Ganwyd Mahmood Hussein Mattan yn 1923 yng Ngwlad Somali Brydeinig fel y'i gelwid ar y pryd. Ychydig a wyddys am ei flynyddoedd cynnar yno, nes iddo adael Hargeisa i chwilio am waith, ymuno â Llynges Fasnachol Prydain a docio yng Nghaerdydd yn 1946.
Gan letya gyda'i gyd-Somaliaid a dynion Mwslemaidd eraill mewn lletyau yn Tiger Bay, cafodd Mattan ei draed dano a dechrau bwrw gwreiddiau. Yn fuan ar ôl cyrraedd, cwrddodd â merch ddwy ar bymtheg oed o Gwm Rhondda, Laura Williams, a weithiai mewn ffatri papur yng Nghaerdydd, a'i phriodi yn 1947. Yn ôl Laura roedd ei gwr yn ddyn da a charedig ac yn ddarparwr. Er bod eu priodas yn ddedwydd, am ei bod yn uniad rhynghiliol bu gelyniaeth hiliol tuag atynt yn lleol a buont yn byw ar wahân yn yr un stryd tra'n magu eu tri phlentyn, David (g.1948), Omar (g.1949) a Mervyn (g.1951). Gadawodd Mattan y llynges yn 1949, a bu'n gwneud gwaith amrywiol wedyn, gan gynnwys mewn ffowndri dur.
Ar noson 6 Mawrth 1952, cafodd siopwraig Iddewig o'r Wcráin o'r enw Lily Volpert ei llofruddio'n gïaidd yn ei siop, ac aeth sïon ar led fod Somaliad wedi ei weld yno adeg y llofruddiaeth. Holodd Heddlu Dinas Caerdydd nifer o ddynion lleol gan gynnwys Mattan. Ddwyawr ar ôl i'r llofruddiaeth ddigwydd, aeth ditectifs i'w lety ond ni chafwyd hyd i dystiolaeth iddo fod ym mangre'r drosedd.
Bron i wythnos wedi'r llofruddiaeth, a neb wedi ei arestio a'r ymchwiliad yn arafu, cynigiodd teulu'r dioddefydd wobr o £200 (cyfwerth â £7,000 yn 2023). Dyna a achosodd ddinistr Mattan, gan i sawl un ddod ymlaen, gan gynnwys Harold Cover, un o drigolion Tiger Bay o India'r Gorllewin, a honnai iddo weld Mattan yn dod o gyfeiriad siop Miss Volpert. Er gwaethaf anghysonderau o ran amseriad a newidiadau yn adroddiadau llygad-dystion gan Cover ac eraill, cyhuddwyd Mattan o lofruddio Miss Volpert ar 16 Mawrth 1952.
Dechreuodd prawf Mattan ar 22 Gorffennaf 1952 a derbyniwyd tystiolaeth prif dyst yr erlyniad Harold Cover er gwaethaf ei anghysonderau. Ni chafodd y rheithgor na thîm amddiffyn Mattan wybod fod tystiolaeth Cover wedi newid, ac ni ddatgelwyd datganiadau'r holl dystion, a'r ffaith fod pedwar ohonynt wedi methu adnabod Mattan mewn rhes adnabod. Roedd nifer o lygad-dystion eraill hefyd wedi methu adnabod Mattan ac ni ddatgelwyd yr wybodaeth hollbwysig hon gan Heddlu Dinas Caerdydd. Wrth grynhoi achos yr amddiffyniad, ceisiodd bargyfreithiwr Mattan Mr Rhys-Roberts esbonio ymddygiad ei gleient, ond wrth wneud hynny fe'i dad-ddynolodd trwy ei ddisgrifio fel 'a half child of nature, a semi-civilized savage'.
Wedi cwta dri diwrnod, cafwyd Mattan yn euog gan y rheithgor. Roedd Mattan wedi mynnu drwy gydol yr achos ei fod yn ddieuog, a bellach rhoddodd ei obaith ar arbediad einioes munud olaf gan yr Ysgrifennydd Cartref David Maxwell Fyfe, ond fe'i gwrthodwyd er gwaethaf ei lythyr yn ymbil yn daer am drugaredd. Cafodd Mahmood Hussein Mattan ei ddienyddio gan Albert Pierrepoint ar 3 Medi 1952, ac ef oedd y dyn olaf i'w grogi yng Ngharchar Caerdydd.
Dros y 46 mlynedd nesaf ymladdodd y teulu Mattan i glirio ei enw, dan gysgod anghyfiawnder a fygythiai chwalu eu bywydau. Yn 1969, ymunodd Mohamed Kalineh, Somaliad lleol uchel ei barch, â'r ymgyrch i glirio enw Mattan ar ôl i brif dyst yr erlyniad Harold Cover gael ei gyhuddo o geisio llofruddio ei ferch ei hun, Elaina Smith, achos tebyg iawn i lofruddiaeth Lily Volpert yn 1952. Ysgogodd hyn gryn sylw yn y cyfryngau, ac anogwyd yr Ysgrifennydd Cartref James Callaghan gan y newyddiadurwr David Wickham a'r AS Ted Rowlands i ailagor yr ymchwiliad, ond er gwaethaf eu hymdrechion taer gwrthod a wnaeth Callaghan.
Trwy'r 1980au ofer fu ymdrechion i fynd â'r achos i lys apêl, nes iddo o'r diwedd ddod i sylw'r newyddiadurwr ifanc Phillipa Cherryson o'r South Wales Echo yn 1994. Gwelodd Cherryson lythyr oddi wrth lysfab Mahmood Mattan, Phillip Mattan, yn gofyn am gefnogaeth i'r ymgyrch, ac o hynny ymlaen ymroddodd i'r achos gyda chymorth cyfreithiwr y teulu Bernard de Maid.
Yn 1996, symudwyd gweddillion Mattan o Garchar Caerdydd i ran Fwslemaidd Mynwent Orllewinol Caerdydd yn Elái. Digwyddodd hyn ar ôl i erthyglau Cherryson godi ymwybyddiaeth am y ffaith na chafodd Laura Mattan ymweld â bedd dienw ei gwr yn y carchar na symud ei gorff oddi yno i'w gladdu'n breifat. Yn sgil ymdrechion Cherryson a De Maid cymerwyd yr achos gan y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol, a bu'n un o'i achosion cyntaf i fynd i'r Llys Apêl, wedi ei gynrychioli gan y bargyfreithiwr hawliau dynol blaenllaw Michael Mansfield QC. Y noson cyn gwrandawiad yr apêl, daeth Anne Shamash, bargyfreithiwr ieuaf Michael Mansfield QC, o hyd i nodyn yn cadarnhau mai Tahir Gass, Somaliad â dant aur a gafwyd yn euog o lofruddiaeth yn 1954 a'i anfon yn ôl i Somalia, oedd y dyn yr honasai Harold Cover ei adnabod fel Mattan. (Daeth i'r amlwg yn nes ymlaen fod Gass wedi gadael y llong yn yr Eidal a diflannu.) Yng ngoleuni'r dystiolaeth newydd hon, ar 24 Chwefror 1998, penderfynwyd bod euogfarn Mahmood Hussein Mattan yn ansafadwy ac fe'i diddymwyd. Dyfarnwyd £725,000 o iawndal i'r teulu.
Er gwaetha'r fuddugoliaeth hon, gwelwyd effeithiau dinistriol y boen a'r trawma ar fywydau tri mab Mattan. Roedd Omar wedi disgrifio gwybod y gwir am farwolaeth ei dad fel tyfiant cancr yn ei ben, ac yn 2003 cafwyd hyd i'w gorff wedi ei olchi i fyny ar draeth yn yr Alban a dyfarnodd y crwner reithfarn agored. Roedd Mervyn, y mab ieuengaf, wedi cael trafferthion gydag alcohol ers iddo orfod adnabod corff Omar, ac wyth mlynedd yn ddiweddarach cafwyd hyd iddo'n farw yn ei gartref. Bu farw'r trydydd mab David wedi salwch byr yn 2014. Bu farw Laura Mattan yn 2008.
Nododd BBC Sounds saith deg mlwyddiant dienyddiad Mattan ym Medi 2022 trwy bodlediad naw rhan gyda chyfraniadau gan aelodau o deuluoedd Mattan a Volpert a manylion am yr achos a'r trawma a ddioddefwyd gan deulu Mattan. O ganlyniad i hyn cyflwynodd Heddlu De Cymru ymddiheuriad i'r BBC am eu rhan yn euogfarn a dienyddiad Mattan.
Dyddiad cyhoeddi: 2024-05-16
Hawlfraint Erthygl: http://creativecommons.org/licenses/by/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.