FLYNN, PATRICIA MAUD (Patti) (1937 - 2020), cerddor, awdur, ymgyrchydd

Enw: Patricia Maud (Patti) Flynn
Dyddiad geni: 1937
Dyddiad marw: 2020
Priod: Michael E. Flynn
Priod: Max G. Hallgren
Plentyn: Paula Flynn
Plentyn: Michael Flynn
Plentyn: Sean Flynn
Rhiant: Beatrice Maud Young (née Silver)
Rhiant: Wilmuth George Young
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: cerddor, awdur, ymgyrchydd
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Hanes a Diwylliant
Awdur: Bet Davies

Ganwyd Patti Flynn yn Ebrill 1937 yn Nhre-biwt, a alwyd yn Tiger Bay bryd hynny, yn ardal dociau Caerdydd, i deulu o dras gymysg. Roedd ei thad, Wilmuth ('Wilmot') George Young (1897 neu 1901-1942) yn enedigol o blwyf Sant Maria, ar arfordir gogleddol Jamaica, a daeth i Gaerdydd ar ddiwedd y Rhyfel Mawr i chwilio am waith yn y dociau. Wrth gofrestru gyda'r Llynges Fasnachol Brydeinig yn 1918 y dyddiad geni a roes oedd 1901, er bod cofnodion Jamaica yn dangos blwyddyn ei eni fel 1897. Priododd â Beatrice Maud Silver (1904-1987), o ardal Treganna yn y ddinas, yn 1921, gan ymgartrefu'n gyntaf yn Stryd Soffia ac wedyn 40 Stryd Pomeroy yng nghanol Tiger Bay. Yr ieuengaf o chwech o blant, roedd gan Patti dri brawd a dwy chwaer. Y cyntaf anedig oedd Jocelyn James Young (1922-1941), a ddilynwyd gan Arthur Wilmuth Young (1923-1944). Ei dwy chwaer oedd Amanda (1925-1953) ac Isilda Young (g. 1926). Y trydydd brawd oedd Wilmuth Young (1932-2007).

Dwyflwydd oed oedd Patti pan gychwynnodd yr Ail Ryfel Byd, a rhwng 1941 a 1944 collodd ei thad a dau o'i brodyr tra'n gwasanaethu dros eu gwlad. Ymunodd Jocelyn, ei brawd hynaf, â'r Llynges Fasnachol a bu'n gweithio ar long yn masnachu rhwng Caerdydd a'r Dwyrain Pell pan gyhoeddodd Japan ryfel yn erbyn y Cynghreiriaid yn 1941. Cyhoeddwyd iddo fod ar goll ar y mor, ac ni chafwyd dim gwybodaeth amgenach. Fel morwr profiadol yn y Llynges Fasnachol bu tad Patti yntau yn chwarae ei ran yn y rhyfel. Ar Fedi 13,1942, trawyd ei long, yr Ocean Vanguard a gofrestrwyd yng Nghaerdydd, gan dorpido o long danfor Almaenig 45 milltir o Galera Point, Trinidad. Collwyd 11 o'r criw o 51, gan gynnwys Wilmuth George Young (AB). Lladdwyd Arthur, un arall o frodyr Patti, rhingyll yn yr Awyrlu Brenhinol, ynghyd â chwech o'i griw ar 30 Gorffennaf 1944 pan fu eu hawyren Lancaster mewn gwrthdrawiad ger Salford.

Roedd y digwyddiadau trasig hyn i gael effaith ddofn iawn ar Patti Flynn, yn enwedig fel oedolyn, pryd aeth ati i ymgyrchu'n daer am 26 mlynedd i sicrhau cydnabyddiaeth gyfiawn a theg i'r aberth a roddwyd gan holl filwyr du ac o leiafrifoedd ethnig, fel ei thad a'i brodyr, a wasanaethodd dros eu gwlad yn ystod y ddau Ryfel Byd. Ar 2 Tachwedd 2019, cydnabuwyd ei hymdrechion pan ddadorchuddiwyd cofeb ger Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru, yng Ngerddi Alexander, Parc Cathays, Caerdydd.

Pan yn blentyn amgylchynwyd Patti Flynn gan gerddoriaeth a datblygodd ei chariad at jazz a pherfformio trwy wrando ar seiniau poblogaidd y dydd, fel Duke Ellington, Ella Fitzgerald, Sarah Vaughan a chlasuron o'r Great American Songbook. Yn ffodus cafodd hefyd y fraint o wrando ar ei brawd Arthur, trympedwr hynod ddawnus, yn ogystal â gwylio ei mentor a'i heulun, y gitarydd jazz o fri Victor Parker (1910-1978) o Tiger Bay. Anogodd Victor i Patti, tra'n ifanc, ddilyn gyrfa gerddorol yn canu, a bu'n cyfeilio iddi ar ei gitar yn ei gig proffesiynol cyntaf oll yn ddeunaw oed, yn nhafarn y Glamorgan yn Tiger Bay.

Yn 1957 priododd Patti â Michael E. Flynn yng Nghaerdydd. Cawsant dri o blant, Paula (g. 1957), Michael (g. 1964) a Sean (1967-1996) a fu farw mewn damwain erchyll yn naw ar hugain oed. Daeth y briodas i ben trwy ysgariad, ac yn 1986 priododd Patti â Max G. Hallgren.

Yn ystod y chwedegau a'r saithdegau teithiodd Patti Flynn yn helaeth o gwmpas clybiau, dawnsfeydd a theatrau y DU a daeth yn artist cabaret rhyngwladol. Yn 1977 ymddangosodd am y tro cyntaf yn y West End fel dirprwy i'r gantores Elaine Delmar yn ei rôl blaenllaw yn chwarae rhan Irene yn y sioe gerdd hynod lwyddiannus o Broadway Bubbling Brown Sugar, a gyflwynwyd yn theatr y Royalty yn Llundain. Rhyddhaodd ei halbwm gyntaf, With Love to You, trwy'r label annibynnol SRT Productions yn 1979. Yn dilyn hyn rhyddhaodd ddwy record sengl yn 1982: Christmas Every Day (Prairie Records) a Soul Stuntman (ar Movie Music Label).

Ynghanol y 1980au symudodd Patti i Sbaen, lle lledaenodd ei phrofiad yn y byd cerddorol, fel cynhyrchydd ac fel cyflwynydd radio hynod boblogaidd, yn darlledu yn Saesneg, gyda'i rhaglenni cerdd, Just for You a Costa Nights. Symudodd yn ôl i Gaerdydd ymhen amser i berfformio ei repertoire jazz, ac yn aml yn cyd-berfformio gyda cherddorion amlwg yn y ddinas, megis y pianydd jazz rhyngwladol Geoff Eales a'r trympedwr Chris Hodgkins. Yn y cyfnod yma bu'n creu, cynhyrchu a chyflwyno ei sioeau poblogaidd ei hun, Jazz Ladies of the Twentieth Century ac A Trip Down Memory Lane, yn cynnwys cerddoriaeth cyfansoddwyr y Great American Songbook. Yn 2006 canodd hi gyda Dame Cleo Laine a Syr John Dankworth mewn gŵyl yn dathlu treftadaeth jazz Cymru - Jazz Heritage Wales.

Ymunodd â'i ffrindiau cerddorol, y chwiorydd Humie a Jackie Webbe, i greu y triawd The Bay Divas. O'r cychwyn cyntaf y nod oedd dathlu diwylliant jazz Tiger Bay, o'r 20au a'r 30s trwyddo i 50au'r ganrif ddiwethaf. Buont yn perfformio yn Neuadd Dewi Sant ac yn Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, yn ogystal â lleoliadau eraill yn Ne Cymru. Roedd Patti a'i chyd-gerddorion jazz hefyd eisiau ail-gynnau y diddordeb mewn jazz yn Nhre-biwt, i gadw'r traddodiad yn fyw ar gyfer cenedlaethau i ddod. Gyda'r dyhead hwn mewn golwg yn 2009 fe gyd-sefydlodd hi Gŵyl Jazz Tre-biwt gyda Humie Webbe, a Chanolfan Mileniwm Cymru yn gartref blynyddol iddo bob Calan Mai. Yn rhaglen yr ŵyl roedd gweithdai jazz i bobl ifainc a pherfformiadau i roi llwyfan i dalent ifanc o'r gymuned leol, yn ogystal â dathliad o dreftadaeth gerddorol Tiger Bay trwy lwyddiannau ei berfformwyr jazz.

Roedd Patti Flynn yn hyrwyddwr ac yn ymgyrchydd cryf dros Hanes Pobl Ddu. Fel yr oedd tirwedd yr hen Tiger Bay yn trawsnewid, gyda rhaglen adfer enfawr yr ardal a ddaeth i'w adnabod fel Bae Caerdydd, yn 1988, gyda chymorth Corfforaeth Ddatblygu Bae Caerdydd, crëwyd Canolfan Hanes a Diwylliant Tre-biwt. Ei bwrpas oedd i gasglu a dathlu treftadaeth gyfoethog yr ardal a gwnaeth Patti gyfraniad sylweddol i'w waith addysgiadol, yn benodol yn defnyddio cerddoriaeth, ysgrifennu a storïau.

Yn ogystal â pherfformio, roedd Patti wrth ei bodd yn ysgrifennu ac roedd yn angerddol am ymchwilio i Hanes Pobl Ddu a'u diwylliant. Yn 2003 cydweithiodd gyda'r ffotograffydd Mathew Manning i gynhyrchu'r gyfrol Fractured Horizon: A Landscape of Memory a gyhoeddwyd gan Ganolfan Hanes a Diwylliant Tre-biwt. Gyda'i gilydd, trwy gyfrwng lluniau a geiriau, maent yn wynebu gorffennol a dyfodol ardal dociau Caerdydd. Golygwyd y llyfr gan yr academydd Glenn Jordan ac fe'i cyfieithwyd i'r Gymraeg gan y Prifardd T. James Jones.

Yn 2006, o ganlyniad i Raglen Ransackers y Cyngor Dysgu a Sgiliau, yn 73 oed cafodd Patti gyfle i astudio yng Ngholeg Ruskin yn Rhydychen. Yn ystod ei hamser yno cyflawnodd ddau brosiect ymchwil ac ysgrifennu creadigol, sef From a Seaside Town to a Capital City, yn olrhain hanes dinas ei mebyd, a Colouring History, a roes wragedd o liw yn ôl yn eu priod le mewn hanes. Pan fu farw, roedd hi eisoes wedi cychwyn ar ysgrifennu ei hunangofiant, Born Down My Tiger Bay, yn olrhain hanes ardal dociau Caerdydd o'i safbwynt personol hi, tra'n adlewyrchu hefyd ar fywydau, aberth a dyfalbarhad cymuned amrywiol yr ardal.

Yn 2017 cafodd ei hanrhydeddu fel un o sylfaenwyr y mudiad Hanes Pobl Ddu yng Nghymru ac yn 2019 derbyniodd Wobr Llwyddiant Oes Merched Cymru o Leiafrifoedd Ethnig. Ym mis Mawrth 2023 dadorchuddiwyd Plac Porffor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru i gydnabod ei bywyd a'i gwaith.

Bu farw Patti Flynn o gancr yn ei chartref yng Nghaerdydd ar 10 Medi 2020.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-09-20

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.