Roedd William Anderson Hall yn llafurwr caethiwedig yn UDA a enillodd ei ryddid yn y pen draw ac ysgrifennu cofnod o'i fywyd a'i ddihangfa a gyhoeddwyd yng Nghaerdydd yn 1862. Y cofnod hwnnw yw ffynhonnell y cwbl sy'n hysbys amdano.
Ganwyd William yn Swydd Bedford, Tennessee, tua 1820, yn fab i fam Affricanaidd gaethiwedig (nas enwir yn y testun) a thad a ddisgrifir fel 'Englishman', rhyw Dr Hall a oedd yn fab i'w feistr. Roedd sawl teulu o'r enw Hall yn Swydd Bedford yr adeg honno, ac roedd Anderson hefyd yn gyfenw cyffredin yn yr ardal. Serch hynny, mae'n bosibl bod William Anderson Hall yn enw a fabwysiadodd ar ôl ennill ei ryddid (arfer gyffredin ymhlith ffoaduriaid), gan gyfeirio efallai at John Anderson, ffoadur adnabyddus arall rhag caethwasiaeth, a William Hall o Nova Scotia, y milwr Du cyntaf i ennill Croes Victoria.
Pan oedd William yn naw oed gwnaeth ei dad ei wahanu oddi wrth ei fam, heb hyd yn oed adael iddo ffarwelio â hi, ac o fewn blwyddyn neu ddwy fe'i gwerthwyd yn gaethwas eiddo a daeth wedyn yn saer coed medrus. Fel llafurwr caethiwedig, roedd William yn ymwybodol iawn o anghyfiawnder ei sefyllfa a daeth yn fwyfwy herfeiddiol. O ganlyniad, cafodd ei werthu, ei hurio neu ei fenthyg i amryw berchnogion pobl gaethiwedig Affricanaidd. Rhwng 1836 a 1841 bu'n eiddo i ddyn o'r enw B. G. White. Yn ystod y cyfnod hwn priododd William ferch gaethiwedig (hithau hefyd heb ei henwi yn y testun) a chawsant o leiaf ddau o blant. Gwrthodwyd caniatâd iddo ymweld â'i deulu a oedd wedi eu hurio i berchennog gwahanol, ond aeth William atynt beth bynnag, yn benderfynol o ddioddef y canlyniadau.
Yn 1842 daeth William yn Gristion, 'to the great joy and relief of my soul,' meddai'n ddiweddarach. Perswadiwyd ef gan feistr o'r enw Jackson Flemming i ymuno ag enwad y Campbellites. Am gyfnod byr coleddai'r gobaith y byddai crefydd yn fodd i'w waredu oddi wrth gaethwasiaeth. Mewn cyfarfod crefyddol lle anogwyd ef i siarad yn rhydd, gofynnodd William, gan ddyfynnu o'r ysgrythur, oni haeddai'r dyn tlawd ei drin yr un fath â'r cyfoethog. Ni chroesawyd ei gwestiwn gan y dynion gwyn a oedd yn bresennol, ac o ganlyniad cafodd gwraig William ei gwerthu i ffwrdd oddi wrtho gan y perchennog. Arweiniodd hyn yn ei dro at ei ymgais difrifol cyntaf i'w ryddhau ei hun.
Methiant fu'r ymgais, ond ar ôl cael ei ddychwelyd i'w feistr cynigiwyd i William obaith o'i ryddhau yn hytrach na'i gosbi. Serch hynny, o flwyddyn, gwelodd ei blant yn cael eu hurio i ffwrdd. Cryfhau ei benderfyniad i ennill ei ryddid a wnaeth yr anghyfiawnder olaf hwn.
O'r pwynt hwn ymlaen, sonia naratif William am y Rheilffordd Danddaearol - sef y rhwydwaith o ffyrdd a thai diogel a gynorthwyai bobl gaethiwedig i ddianc o'r taleithiau deheuol. Tra'n cuddio am dri mis, derbyniodd William y newyddion am farwolaeth ei ail ferch, Rosetta (yr unig aelod o'r teulu a enwir yn y testun). Yn fuan wedi hynny, cychwynnodd ei daith i ryddid o ddifrif.
Wrth ffoi o gaethiwed, cafodd William gymorth gan 'gyfeillion', gair teg am rwydwaith y Rheilffordd Danddaearol o Americanwyr Affricanaidd rhydd ac eraill a gydymdeimlai â'r rhai a geisiai ddianc rhag caethiwed. Serch hynny, roedd taith William yn bell o fod yn rhwydd. Cafodd ei ddal a'i garcharu o leiaf ddwywaith, gan gael ei guro a'i fradychu, a chafodd fod bywyd yn nhaleithiau rhydd y Gogledd yn gallu bod yr un mor beryglus ag yn y De. Dim ond pan gyrhaeddodd William Ganada y bu iddo gael llonydd rhag yr 'hen arswyd'.
Yng William Nghanada cychwynnodd fusnes yn cludo coed yn ôl i'r Unol Daleithiau, nes i storm chwalu ei gwch ac y cafodd ei dwyllo o'r arian adfer. Heb yr un geiniog, fe'i perswadiwyd i anelu am Loegr. Gweithiodd ei ffordd ar long i Lerpwl, ond ni allai gael gwaith arall felly daliodd i ennill ei fywoliaeth fel morwr. Wedi sawl taith, glaniodd yn Llundain. Methodd â chael gwaith eto, teithiodd i Fryste yn gyntaf ac wedyn i Gaerdydd, ar ddiwedd y 1850au neu ddechrau'r 1860au. Fe'i disgrifiodd ei hun yn 'thankful for a residence in this glorious land of liberty, freedom and religious privilege'.
Cyhoeddwyd Slavery in the United States of America: Personal Narrative of the Sufferings and Escape of William A. Hall fugitive slave, now a resident in the town of Cardiff gan James Wood o Stryd Bute, Caerdydd, yn 1862 gyda chymorth ariannol gan Fethodistiaid Wesleaidd lleol. Fe ymddengys mai'r copi yn Llyfrgell Salisbury Prifysgol Caerdydd yw'r unig un a oroesodd. Cyfrannodd cyfrol Hall at ymgyrch wrth-gaethwasiaeth y Wesleaid ar adeg allweddol yn gynnar yn Rhyfel Cartref America, ac mae hefyd yn arwyddocaol iawn yn hanes Cymru fel yr hunangofiant cyntaf i'w gyhoeddi yng Nghymru gan ddyn Du hunan-ryddfreiniedig.
Nid oes dim yn hysbys am fywyd William Hall ar ôl cyhoeddi ei gyfrol.
Dyddiad cyhoeddi: 2024-10-17
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.