BURTON, URIAH, 'Big Just' (c.1926 - 1986), ymladdwr dyrnau noeth ac actifydd

Enw: Uriah, 'big Just' Burton
Dyddiad geni: c.1926
Dyddiad marw: 1986
Priod: Hester Burton (née Smith)
Rhiant: Emily Dora Burton (née Buckland)
Rhiant: Ernest Burton
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ymladdwr dyrnau noeth ac actifydd
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden; Ymgyrchu
Awdur: Norman Burton

Ganwyd Uriah Burton tua 1926, ail fab Ernest Burton (c.1892-1960), deliwr ceffylau Romani, a'i wraig Emily Dora (g. Buckland, c.1895-1951). Ei frodyr a chwiorydd oedd: Data Ashella Burton (g. c.1919), Hosea Noah 'Othea' Burton (g. c.1921), Esmeralda Burton (g. c.1925), Frederick Burton (g. c.1929) a William 'Billy' Burton (b. c.1938). Credir bod gan Uriah chwaer o'r enw Dawn hefyd, ond ni chafwyd hyd i gofnodion amdani eto. Gelwid Uriah yn Yui neu Hughy, ac adwaenid ef hefyd wrth y llysenw 'Big Just'.

Lluniodd Uriah bamffled hunangofiannol a'i gyhoeddi ei hunan tua 1979 - Uriah Burton Big Just - His Life, His Aims, His Ideals. Yn hwn dywed iddo gael ei eni yn Lerpwl yn 1916. Ni chafwyd hyd i dystysgrif geni na chofnod bedydd iddo, ond fe ymddengys yn weddol sicr iddo gael ei eni dipyn yn ddiweddarach na 1916. Mae'r oedran a nodir ar ei dystysgrifau priodas a marwolaeth, ar ei gofnod amlosgi ac mewn adroddiadau papurau newydd i gyd yn cefnogi 1926 fel blwyddyn ei eni. Nid annichon mai gwall argraffu oedd y dyddiad 1916 yn ei bamffled.

Roedd y Burtons yn deulu Romani y gellir ei olrhain i Loegr mor bell yn ôl â'r ail ganrif ar bymtheg. Serch hynny, roedd gan gangen Uriah o'r teulu gysylltiadau cryf â Chymru ac ardaloedd y Gororau. Fel y rhan fwyaf o'r Burtons Romani yng Nghymru, roedd Uriah yn un o ddisgynyddion Jeremiah 'Jerry' Burton (a fedyddiwyd yng Ngwlad yr Haf yn 1813) a'i wraig Harriet (g. Lovell), ei orhendaid a nain. Ganwyd mab hynaf Jeremiah a Harriet, Noah, yn Sir Amwythig tua 1833, ond yn nes ymlaen ffafriodd yr ardal o gwmpas Llansantffraid-ym-Mechain yn Sir Drefaldwyn, lle mae ef a llawer o'i deulu wedi eu claddu. Gwraig Noah oedd Minderena Lee o gangen o deulu Romani a oedd hefyd wedi ymgartrefu yng Nghymru. Bedyddiwyd eu mab Noah ('Othea') yn Pontesbury, Sir Amwythig yn 1865, a phriododd Ashella ('Data'), merch Caradoc Price ac Emily g. Slender, teulu Romani adnabyddus arall yng Nghymru. Teithiai Noah ac Ashella dan yr enw Lee hefyd, sef cyfenw mam Noah, arfer weddol gyffredin yn y gymuned Romani. Noah ac Ashella oedd nain a thaid Uriah Burton. Cafodd tad Uriah, Ernest, ei fedyddio yn Rhymni, Sir Fynwy, ar 6 Ionawr 1893. Priododd Emily Dora, merch i Emmanuel Buckland ac Anselina g. James. Teuluoedd Romani oedd Buckland a James, ac fel y Burtons, gellir eu holrhain i Loegr mor bell yn ôl â'r ddeunawfed ganrif.

Ychydig sy'n hysbys am fywyd cynnar Uriah, ond gwyddys i'r teulu deithio'n eang ym Mhrydain ac Iwerddon. Dywed Uriah yn ei bamffled iddo dreulio rhan fawr o'i blentyndod yn ardal Corc yn Iwerddon. Yn 1951 yn Barrow-in-Furness, Cumbria, priododd Hester Smith, merch Wisdom Smith a'i wraig Sarah (g. Carter). Yn ôl eu tystysgrif briodas, roedd Hester flwyddyn yn iau na Uriah. Ganwyd iddynt un mab a thair merch.

Mae'n debyg bod Uriah yn fwyaf adnabyddus ymhlith Teithwyr fel ymladdwr dyrnau noeth. Serch hynny, roedd hefyd yn flaenllaw fel actifydd a ymgyrchodd nid yn unig dros hawliau Sipsiwn Romani a Theithwyr ond hefyd dros gyfraith a threfn a thros heddwch yn Iwerddon.

Yn ei bamffled, honnodd Uriah iddo fod yn 'knuckle-fighter' ar hyd ei fywyd, heb ei drechu erioed, hyd ei ben-blwydd yn 62, ac na fu iddo daflu'r ergyd gyntaf erioed. Gall fod peth gor-ddweud yma gan i'r holl gofnodion ddangos fod Uriah yn drigain oed adeg ei farwolaeth yn 1986. Nid yw'n glir pa bryd yn union y dechreuodd ac y gorffennodd 'gyrfa' Uriah fel ymladdwr dyrnau noeth, ond roedd yn bendant yn adnabyddus iawn fel ymladdwr erbyn y 1950au hwyr ac ymlaen i'r 1970au.

Mae llawer o straeon am ddyddiau ymladd Uriah ac adroddir nifer yn ei bamffled. Ceir sawl stori hefyd yn King of the Gypsies, atgofion ymladdwr dyrnau noeth enwog arall, Bartley Gorman. Dywed Gorman ei fod, pan yn un ar bymtheg oed, yn edmygu dau ymladdwr yn unig, Rocky Marciano a Uriah Burton. Neilltuodd Gorman bennod gyfan o'i lyfr i Uriah, a llawer o'r cynnwys yn ôl pob golwg wedi ei gymryd o bamffled Uriah.

Manteisiodd Uriah ar ei grefft a'i enwogrwydd fel ymladdwr i hyrwyddo ei ymgyrchoedd actifyddol. Yn 1978, cerddodd o Ddulyn i Felffast i greu cyhoeddusrwydd i'w ymgyrch dros heddwch yn Iwerddon. Ar 24 Chwefror 1979, wrth i Uriah baratoi i wneud taith gerdded arall, cyhoeddodd y Belfast Telegraph adroddiad yn dweud ei fod yn cynnig camu i'r cylch paffio ac wynebu unrhyw un a wrthwynebai ei theorïau heddwch. Mae'n debyg i Uriah ychwanegu na fyddai'n ymosod, dim ond ei amddiffyn ei hun.

Ddwy flynedd wedyn, ar 25 Medi 1981, adroddodd y Manchester Evening News fod Uriah yn cyhoeddi sialens agored i bawb i ornest baffio yn enw cyfraith a threfn gyda gwobr o £1,000 i unrhyw un a allai ei lorio yn y rownd gyntaf. Y syniad oedd y byddai rhaid i unrhyw sialenswyr a gollai ymrwymo i ymgyrchu gyda Uriah dros gyfraith a threfn.

Ychydig flynyddoedd wedi marwolaeth ei dad yn 1960, cododd Uriah a'i frawd Hosea gofeb wenithfaen i'w goffáu ar Foel y Golfa, yr uchaf o bum copa Bryniau Breidden ger y Trallwng. Yn ei bamffled, adrodda Uriah hanes adeiladu'r gofeb 12-troedfedd ryw fil o droedfeddi i fyny'r bryn. Wedi cael caniatâd arbennig gan Iarll Powis i gychwyn, chwiliodd am gontractwr i wneud y gwaith, ond dywedwyd wrtho fod y dasg yn amhosibl. Nid oedd Uriah yn un i roi'r gorau'n hawdd, a llwyddodd i berswadio nifer o deulu, cyfeillion ac eraill i'w gynorthwyo i adeiladu'r gofeb. Ond pan ddaeth yr amser, nid oedd sôn am lawer o'r dynion hyn. Credai Uriah fod rhaid cadw addewid ac aeth ati i 'herwgipio' y dynion a'u cludo i'r safle mewn bws. Yn y pen draw, bu rhyw 75 o ddynion wrthi'n llusgo talpiau enfawr o wenithfaen, yn pwyso tua 25 tunnell, i ben Moel y Golfa gan ddefnyddio dau darw dur pwerus a lori, yn ogystal â dau ferlyn i gludo'r siment. Er gwaetha'r nifer fawr o ddynion a chymorth y peiriannau, roedd y dasg yn anodd iawn ac yn beryglus ar brydiau. Daliodd y stori ddychymyg y wasg, gydag adroddiadau am gamp Uriah a'i ddull anghonfensiynol mewn papurau lleol, ac un mewn papur cenedlaethol hefyd, The People, ar 10 Tachwedd 1963. Ar ôl i Uriah farw ychwanegwyd plac i'r gofeb er cof amdano.

Yn rhan olaf ei fywyd treuliodd Uriah lawer o amser yn ardal Manceinion gan sefydlu a rheoli safle teithwyr mawr yn Partington.

Bu Uriah Burton farw yn Ysbyty Park, Davyhulme ar 5 Tachwedd 1986, a chynhaliwyd ei angladd yn Amlosgfa Altringham ar 10 Tachwedd.

Dau o wyrion Hosea Burton, brawd Uriah, yw'r paffwyr Hosea Noah Burton (g. 1988), cyn-bencampwr pwysau godrwm Prydain, a Tyson Fury (g. 1988), cyn-bencampwr pwysau trwm y Byd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-09-06

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.