Ganwyd Jan Morris ar 2 Hydref 1926 yn Clevedon, Gwlad yr Haf, fel James Humphry Morris, yr iengaf o dri mab Walter Henry Morris (1896-1938) a'i wraig Enid (g. Payne; 1886-1981). Roedd ei thad wedi dioddef effeithiau nwy yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a byddai'n cael y ddau ben llinyn ynghyd trwy yrru tacsis a hersiau. Roedd ei mam yn organydd ac yn athrawes gerddoriaeth. Ei dau frawd oedd Gareth Charles Walter (1920-2007), ffliwtydd o fri rhyngwladol, a Christopher John (1922-2014), organydd a chyfansoddwr.
Wedi ei gosod gan y Times yn bymthegfed ar restr o awduron mwyaf Prydain ers y rhyfel, cafodd Morris lwyddiant byd-eang mewn gyrfa'n ymestyn dros gyfnod o 73 mlynedd, gan gynhyrchu dros ddeugain o lyfrau ac ysgrifau di-ri. Ymdeimlad dwfn â lle oedd ei nod amgen, er bod yn gas ganddi gael ei galw'n awdur teithio. Arddull afieithus a synhwyrus oedd ganddi, yn cyfuno hanes, lle, bywgraffiad, barn a theithlyfr mewn ffyrdd cwbl unigryw a dihafal. Fel y dywedodd ei hun tua diwedd ei bywyd, 'Fact or fiction? As an old pro of the writing game, I don't recognise the distinction.'
Mae'r cyfrolau bywgraffydol amdani yn ei disgrifio'n aml yn 'Eingl-Gymreig trwy enedigaeth, Cymraes trwy deyrngarwch'. Pan yn blentyn, câi ei chyfareddu o weld llongau ym Môr Hafren a bryniau tywyllach, llymach Cymru y tu hwnt. Roedd Sir Fynwy bell yn ddeniadol hefyd am mai yno y ganwyd ei thad, a fu farw pan oedd hi'n ddeuddeg oed.
Daeth Morris i adnabod gororau Cymru yn well pan aeth yn Ionawr 1941 i Goleg Lancing, a oedd wedi mudo o arfordir Sussex i gyfres o hen dai drafftiog yn Swydd Amwythig. Ar ôl gadael yr ysgol, gweithiodd fel newyddiadurwr gyda'r Western Daily Press ym Mryste, cyn cael ei gwysio i'r fyddin am weddill y rhyfel, yn swyddog cuddwybodaeth yn yr Eidal, yr Aifft a Phalesteina. Wedi ei dadfyddino, aeth i Goleg Eglwys Grist, Rhydychen, a hynny'n ddychweliad mewn ffordd, gan iddi fod yn gorydd yn ysgol yr eglwys gadeiriol yno cyn mynd i Lancing. Cwrddodd ag Elizabeth Tuckniss (1924-2024) yn Rhydychen, a'i phriodi yn 1949. Ganwyd iddynt bump o blant: Mark (1952), Henry (1953), Virginia (1960), Tom (1961, a gymerodd yr enw Twm Morys yn nes ymlaen) a Susan (1964). Graddiodd gyda BA yn 1951, ac ymunodd â staff y Times.
Cafodd Morris ei chyfle mawr cyntaf trwy ddigwyddiad ffodus: yn chwech ar hugain oed, yn 1953 aeth gyda'r cyrch ar Everest a arweiniwyd gan y Cyrnol John Hunt. Roedd y Times wedi prynu hawliau cyfyngol i'r daith, a phan gyrhaeddwyd copa'r mynydd am y tro cyntaf o'r diwedd, dyfeisiodd Morris, a hithau mewn gwersyll ar uchder o 22,000 troedfedd, system gywrain o godau a rhedwyr i ddanfon y newydd drwy deligraff yn ôl i Lundain, heb i neb arall ei weld. Torrodd y stori ar noswyl Coroni'r Frenhines Elizabeth II. Dyna'r antur ddiniwed olaf, meddai Morris yn ddiweddarach.
Yn sgil ei henwogrwydd newydd, cafodd Morris gynnig gan gwmni Faber & Faber, a gyhoeddodd ei llyfr cyntaf, Coast to Coast (1956), hanes taith ar draws UDA. Cafwyd llyfrau eraill ar Oman, Irac, De Affrica a'r Iorddonen yn fuan wedyn, tra bu Morris yn gweithio fel gohebydd i'r Times ac wedyn y Manchester Guardian. Roedd cartref y teulu yn Swydd Gaint ar y pryd, ac wedyn yn Swydd Rydychen a Berkshire.
Yn 1960, cafwyd clod mawr i'w seithfed llyfr, Venice, ond digwyddodd trasiedi teuluol yr un adeg. Ar ôl y ddau fab cyntaf, ganwyd merch a fu farw yn faban. Wedi eu syfrdanu gan y golled, symudodd y teulu i Gymru am y tro cyntaf, i'r Tŷ Gwylio ym Mhortmeirion, trwy garedigrwydd eu cyfaill Clough Williams-Ellis. Erbyn i Morris roi'r gorau i'w gwaith newyddiadurol ddwy flynedd wedyn, a pharatoi i ysgrifennu llyfrau'n llawn-amser, roeddent wedi penderfynu ymsefydlu yng Ngwynedd yn fwy parhaol. Roedd Jan (yn dal i fyw fel James) yn 36 mlwydd oed, ac roedd eisoes wedi ymweld â mwy na saith deg o wledydd.
Ar ôl gosod tŷ ar rent iddynt yn Llanfrothen am gyfnod, cynorthwyodd Clough Williams-Ellis y teulu i ddod o hyd i Blas Trefan yn Llanystumdwy. Roedd y Plas wedi bod ar y farchnad ers dwy flynedd, ac roedd yn 'half-derelict, wildly impractical, cripplingly expensive and really rather beautiful', meddai Morris mewn llythyr i gyfaill. Daeth yn gartref hoff i deulu ar ei dyfiant: ganwyd eu trydydd mab Twm yn 1961, a merch Susan, a elwid yn Suki, yn 1964.
A hithau mor aflonydd ei natur, roedd y sefydlogrwydd yn sail i Morris ymgyrraedd yn uwch, yn broffesiynol ac yn bersonol. Roedd ymherodraeth yn thema ganolog mewn rhyw fodd yn llawer o'i llyfrau cynharach a'i newyddiaduraeth, ac nid yw hynny'n syndod mewn cyfnod pan oedd nifer o gyn-drefedigaethau'n ennill eu hannibyniaeth oddi wrth y DU a phwerau imperialaidd eraill Ewrop. Roedd ganddi gynllun mewn golwg i bortreadu'r ymherodraeth Brydeinig mewn tair cyfrol, gan ddechrau gyda'i huchafbwynt, sef Jiwbilî Diemwnt y Frenhines Victoria yn 1897. 'I resolved to write a big, ornate, frank but affectionate work about Victoria's empire, start to finish', meddai yn y rhagair i gyfrol gyntaf Pax Britannica a gyhoeddwyd yn 1968. Cynnydd yr ymherodraeth oedd dan sylw yn yr ail gyfrol, Heaven's Command (1973), a'i henciliad yn y drydedd, Farewell the Trumpets (1978).
Yn ymestyn i gyfanswm o 1674 o dudalennau, y triawd Pax Britannica yw ei magnum opus. Mewn ysgrif deyrnged ar ei phen-blwydd yn bedwar ugain yn 2006, dywedodd Ned Thomas, 'Re-reading Pax Britannica now, I am struck by how just and balanced most of its judgements are, on both the colonizers and colonized.' Mae eraill yn llai brwdfrydig. Mewn ysgrif yn y London Review of Books yn 2019 disgrifiodd James Wood Pax Britannica yn 'glitteringly nostalgic', gan ddweud 'Morris doesn't exactly hide the racism and genocidal violence of the imperial enterprise, but they're somehow swept up in the sheer mad gusto of the narrative.' Yn ei gyfrol Empireland (2021), dyfynnodd Sathnam Sanghera hyn, ac er canmol ei 'characteristically elegant account, in peerless prose', roedd yn anesmwyth am rai o agweddau Morris, yn enwedig 'some wild racial generalizations which are surely based on the contemporaneous accounts of people who have since been proven to be genocidal maniacs'.
Tra'n llunio'r tair cyfrol, roedd Jan Morris hefyd yn ymgymryd â'r siwrnai fewnol fwyaf, sef honno i ailbennu rhywedd. Yng ngeiriau agoriadol Conundrum (1974), ei llyfr arloesol ar y pwnc dyrys hwn: 'I was three or perhaps four years old when I realised that I had been born into the wrong body, and should really be a girl.' Roedd wedi rhannu ei chyfrinach fawr ag Elizabeth cyn iddynt briodi, ond wrth i'r sylweddoliad gryfhau trwy'r 1950au a'r 60au, ymgodymodd â theimladau hunanleiddiol, a dechreuodd ar driniaeth hormonau. Cwblhaodd lawdriniaeth ailbennu yn Casablanca yn 1972, ac o hynny ymlaen bu'n byw fel menyw, fel Jan.
'Fortunately for me,' meddai yn Conundrum, 'the first society into which I ventured frankly and publicly sex-changed was the profoundly civilised society of Caernarfonshire.' Er nad yw hyn yn fanwl gywir (cadwai dŷ bychan yn ardal Jericho, Rhydychen, lle y bu iddi arbrofi ymgyflwyno fel menyw yn gyhoeddus am y tro cyntaf), mae'n cynnwys gwirionedd ehangach, ac yn arddangos y cyd-daro rhyfedd rhwng ei hunaniaethau rhyweddol a chenedlaethol. 'To decide as I have done, in my middle years, that Wales will henceforth be the true epicentre of my life, is in some sense a renunciation', meddai. Roedd yn ymwrthod â chryn dipyn mwy hefyd.
Trwy'r 1980au a'r 90au, roedd ei hangerdd dros Gymru'n bwysicach na dim. Ysgrifennodd yn helaeth am y wlad, ei thirwedd, ei hiaith, ei llên a'i diwylliant ar gyfer sawl cyhoeddiad ac mewn amryw lyfrau, gan gynnwys y gyfrol feistrolgar The Matter of Wales: Epic Views of a Small Country (1984). Dywedodd am Gymru yn niweddglo'r gyfrol honno, 'not just a country on the map, or even in the mind: it is a country of the heart, and all of us have some small country there.'
Mae'r llyfr yn cynnwys interliwd, wedi ei osod rywbryd yn yr unfed ganrif ar hugain, lle dychymyga Morris dref Machynlleth wedi ei thrawsffurfio'n brifddinas Cymru annibynnol. Ymhelaethodd ar y syniad hwn mewn llyfr arall, A Machynlleth Triad (1993), gyda chyfieithiad i'r Gymraeg gan ei mab Twm Morys.
Er mai gweddau mythegol a throsiadol Cymru a apeliai fwyaf iddi efallai, roedd ei chefnogaeth yn ymarferol hefyd. Rhoddodd ei hamser, ei doniau a'i harian i lawer o achosion Cymreig, ysgrifennodd yn fynych i gynorthwyo cyhoeddiadau bychain, astudiodd y Gymraeg yn Nant Gwrtheyrn, ar y cwrs Wlpan yn Llanbedr Pont Steffan a mannau eraill, bu'n llafar ei chefnogaeth i Blaid Cymru ac ymgyrchodd dros ddatganoli yn refferendwm 1997. Daeth yn aelod o'r O yn Eisteddfod Genedlaethol Llanfair ym Muallt yn 1993, dan yr enw Jan Trefan. Er gwaethaf ei chefnogaeth i Werinlywodraeth Gymreig, derbyniodd Morris CBE yn 1999, er mawr siom i lawer. Cysylltodd ei phenderfyniad i dderbyn yr anrhydedd â dyfodiad y Cynulliad Cenedlaethol, gan esbonio, 'Now that Wales is on the path to independence from England, I think it's time to be magnanimous. As a chronicler of Empire, it is rather attractive to be a Commander of it' (The Daily Telegraph, Mehefin 1999).
Anaml iawn y bu iddi ymhel â ffuglen bur, ond er syndod mawr i bawb - gan gynnwys Morris ei hun - cafodd ei darlun ysmala o ddinas-wladwriaeth ddychmygol, Last Letters From Hav, le ar restr fer Gwobr Booker 1985. Ceir llawer o lythyrau yn ei harchif ym Mhrifysgol Aberystwyth oddi wrth ddarllenwyr yn gofyn ble yn union roedd Hav. Mae'r chwedl ffuglennol Gymreig, Our First Leader, yn llai llwyddiannus.
Roedd Morris yn gefnogol iawn i awduron ifainc, a byddai llawer ohonynt yn tyrru at ei drws am de, wisgi a chyngor, a chael y cwbl yn hael. Byddai llawer o bobl drawsryweddol hefyd yn galw heibio, yn ddirybudd yn aml, gyda'u hanwyliaid, rhai ohonynt yn ofidus iawn. Trwy gydol chwarter olaf yr ugeinfed ganrif, Morris oedd un o'r ychydig bobl draws yn y byd cyhoeddus, ac er iddi ddod yn fwy didaro ynghylch ei hunaniaeth ryweddol wrth heneiddio ('I'm both now' meddai yn y Times yn 2018), ysgwyddodd y baich hwn heb achwyn.
Ei llyfr 'go iawn' olaf (meddai hi) oedd Trieste and the Meaning of Nowhere yn 2001. Hwn oedd ei ffefryn, ac mae'n dal i fod yn ffefryn gan lawer o'i darllenwyr. Yn fyfyrdod hiraethus ar fyrhoedledd, wedi ei osod mewn dinas y bu Morris ynddi am y tro cyntaf fel swyddog ar ddiwedd y rhyfel, dinas a fu dan gynifer o wahanol oruchwyliaethau yn ystod ei hanes, mae'n ddiweddglo llenyddol teilwng i fywyd hynod.
Bu Jan Morris farw ar 20 Tachwedd 2020, yn 94 oed, yn Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli. Roedd hi ac Elizabeth wedi 'ailbriodi' yn 2008 ar ôl newid yn y gyfraith yn caniatáu cofrestriadau cyfunrhyw, a goroesoedd Elizabeth am bedair blynedd arall gan farw mewn cartref nyrsio yn Aberystwyth gwta ddau fis cyn ei phen-blwydd yn gant oed. Gwasgarwyd eu llwch ar ynys fechan yn Afon Dwyfor, dan garreg fedd yr oedd Jan yn hoff o'i dangos i ymwelwyr, ac arni'r arysgrif hon:
DYMA MAE DWY FFRIND, AR DERFYN UN BYWYD - HERE ARE TWO FRIENDS, AT THE END OF ONE LIFE.
Dyddiad cyhoeddi: 2024-11-05
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.