Ganwyd Jessie Donaldson ar 18 Chwefror 1799 yn 18 February 1799 in Ware, Swydd Hertford, yn ferch i Samuel Heineken (1768-1856), cyfreithiwr yn Llundain, a'i wraig Jannet. Fe'i bedyddiwyd ar 11 Ebrill yn yr Old Presbyterian Meeting House yn Swan Yard, Ware. Yn nes ymlaen symudodd y teulu i Fryste yn gyntaf, ac wedyn i Abertawe, gan ymgartrefu yn Dynevor Place. O 1829 bu Jessie a'i chwaer, Mary Ann, yn cadw ysgol i ferched a bechgyn yn 32 Wind Street, Abertawe.
Roedd y Gymdeithas Wrth-gaethwasiaeth yn weithgar iawn yn Abertawe, a daeth teulu Jessie yn ddiddymwyr selog. Ymfudodd ei modryb, Anna Margaretta, gyda'i gwr, Francis Donaldson yr hynaf, i Cincinnati yn 1822 ac ymgartrefu ger afon Ohio, mewn ty o'r enw Frandon (talfyriad o Francis Donaldson). Roedd caethwasiaeth yn bodoli o hyd yr adeg honno yn nhalaith Kentucky, ochr draw'r afon, a byddai ffoaduriaid yn croesi'r afon i dai diogel cyn symud ymlaen, trwy rwydwaith dirgel a elwid yn 'Underground Railroad' a gynorthwyai ddihangwyr i gael eu rhyddid yn y gogledd. Daeth cartref Anna Margaretta a Francis Donaldson yn dy diogel.
Yn 1840, priododd Jessie ei chefnder Francis Donaldson yr ieuaf, mab hynaf ei modryb Anna Margaretta, yn eglwys Betws ger Rhydaman yn Sir Gaerfyrddin. Ymwelydd â'r ardal oedd Francis gan fod ei gartref parhaol wedi ei nodi fel 'of Frandon, Ohio.' Ymgartrefodd y ddau yn 9 Grove Place, Abertawe tan 1854, pan symudasant i America, gan brynu 251 erw o dir yn Clermont County, Cincinnati, yn agos at Anna Margaretta. Gwnaethant hwythau hefyd eu cartref yn y diogel o'r enw Clermont, a hynny dan berygl cosb trwy ddirwy neu garchar.
Trwy ei gwaith dros ddiddymu caethwasiaeth, daeth Donaldson i adnabod rhai o hoelion wyth y mudiad, fel y cyn-gaethiwedigion Frederick Douglass ac Ellen a William Craft, yr ymgyrchydd William Lloyd Garrison, a Harriet Beecher Stowe, awdur Uncle Tom's Cabin (1852). Yn nes ymlaen daeth Douglass a'r Crafts i Abertawe i draddodi darlithoedd ac fe ddichon fod Donaldson wedi rhoi llythyrau i'w cyflwyno.
Mae peth ansicrwydd pa bryd yn union y dychwelodd i Abertawe. Fe'i nodir yno yng Nghyfrifiad 1861 ynghyd â'i gwr, a ddisgrifir fel 'American Landed Proprietor'. Diddymwyd caethwasiaeth yn yr Unol Daleithiau yn 1865 ac fe ddichon na fu iddynt ymadael yn derfynol tan wedi hynny. Ar ôl dychwelyd i Abertawe buont yn byw am gyfnod byr yn 2 Phillips Parade cyn ymgartrefu yn Ael y Bryn yn Sgeti. Addolaiai Jessie mewn capel Undodaidd yn Abertawe.
Bu Francis Donaldson farw ym Mawrth 1873, yn 78 oed, a bu Jessie Donaldson farw yn ei chartref yn Sgeti ym Medi 1889 yn 91.
Yn 2021 gosodwyd plac glas ar Adeilad Dinefwr, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, ger cartref cyntaf Jessie Donaldson yn Abertawe.
Dyddiad cyhoeddi: 2024-05-31
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.