DE FREITAS BRAZAO, IRIS (1896 - 1989), cyfreithiwr

Enw: Iris de Freitas Brazao
Dyddiad geni: 1896
Dyddiad marw: 1989
Priod: Alfred Casimiro Brazao
Rhiant: Amanda Braithwaite
Rhiant: Manuel de Freitas
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: cyfreithiwr
Maes gweithgaredd: Cyfraith
Awdur: Fiona Davies

Ganwyd Iris de Freitas ar 29 Hydref 1896 yn Bay Street, Kingston, Bridgetown, Barbados, yn ferch i Manuel de Freitas, dyn busnes, ac Amanda Braithwaite (1875-1978), menyw dras-gymysg o Farbados. Nid oedd ei rhieni'n briod, ond gwnaeth ei thad ei chydnabod a'i chynnal er bod ganddo ddau blentyn cyfreithlon gyda'i wraig Antona. Rywbryd rhwng 1897 a 1910 symudodd Iris a'i mam i 1 Lombard St, Georgetown, Guiana Brydeinig (Guyana bellach).

Mynychodd Iris ysgol Gatholig St Ursula yn Georgetown o 1910 i 1916. Oherwydd cyfyngiadau teithio yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf nid aeth ymlaen i'r brifysgol yn syth, a dychwelodd i Farbados i astudio yn Queen's College am ddwy flynedd. Wedi cyfnod byr yn astudio yn Toronto, yn 1918 aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle bu'n astudio'r gyfraith, cyfreitheg, botaneg, ieithoedd modern a Lladin, gan ennill gradd BA yn 1922. Yn 1923 aeth ymlaen i Goleg St Anne's, Rhydychen, a chan mai ail radd oedd hon gallai gwblhau ei BA mewn cyfreitheg mewn dwy flynedd. Yn Rhydychen astudiodd gyda Dr Ivy Williams (1877-1966), y fenyw gyntaf i gael ei galw i'r bar yn Lloegr. Wedi cwblhau ei gradd Baglor mewn Cyfraith Sifil (cymhwyster cyfreithiol ôl-raddedig) a'i holl arholiadau bar, gorffennodd ei hastudiaethau LLB yn Aberystwyth yn 1927.

Ymgofrestrodd gyda Theml Fewnol Ysbytai'r Frawdlys yn 1922 ac fe'i galwyd i'r bar yn 1929. Hi oedd y fargyfreithwraig gyntaf yn Ynysoedd Caribî y Gymanwlad.

Ymsefydlodd yn fuan ac fe'i croesawyd ar ei hymddangosiad cyntaf yn y Goruchaf Lys. Bu iddi amddiffyn yn llwyddiannus mewn achos o lofruddiaeth yn 1932, gan ennill clod gan y barnwr am ei hadfocatiaeth. Ymunodd â'r gwasanaeth sifil fel Cynorthwy-ydd Cyfreithiol Dros Dro yn Siambr yr Atwrnai Gwladol ac yn Ebrill 1934 hi oedd y fenyw gyntaf i'w phenodi'n erlynydd y goron yn Guiana Brydeinig. Yn ystod ei gyrfa bu'n gweithio hefyd dros y Comisiwn Rhyddfraint, y Comisiwn Gwasanaeth Cyhoeddus ac fel Ymgynghorydd Cyfreithiol i Lywodraethwr Guiana Brydeinig.

Yn 1937 priododd Alfred Casimiro Brazao, ynad a ddaeth wedyn yn Gyfreithiwr Cyffredinol. Ymgartrefodd y ddau yn Guiana Brydeinig lle parhaodd hi i weithio fel bargyfreithwraig, gan weithredu dan ei henw morwynol. Bu Alfred farw yn 1953. Bu Iris de Freitas farw ar 21 Mai 1989 yn Georgetown, Guyana.

Yn 2016, wedi i staff ym Mhrifysgol Aberystwyth ddarganfod cerdyn post a ddanfonwyd gan Iris yn 1922/23 gyda llun ohoni yn ei gwisg academaidd, enwyd ystafell yn Llyfrgell Hugh Owen y brifysgol er anrhydedd iddi. Yn 2018 yn rhan o ddathliadau Mis Hanes Du yn y Deyrnas Unedig, cynhwyswyd Iris de Freitas mewn rhestr o 100 'Eicon Cymru Ddu'. Yn 2021 fe'i hanrhydeddwyd gan Lys Cyfiawnder y Caribî fel un o gyfreithwragedd arloesol y Caribî.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-09-03

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.