Ganwyd Isabelle ('Issi') Foulkes ar 12 Gorffennaf 1970 yn Ysbyty Ronkswood, Caerwrangon, yr ail o ddwy ferch Richard Anthony Craven (1939 - 2019), athro ysgol, a'i wraig Barbara Kathryn Craven, yn ddiweddarach Sorrell (g. Tully, 1941 - 2017), ffisiotherapydd. Hanai tad Issi o Sblot, Caerdydd, a'i mam o'r Mwmbwls, Abertawe. Aeth ei chwaer Katheryn ymlaen i astudio ffisiotherapi hefyd. Yn ystod plentyndod y merched cadwai'r teulu gyswllt â Chymru trwy ymweld yn gyson â theulu yng Nghaerdydd a threulio gwyliau ar Benrhyn Gwyr ac wrth Lyn Tegid, y Bala.
Ganwyd Issi â ffibrosis systig, cyflwr genetaidd angheuol sy'n effeithio ar yr ysgyfaint ac organau eraill. Aeth yn hollol fyddar o ganlyniad i feddyginiaeth a roddwyd iddi yn erbyn haint ar y frest pan oedd yn dair oed. Gan ei bod yn gwbl fyddar roedd ei gallu i ddefnyddio cyfarpar cymorth clyw yn gyfyngedig iawn, ac yn ei phlentyndod dibynnai bron yn llwyr ar ddarllen gwefusau a dulliau eraill o gyfathrebu. Yn nes ymlaen dechreuodd wneud ffrindiau yng Nghlwb Byddar Caerwrangon a dysgodd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Cafodd ei haddysg mewn ysgolion prif ffrwd yng Nghaerwrangon: yn gyntaf yn Ysgol Gynradd Gatholig St. George's ac wedyn yn Ysgol Ramadeg y Merched Caerwrangon, ysgol ddethol a ddaeth yn Goleg Chweched Dosbarth Caerwrangon. Cyrhaeddodd safon uchel iawn yn ei lefel 'O' ac 'A', gan gynnwys lefel 'O' Ffrangeg. Fe'i disgrifiwyd gan ei hathrawes plant byddar peripatetig, Roma Broadbent, fel 'determined, single-minded and having a quiet voice that was understandable to most people.'
Cwblhaodd Issi ei haddysg lawn-amser yng Ngholeg Celf Bretton Hall, coleg cyswllt â Phrifysgol Leeds, ac ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion, gan ennill gradd BA (Anrh.) mewn Celf a Dylunio yn y naill a gradd Feistr (MA) mewn Tecstiliau yn y llall. Tra'n byw ym Manceinion a thrwy fynychu'r Clwb Byddar lleol y bu iddi gwrdd â'i darpar wr Gareth Foulkes a oedd hefyd yn fyddar ac yn athro-fyfyriwr ar y pryd.
Wedi cwblhau ei MA yn 1992, dechreuodd Issi ei busnes ei hun fel dylunydd patrymau arwyneb llawrydd gyda chefnogaeth gychwynnol gan Ymddiriedolaeth Fusnes Pobl Ifainc y Tywysog. Arbenigodd i ddechrau ar ddylunio tecstiliau argraffedig ar gyfer casgliadau cydlynus plant i'r ystafell wely neu'r feithrinfa. Tarddai ei dyluniadau o'i hoffter o'r nodweddion addurn naïf a geir mewn celf safle ffair, teganau hen a modern, celf werinol a brodwaith o amryw wledydd. Ar ôl gadael Manceinion symudodd i Acton Bridge, Swydd Gaer am gyfnod byr, gan rentu bwthyn oddi wrth ei modryb a'i hewythr. Wedi iddynt briodi yn 1996 cymerodd ei gwr Gareth swydd gyda Chymdeithas y Byddar Gogledd Cymru a symudasant i Rowen, Conwy cyn ymgartrefu ym Mae Colwyn, Conwy.
O'i stiwdio yn 'Hafan' ym Mae Colwyn, aeth Issi ati i archwilio ac arbrofi gyda chelfyddyd ar thema byddardod a chreodd ddyluniadau bywiog ar gyfer Cymdeithas Byddariaid Prydain, y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol i Bobl Fyddar, Cwn Clyw i Bobl Fyddar, cwmnïau'n gwerthu cymorth clyw a chymdeithasau byddariaid eraill. Dyluniodd Issi gardiau cyfarch, posteri, darluniau ar gyfer cyhoeddiadau, logos, crochenwaith a dillad a gyfrannai at godi ymwybyddiaeth o ddiwylliant a threftadaeth pobl fyddar. Dangosodd ei gwaith mewn arddangosfeydd o gelfyddyd fyddar yng Nghaerdydd, Lerpwl, Manceinion, a Llundain.
Disgrifiwyd un o'i lluniau, 'Multi-coloured hearing aids', gan yr artist byddar John Wilson, mewn erthygl gylchgrawn yn 1997 fel: 'a clever pastiche that makes use of the bold styles of the 1960's Pop Art movement to transform the humble and unfashionable hearing aid into a glamorous fashion object. The painting cheerfully mocks the misguided and out-dated prejudice that deafness is a cause for shame that should be hidden away.'
Aeth Issi i ddosbarth nos yng Nghyffordd Llandudno i ddysgu Cymraeg llafar sylfaenol gyda chymorth gan arbenigwr cymorth cyfathrebu Cymraeg. Tua'r adeg honno, cynorthwyodd i ddyfeisio ffurf ar yr wyddor Gymraeg ar gyfer sillafu â bysedd a dyluniodd boster lliwgar a gyhoeddwyd maes o law a'i ddosbarthu i holl ysgolion chwe sir gogledd Cymru.
Roedd Issi'n aelod gwerthfawr o'r gymuned fyddar leol a gwirfoddolodd dros Gymdeithas Fyddar Conwy lle bu'n ysgrifennydd y pwyllgor. Gan ddefnyddio ei gallu artistig a'i gwybodaeth am decstiliau, creodd faner frodiog i'r Gymdeithas a'i chludo ar orymdeithiau protest yn Llundain yn rhan o ymgyrch a arweiniwyd gan y Ffederasiwn Pobl Fyddar gyda'r nod o gael cydnabod Iaith Arwyddion Prydain yn iaith swyddogol gan Lywodraeth y DU. Ar y gorymdeithiau hyn byddai'n cydgerdded â'i chi clyw i bobl fyddar o'r enw 'Hiro' ac enillodd gyhoeddusrwydd i'r ymgyrch yn y cyfryngau lleol ac yn genedlaethol.
Yn Awst 1999 cafodd Issi drawsblaniad ysgyfaint dwbl yn Ysbyty Wythenshawe ger Manceinion. Wedi iddi wella ar ôl y llawdriniaeth fawr hon, cymerodd swydd ran-amser gyda'r elusen 'Hearing Dogs for Deaf People' yn eu tîm codi arian. Daliodd i ymhel â'r celfyddydau ac ym Medi 2000 ymddangosodd ar y llwyfan yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter Caerdydd mewn perfformiad gan y gymuned fyddar o ddrama Roald Dahl, 'The Witches', lle arddangoswyd ei pheintiadau a'i darluniau yn ogystal.
Y flwyddyn ganlynol dechreuodd iechyd Issi ddirywio, a bu farw ar 31 Hydref 2001 yn Hafan, Bae Colwyn. Amlosgwyd ei chorff yn Amlosgfa Bangor ar ôl seremoni ddyneiddiol fer a fynychwyd gan gannoedd o bobl, yn fyddariaid ac eraill. Gwasgarwyd ei llwch ar y Gogarth ger Llandudno ac ymhen ychydig flynyddoedd gwasgarwyd yn yr un lle lwch y ci clyw a fu'n gymaint o ysbrydoliaeth artistig iddi yn ystod ei hoes.
Mae gwaith celf Isabelle Foulkes yn etifeddiaeth bwysig i bobl fyddar Cymru a'r gymuned fyddar ehangach. Defnyddir ei gwyddor sillafu bysedd Gymraeg gan blant byddar o gartrefi Cymraeg ac mewn addysg yng Nghymru i bontio rhwng yr iaith Gymraeg a'r Iaith Arwyddion, ac mae'n cyfrannu at eu hunaniaeth weledol a'u balchder.
Dyddiad cyhoeddi: 2024-07-03
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.