn 1949 daeth yn Gatholig Rhufeinig; yn Ebrill y flwyddyn honno fe'i derbyniwyd gan offeiriad Jeswitaidd yng nghapel East Hendred House. Yn y cyfnod hwn roedd yn byw gyda'i chwaer weddw Morwenna Schenk (1920-1988) a'i dau blentyn bach. Wedi iddo adael yr offeiriadaeth Anglicanaidd, treuliodd Burton gyfnod fel athro ac yna fel ymgeisydd yn Abaty Douai ger Reading. Ond fe'i câi'n anodd derbyn awdurdodaeth yr Eglwys Gatholig Rufeinig ac ni theimlai'n gyfforddus ynddi. Daeth i sylweddoli, 'from inside, the Roman Church was very different from what it seemed from outside'. Nododd ei fod yn cael ei arwain heb yn wybod iddo tuag at Uniongrededd, a mynychodd wasanaethau Rwsiaidd neu Roegaidd yn achlysurol. Gadawodd yr Eglwys Gatholig, gan ailymuno â'r offeiriadaeth Anglicanaidd yn 1954.

Yn 1956, aeth Burton i Baris, lle cwrddodd â Père Denis, mynach Uniongred a ddilynai'r ddefod orllewinol. Cafodd y cyfeillgarwch ysbrydol rhwng y ddau effaith dyngedfennol ar fywyd Burton. Dan ddylanwead Denis daeth Burton i weld yr Eglwys Uniongred yn barhad o'r Eglwys anwahanedig a sefydlwyd gan Grist. Yn 1960 fe'i derbyniwyd i'r Eglwys Uniongred a chafodd ei ordeinio'n offeiriad ychydig fisoedd yn ddiweddarach, y Cymro cyntaf i fod yn offeiriad Uniongred ers y Sgism Fawr yn 1054. Yr adeg honno y cymerodd yr enw mynachaidd Barnabas a rhoddwyd iddo'r teitl Archimandriad. Treuliodd gyfnod ym Mharis, gan adrodd y gwasanaeth Benedictaidd yn ddyddiol ac ymuno â gwasanaethau'r ddefod Fysantaidd. Yn y pen draw symudodd oddi wrth Uniongrededd y Ddefod Orllewinol i'r Ddefod Fysantaidd.

Dychwelodd i Loegr yn 1964, gan obeithio canfod safle addas ar gyfer mynachlog. Yn 1967, daeth o hyd i ffermdy ac adeiladau lled-adferedig ym mhentref Willand ger Cullompton yn Nyfnaint. Sefydlodd fynachlog y Proffwyd Sanctaidd Elias yno, gyda phedwar aelod yn y gymuned gychwynnol. Nid oedd bywyd yn hawdd, ond roedd y Gwasanaeth Dwyfol yn ganolbwynt i fywyd beunyddiol y fynachlog a deuai ymwelwyr o bell ac agos i ganfod iachâd a heddwch mewn neilltuaeth dawel a threfnus. Yn ei awydd i weld plwyf Uniongred yn datblygu y tu hwnt i'r fynachlog, sefydlodd Archimandriad Barnabas eglwys fechan mewn tŷ yn Combe Martin. Hwn bellach yw Plwyf Uniongred y Proffwyd Sanctaidd Elias, gydag eglwys yng Nghaerwysg yn ogystal ag yn Combe Martin.

Dymuniad oes Archimandriad Barnabas oedd sefydlu traddodiad mynachaeth Uniongred ym Mhrydain. Symudodd yn ôl i Gymru yn 1973, gan ymsefydlu y flwyddyn ganlynol yn y Felin Newydd, rhwng y Drenewydd a Llanfair Caereinion. Sefydlodd fynachlog, Mynachdy Sant Elias, mewn hen ffermdy yno. Yn y 1980au, symudodd i Aberfan, lle daeth yn ffigwr cyfarwydd yn cerdded y strydoedd yn ei wisg ddu laes. Galwyd ef i wasanaethu yng Nghaerdydd wedyn, ac yno y bu farw ar 14 Mawrth 1996.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-08-15

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.