JONES, PETER (KAHKEWAQUONABY, DESAGONDENSTA) (1802 - 1856), gweinidog Methodistaidd, arweinydd gwleidyddol ac awdur

Enw: Peter (Kahkewaquonaby, Desagondensta) Jones
Dyddiad geni: 1802
Dyddiad marw: 1856
Priod: Eliza Jones (née Field)
Plentyn: Kahkewaquonaby Peter Edmund Jones
Rhiant: Tuhbenahneequay
Rhiant: Augustus Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Methodistaidd, arweinydd gwleidyddol ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Brian Gettler

Ganwyd Kahkewaquonaby Peter Jones ar 1 Ionawr 1802 yn Burlington Heights (Hamilton), Canada Uchaf, yr ifancaf o ddau fab Augustus Jones (1757 neu 1758-1836), Cymro Americanaidd a fu'n arolygwr i'r goron, yn fentrwr tir ac yn ffermwr, a Tuhbenahneequay (Sarah Henry), merch Wahbanosay, un o benaethiaid y Mississauga.

Treuliodd Peter Jones y rhan fwyaf o'i ieuenctid gyda'i fam a'i phobl, gan ymweld â'i dad yn yr haf yn unig. Yn y degawd cyn geni Jones, bu farw ryw ddeugain y cant o bobl Mississauga y Credit o afiechydon heintus fel y frech wen a'r frech goch. O ddiwedd y Chwyldro Americanaidd, bu tonnau o wladychwyr o Ewrop a'r Unol Daleithiau'n cystadlu am adnoddau hela, pysgota a chasglu, sef prif gynhaliaeth faterol y Missussaugas, tra'n boddi'r gymuned gydag alcohol. Yng nghanol y 1810au, penderfynodd Augustus symud Peter a'i frawd John o'r amgylchfyd hwnnw, gan anfon Peter i'r ysgol a dod â'r ddau i fyw ar y fferm a sefydlodd ar diroedd Haudenosaunee yn Grand River gyda llysfam y bechgyn, Sarah Tekarihogen, merch un o benaethiaid y Kanien'kehá:ka. Treuliodd Peter y saith mlynedd nesaf yno, lle cafodd ei gynnwys gan y Kanien'kehá:ka a rhoi iddo'r enw Desagondensta.

Yn 1823, trodd Kahkewaquonaby at y ffydd Fethodistaidd, a daeth ei waith gyda'r eglwys i ddominyddu gweddill ei fywyd. Yn fuan iawn daeth yn lladmerydd dwyieithog dros Fethodistiaid y Mississauga. Aeth ati hefyd i gyfieithu emynau Saesneg i Anishinaabemowin hygyrch, gan amlygu'r adleisiau rhwng Cristnogaeth a diwylliant ei fagwraeth. Yn 1826, arweiniodd Peter a John y Mississaugas a oedd wedi troi at Fethodistiaeth i Afon Credit lle roedd y Goron wedi addo aredig caeau ac adeiladu tai iddynt. Yn sgil sefydlu'r pentref cafwyd newid sylfaenol a sydyn mewn arferion traddodiadol: symudodd y Mississaugas o anhedd-dai cymunedol i rai un teulu, gan fabwysiadu amaethyddiaeth yn brif weithgarwch economaidd a glynu wrth normau rhyweddol Ewropeaidd. Gwnaeth swyddogion, arweinwyr crefyddol a dyngarwyr ym Mhrydain a'r trefedigaethau yn fawr o'r newid cyflym hwn, gan ddathlu Cenhadaeth Afon Credit fel prawf o'r 'cynnydd' y gallai cymunedau Brodorol ei wneud trwy ymsefydlogi, Cristnogaeth ac addysg Ewropeaidd. Yn 1830, drafftiodd Kahkewaquonaby gorff o gyfreithiau ar gyfer y pentref a oedd, tra'n pwyso'n drwm ar y gyfraith gyffredin, hefyd yn cynnwys dylanwad Anishinaabe arwyddocaol.

Teithiodd Jones yn gyson trwy gydol ei fywyd, naill ai ar gyfer gwaith cenhadol neu i gynnal y cyswllt rhwng cymunedau Anishinaabe yng Nghanada uchaf, neu dramor ar deithiau codi arian i achos y Methodistiaid neu i fynnu hawliau tir Mississaugas Afon Credit. Yn 1828 ac eto yn 1829 treuliodd gryn amser yng ngogledd-ddwyrain yr Unol Daleithiau yn codi arian mawr ei angen ar genhadaeth y Wesleaid. Yn 1831, gyda llythyr o gyflwyniad gan ddirprwy lywodraethwr Canada Uchaf, ymgymerodd Kahkewaquonaby â chylchdaith genhadol ym Mhrydain am >flwyddyn gyfan, gan draddodi dros 150 o areithiau a phregethau, gan amlaf mewn gwisg Mississauga ffurfiol. Cododd arian sylweddol i gefnogi ei gyfieithiad o'r Efengylau, ysgol y Credit, a gwaith cenhadol y Wesleaid. Pwysodd hefyd ar swyddfa'r trefedigaethau i amddiffyn tiroedd Brodorol, a llwyddodd hyd yn oed i drefnu cyfarfod preifat â William IV. Tra yn Lloegr, bu iddo gwrdd ag Eliza Field. Wedi iddynt briodi yn Ninas Efrog Newydd ym Medi 1833, ganwyd iddynt bump o feibion. Rhoddwyd enw Mississauga'r tad i un ohonynt, Dr. Kahkewaquonaby Peter Edmund Jones (1843-1909), ac ef oedd yr un cyntaf o statws Indiaid i raddio o ysgol feddygol yng Nghanada.

Wedi degawd o waith yn gwasanaethu'r ffydd ar ddwy ochr Môr Iwerydd, ordeiniwyd Jones yn Hydref 1833, y Brodor cyntaf i'w benodi'n weinidog Methodistaidd yng Nghanada. Ac nid ef fyddai'r olaf. Ysbrydolwyd nifer o Anishinaabe eraill gan ei genhadu diflino i droi at Fethodistiaeth neu i ddwysáu eu hymroddiad, gan gynnwys ei gyd-weinidogion Shawundais John Sunday, Pahtahquahong Henry Chase, Allen Salt, Nawahjegezhegwabe Joseph Sawyer, brawd mam Jones, a'r perfformiwr a gweithiwr lleyg blaenllaw Maungwudaus George Henry. Diolch i waith Jones a'r dynion hyn, daeth Methodistiaeth yn fwy cyffredin ymhlith yr Anishinaabe yn Ne Ontario nag Anglicaniaeth neu Gatholigiaeth, a bu'n fodd i gysylltu rhandiroedd â'i gilydd, er eu bod yn gynyddol ynysig mewn môr o gymunedau gwladychwyr, ac â rhwydweithiau cyfandirol ac ymherodrol ehangach. O ddiwedd y 1820au, defnyddiodd y dynion hyn eu clymau crefyddol i ddatblygu ymateb Anishinaabe i'r polisi tir trefedigaethol. Bu Jones yn arbennig o lwyddiannus gyda hyn, gan ddefnyddio ei sgiliau areithio, ei deithio diflino, a'i rwydweithiau trawsatlantig, yn enwedig â'r gymdeithas Brydeinig er amddiffyn Brodorion ('Aborigines Protection Society'), i lwyddo i wrthsefyll y polisi symud a ddyfeisiwyd gan Ddirprwy Lywodraethwr Canada Uchaf Francis Bond Head yn 1836. Yn ogystal â'r angen parhaus i godi arian ar gyfer cenhadaeth y Wesleaid, mae'r gwrthsafiad hwn yn esbonio dychweliad Jones i Brydain yn 1837-38. Ar ôl cwrdd ag Ysgrifennydd y Trefedigaethau Glenelg yn Llundain i brotestio am gynllun Bond Head, teithiodd Kahkewaquonaby trwy Loegr, Iwerddon, a'r Alban, a threuliodd wythnos yng Nghymru yn Awst 1838. Ble bynnag yr aeth, cododd arian ar gyfer cenhadaeth y Wesleaid, gan amlaf trwy ddarlithoedd cyhoeddus. Ychydig cyn iddo ddychwelyd i Ganada ym Medi 1838, ymwelodd Jones â Chastell Windsor lle cwrddodd â Glenelg, y Prif Weinidog Melbourne, a'r Frenhines Victoria i ailadrodd ei wrthwynebiad i'r polisi tir trefedigaethol ac i ofyn am ailddatgan hawl Mississaugas Afon Credit i'w tiroedd.

Yn y 1840au, newidiodd actifiaeth Jones o'i ffocws cynharach ar dir i gynnwys mwy o bwyslais ar addysg. Dyblodd poblogaeth Ewropeaidd Canada Uchaf bob deng mlynedd yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan gyrraedd bron i filiwn erbyn 1850. Yn yr amgylchfyd hwn, daeth Kahkewaquonaby yn fwyfwy crediniol mai addysg ysgol Ewropeaidd ffurfiol oedd yr unig fodd i sicrhau dyfodol llewyrchus i genhedloedd Brodorol. Yn 1845, teithiodd Jones i Brydain am y tro olaf, y tro hwn i godi arian ar gyfer yr hyn a ddaeth wedyn yn Ysgol Ddiwydiannol Mount Elgin. Ar ôl iddo ddychwelyd, goruchwyliodd gamau cyntaf cynllunio ac adeiladu'r ysgol, gan obeithio creu dan nawdd Cymdeithas Fethodistaidd y Wesleaid sefydliad ar gyfer addysg disgyblion Brodorol wedi ei chynnal gan droedigion Brodorol. Yn haf 1849, a'i iechyd yn pallu, ymddiswyddodd Jones o'r prosiect ac ymddeol o'r rhan fwyaf o'i waith eglwysig. Yn 1851, derbyniodd Ysgol Mount Elgin ei disgyblion cyntaf, dan reolaeth wladychol bendant. Byddai'n parhau tan 1946, gan weithredu'n rhan o'r rhwydwaith ciaidd o ysgolion preswyl y wladwriaeth a'r eglwys a symudodd blant o'u cartrefi gyda'r nod penodol o dorri ar drosglwyddiad diwylliannol a'u cymathu i'r gymdeithas wladychol.

Bu farw Peter Jones yn ei gartref ger Brantford, Canada Uchaf, ar 29 Mehefin 1856. Ar ôl ei farwolaeth, casglwyd ei ddyddiaduron gan Eliza Field Jones, ei wraig addysgedig a wasanaethodd yn ysgrifenyddes ac yn diwtor Saesneg iddo, a'u cyhoeddi yn 1860 fel The Life and Journals of Kah-Ke-Wa-Quo-Nā-By: (Rev. Peter Jones), Wesleyan Missionary . Y flwyddyn ganlynol, cyhoeddwyd History of the Ojebway Indians with Especial Reference to their Conversion to Christianity, llyfr y bu Jones yn gweithio arno am ran fawr o'i fywyd tan ei salwch olaf, ac a olygwyd yn derfynol gan ei weddw.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 2024-11-28

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.