JACOBSEN, THOMAS CHARLES ('Tommy Twinkletoes') (1921 - 1973), cerddor, arlunydd a diddanwr

Enw: Thomas Charles ('tommy Twinkletoes') Jacobsen
Dyddiad geni: 1921
Dyddiad marw: 1973
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor, arlunydd a diddanwr
Maes gweithgaredd: Perfformio
Awdur: Rebecca Eversley-Dawes

Ganwyd Tommy Jacobsen ar 28 Ebrill 1921 yn Stryd y Capel, Pillgwenlli, Casnewydd, Sir Fynwy, yr hynaf o saith o blant Charles Henry Jacobsen (g. 1900), gweithiwr dociau, a'i wraig Nellie (g. Hoskins, 1898). Ganwyd Tommy (fel y gelwid ef gan ei deulu a'i ffrindiau) heb freichiau. Honnai ei fam fod yr anabledd wedi ei achosi pan ddychrynwyd hi gan geffyl yn ystod ei beichiogrwydd (cred gyffredin ar y pryd). Gwelwyd ei allu i ymdopi heb freichiau am y tro cyntaf ac yntau'n faban pan ddefnyddiodd fysedd ei draed i osod dymi yn ei geg.

Dechreuodd ei addysg yn Ysgol Stryd Bolt yng Nghasnewydd, a symudodd wedyn i ysgol ar gyfer plant ag anghenion arbennig ar arfordir de Lloegr (credir mai'r Chailey Heritage Craft School yn Sussex oedd yr ysgol honno). Yn y fan honno y dysgodd Tommy gelfyddyd caligraffeg. Defnyddiodd ei sgiliau caligraffeg i lunio arwyddion ac roedd wrth ei fodd yn arlunio. Byddai ei deulu a'i ffrindiau'n casglu cardbord iddo wneud ei luniau arno a byddai'n gwerthu ei waith.

Cafodd Tommy Jacobsen yrfa hir fel cerddor a diddanwr. Byddai ei deulu'n mwynhau gwrando arno'n chwarae'r piano (a gyflawnodd trwy wasgu'r nodau gyda bysedd ei draed), a byddent yn cydganu'n aml. Roedd yn boblogaidd fel pianydd yn lleol, gan berfformio mewn tafarnau ac yng nghartrefi pobl. Daeth yn boblogaidd yn ddiweddarach yn sioe amrywiaethol deithiol Palladium Llundain ac yn enwog am ei ystod eang o sgilau a'i waith celf.

Gwnaeth ei ddeheurwydd argraff fawr ar bawb oedd yn ei adnabod. Gallai roi edau mewn nodwydd, gwnïo botwm, cynnig sigarét o'i siaced a'i thanio. Wrth iddo ddod yn fwyfwy adnabyddus, cafodd wahoddiadau i weithio i sefydliadau fel y BBC ac ymddangosodd yn gyson ar y teledu, ar gylchoedd y sioeau adloniant a'r tu ôl i'r llenni.

Yn 1955 ymddangosodd yn y Preston Hippodrome yn y sioe 'Miracles of the Music Hall' ac yn 1956 teithiodd yn rhyngwladol gyda Sioe Deithiol Tom Norman, wedi ei hysbysebu fel 'Tommy the armless wonder'. Perfformiodd yn Central Park, Efrog Newydd, gan lwytho gwn a'i danio, eillio dyn a ddewiswyd o'r gynulleidfa, chwarae'r piano ac arddangos ei waith celf.

Priododd Tommy ag Emily Violet Prowse yn 1947 yng Nghasnewydd ac yn 1948 ganwyd eu merch Diane. Wedi iddo ymddeol o'r busnes adloniant symudodd Tommy a'i deulu i Gwm-brân.

Bu Tommy Jacobsen farw ar 3 Hydref 1973 ac fe'i claddwyd ym Mynwent Panteg, Pontypwl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-05-30

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.