OULTON, WILFRID EWART (1911 - 1997), swyddog RAF

Enw: Wilfrid Ewart Oulton
Dyddiad geni: 1911
Dyddiad marw: 1997
Priod: Sarah Gwenllian Oulton (née Davies)
Priod: Leticia Sara Oulton (née Malcolm)
Rhiant: Martha Oulton (née Wellings)
Rhiant: Llewellin Oulton
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: swyddog RAF
Maes gweithgaredd: Milwrol
Awdur: Bryan Boots

Ganwyd Wilfrid Oulton ar 27 Gorffennaf 1911 yn 2 Stryd Ellie, Monks Coppenhall, Nantwich, Swydd Gaer, yr hynaf o wyth o blant Llewellin Oulton (1887-1955), athro, a'i wraig Martha (g. Wellings, 1884-1918). Gwasanaethodd ei dad fel gwyddonydd gyda'r Corfflu Hedfan Brenhinol yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac ymunodd â staff Ysgol Ramadeg Abertyleri yn 1919 fel athro Cemeg. Cafodd Wilfrid ei addysg yn Abertyleri cyn ennill ysgoloriaeth agored i Goleg y Brifysgol, Caerdydd, i astudio peirianneg.

Yn 1929 aeth Wilfrid Oulton i Goleg Cranwell y Llu Awyr Brenhinol fel cadét awyr. Graddiodd ar frig ei ddosbarth, a chafodd gomisiwn yn swyddog peilot yn y Llu Awyr yng Ngorffennaf 1931. Ymunodd ag RAF Calshot yn Hydref 1931 a hyfforddodd fel peilot awyrennau môr. Yn Ebrill 1932 fe'i penodwyd i Sgwadron 204 yn RAF Mount Batten, lle hedfannodd awyrennau môr Supermarine Southampton a Supermarine Scapa. Fe'i penodwyd i Sgwadron 202 ym Malta yn Awst 1932 a'i ddyrchafu'n swyddog hedfan yn Ionawr 1933.

Priododd Sarah Gwenllian Davies (1913-1990) ym Malta yn 1935, ond gan nad oedd ond pedair ar hugain oed nid oedd yn gymwys am lwfans priodasol, felly er mwyn cynyddu ei incwm wrth i'w deulu dyfu, aeth ati i astudio ieithoedd gan weithio fel cyfieithydd. Ganwyd iddynt dri mab; ymunodd dau ohonynt â'r RAF, a'r llall â Llu Awyr Brenhinol Canada.

Roedd Oulton wedi rhagori mewn llywio awyr yng ngholeg Cranwell, a phan ddychwelodd i'r DU ym Mawrth 1936 mynychodd yr Ysgol Llywio Awyr, gan ddod yn hyfforddwr yn yr ysgol honno ym mis Tachwedd yr un flwyddyn. Fe'i dyrchafwyd yn arweinydd sgwadron yn Rhagfyr 1938 ac ef oedd pencampwr sboncen yr RAF am 1938-39.

Pan ddechreuodd y rhyfel ym Medi 1939 roedd Oulton yn brif swyddog 'C Flight', Sgwadron 217, wedi ei leoli yn RAF Carew Cheriton yn Sir Benfro, ond cafodd ei secondio'n fuan i'r Weinyddiaeth Gynhyrchu Awyrennau i drefnu hyfforddiant llywio. Cafodd ei enwi mewn adroddiadau yn Chwefror 1940 a'i ddyrchafu'n asgell-gomander ym Mawrth 1941.

Yn Ebrill 1943, penodwyd Oulton yn brif swyddog sgwadron, yn hedfan awyrennau bomio Handley Page Halifax i ymladd yn erbyn llongau tanfor. Ym Mai 1943, cyfrannodd at suddo tair llong danfor Almaenig ym Mae Vizcaya, a dyfarnwyd iddo'r 'Distinguished Flying Cross' am ei wrhydri. Yn Hydref 1943, daeth yn brif swyddog RAF Lajes Field, gorsaf yn yr Asores Portiwgalaidd, ac o'r fan honno gallai'i sgwadronau hela llongau tanfor y gelyn ac amddiffyn llongau'r cynghreiriaid gan ddefnyddio'u hawyrennau bomio Flying Fortress. Am sefydlu ac arwain y gwasanaeth allweddol hwnnw dyfarnwyd y DSO iddo ym mis Tachwedd 1943. Fe'i dyrchafwyd yn gapten grŵp yn Ionawr 1944 a daeth yn bennaeth gorsaf awyrennau môr RAF Castle Archdale yng Ngogledd Iwerddon. Yn nes ymlaen y flwyddyn honno cafodd ei enwi mewn adroddiadau am yr eildro. Ym Mawrth 1945, penodwyd ef yn ddirprwy gyfarwyddwr morlywio Gogledd Iwerddon a chafodd ei enwi mewn adroddiadau am y trydydd tro ym mis Mehefin.

Wedi'r rhyfel bu am gyfnod byr yn ddirprwy gyfarwyddwr hedfan ym maes awyr newydd Heathrow, swydd a gynhwysai sefydlu strwythur trafnidiaeth awyr. Yn 1946 dychwelodd i Ogledd Iwerddon fel cyfarwyddwr RAF y gyd-ysgol wrth-longau tanfor yn Londonderry (Derry), ac ymhlith ei fyfyrwyr yno roedd y Dug Caeredin ifanc yn fuan wedi iddo briodi'r Frenhines. Parhaodd Oulton i godi trwy rengoedd yr RAF wedyn wrth gael ei benodi'n swyddog awyr yn yr Ariannin, gyda chyfrifoldeb dros Paraguay ac Uruguay hefyd. Pan ddychwelodd i'r Weinyddiaeth Awyr yn 1953 dyfarnwyd CBE iddo ac ymunodd â'r gyfarwyddiaeth hyfforddiant staff ac yna'r gyfarwyddiaeth weithredu.

Yn Chwefror 1956, penderfynwyd penodi swyddog RAF yn lle admiral i arwain y profion bom-H ar Ynys y Nadolig yn y Môr Tawel o'r enw 'Operation Grapple', ac Oulton a ddewiswyd a'i benodi'n Is-Farsial yr Awyrlu. Roedd y profion yn cynnwys gollwng nifer o fomiau, rhai'n anadweithiol ond tri'n fyw. Digwyddodd y prif brofion ym Mehefin 1957, ond penderfynwyd gwneud tri phrawf pellach a elwid yn 'Grapple 'X', 'Y' a 'Z'. Oulton a arweiniodd 'Grapple X' ond fe'i holynwyd gan John Grandy ar gyfer y ddau arall.

Yn Ebrill 1958 wedi iddo ddychwelyd o'r Môr Tawel, penodwyd Oulton yn CB ac ymunodd â phencadlys Rheolaeth y Glannau yn Northwood fel uwch-swyddog staff. Honno oedd ei swydd olaf, gan iddo ymddeol o'r RAF ar ei gais ei hun yn 1960. Yn ystod ei ymddeoliad, ymunodd ag EMI Electronics fel cyfarwyddwr prosiectau amddiffyn, ac am gyfnod sefydlodd gyd-fenter ym maes cyfathrebu lloeren gyda Hughes Aircraft o Galiffornia. Yn 1982, dechreuodd ei ymgynghoriaeth fusnes ei hun, Medsales Executive, a daliodd swydd cadeirydd tan 1987. Fe'i gwnaed yn gymrawd er anrhydedd gan Brifysgol Cymru ac yn gymrawd o'r Sefydliad Morlywiaeth Brenhinol. Cyhoeddodd ei atgofion am y profion niwclear yn 1987 yn y gyfrol Christmas Island Cracker: Account of the Planning and Execution of the British Thermonuclear Bomb Tests, 1957. Yn 1995 cyhoeddodd Technocrat, cofiant i'w gyfaill y gwyddonydd niwclear Americanaidd Dr Allen Crocker.

Bu farw ei wraig gyntaf yn 1990, ac yn Nhachwedd 1991 priododd Leticia Sara Malcolm (g. 1921), artist o'r Ariannin, gan ymgartrefu yn Lymington, Hampshire. Yno y bu Wilfrid Ewart Oulton farw o gancr y bledren a'r prostad ar 31 Hydref 1997. Ar ôl ei amlosgi gwasgarwyd ei lwch dros Fae Vizcaya gan awyren o Sgwadron 206.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-08-19

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.