MANNAY, JAMES (JIM) SAPOE JOHN (Ahmed Hassan Ismail) (1927 - 2012), hanesydd a bardd

Enw: James (Jim) Sapoe John (Ahmed Hassan Ismail) Mannay
Dyddiad geni: 1927
Dyddiad marw: 2012
Priod: Julia M. Mannay (née Desmond)
Plentyn: Farida Mannay
Plentyn: Jamila Mannay
Plentyn: Leila Mannay
Rhiant: May Davies (née Griffiths)
Rhiant: James Sapoe Mannay
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd a bardd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Barddoniaeth
Awdur: Rebecca Eversley-Dawes

Ganwyd James Mannay ar 2 Rhagfyr 1927 yn Nhre-biwt, Caerdydd, yr hynaf o dri o blant James Sapoe Mannay (g. 1893), morwr Kru o Setta Kru neu Nana Kru yn Liberia, a'i wraig May (gynt Davies, ganwyd Griffiths, 1896-1971) o Wolverhampton. Roedd ganddo frawd, Foeh Thomas Mannay (1930-2021), a chwaer, Elizabeth Mannay (1932-1998)).

Magwyd Jim, fel y gelwid ef, yn 11 Stryd Frances lle roedd ei fam yn rhedeg tŷ llety. Yn ôl trwydded a roddwyd yn 1927, roedd lle yn y llety ar gyfer naw o forwyr. Dynion o Orllewin Affrica oedd llawer o'r rhain, ac er nad llety Affricanaidd yn unig ydoedd, byddai aelodau o'r gymuned Kru yn lletya yno'n aml. Roedd tad Jim a'i gefnder Benjamin Johnson (Weah) yn byw drws nesaf i'w gilydd, ac ynghyd â'u 'ceraint' byddent yn difyrru Jim gyda chwedlau'r llwyth a dysgu iddo beth o'r iaith a'i chaneuon, a oedd yn elfen bwysig iawn yn y diwylliant Kru. Ymhlith y lletywyr roedd griot (chwedleuwr) Affricanaidd o'r enw Doe Grey, a'i swyddogaeth ef oedd cadw a thraddodi hanes y llwyth. Un o atgofion Jim o'i blentyndod oedd talu ceiniog iddo am adrodd stori. Roedd enwau Jim a'i frawd hefyd yn rhan o draddodiad y llwyth. Enwau Kru yw Sapoe a Foeh a gellir olrhain Sapoe i hen dad-cu Jim a oedd yn bennaeth yn Liberia.

Roedd Jim wedi ei gyfareddu hefyd o oedran ifanc iawn gan y mosg Zawiya lleol, ac er nad oedd ei dad yn aelod byddai'n mynd ag ef i'r gweddïau yno. Trodd Jim i'r ffydd Islamaidd yn y pen draw a rhoddwyd iddo'r enw Ahmed Hassan Ismail.

Yn ystod ei Wasanaeth Cenedlaethol yn ddyn ifanc, lleolwyd ef yn Singapore gydag Ail Fataliwn y Gatrawd Gymreig. Cafodd ei ddwyn o flaen llys milwrol am anufudd-dod, ond o ganlyniad i gefnogaeth gan Dywysog Coronog Affganistan (a ymwelodd â'r gatrawd a chwrdd â Jim pan fu ar ymweliad â'r Zawiya yn Nhre-biwt) a nifer o lythyrau gan ei fam May at James Callaghan yn Nhŷ'r Cyffredin, ni chafodd gosb bellach.

Ar ôl dychwelyd o'r fyddin, priododd Julia M. Desmond yn 1949 a magu tair merch, Farida (g. 1949), Jamila (g. 1950) a Leila (g. 1950). Yn ei flynyddoedd cynnar bu'n gwerthu persawr mewn marchnadoedd, ac wedyn gweithiodd fel dyn sied gyda'r rheilffordd. Yn nes ymlaen yn ei fywyd bu'n weithgar iawn yn y sector wirfoddol gan gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches gyda chynllun trwsio beiciau.

Ynghyd â'i gyfnither Emily, merch Benjamin Johnson, treuliodd Jim flynyddoedd yn cofnodi hanes pobl Kru. Cadwodd y ddau lawer o ddogfennau'n ymwneud ag unigolion ac ysgrifennodd Jim yn helaeth am y gymuned yn Tiger Bay, gan nodi amryw enwau a llysenwau Kru a Saesneg. Roedd hefyd yn fardd ac adlewyrchodd hanes ei fywyd yn ei gerddi. Diolch i fanwl gywirdeb ei hanesion, bu gwaith Jim yn fodd i adnabod dros 600 o unigolion o Orllewin Affrica trwy'r DU, a daeth yn sail ar gyfer ymchwil i adnabod morwyr o'r gymuned Kru a wasanaethodd yn y ddau Ryfel Byd.

Bu Jim Mannay farw ar 30 Mai 2012 yng Nghaerdydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-11-01

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.