PAYNE, ELVIRA GWENLLIAN ('Gwen'; g. Hinds) (1917 - 2007), gwleidydd ac actifydd cymunedol

Enw: Elvira Gwenllian ('gwen'; G. Hinds) Payne
Dyddiad geni: 1917
Dyddiad marw: 2007
Priod: Colin Montgomery Payne
Rhiant: Leonard Hinds
Rhiant: Gwenllian Hinds (née Lloyd)
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: gwleidydd ac actifydd cymunedol
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Ymgyrchu
Awdur: Mair Jones

Ganwyd Elvira Gwenllian Payne ar 28 Mawrth 1917 yn Stryd Morgan, y Barri, yr hynaf o ddau o blant Leonard Hinds (1887-1948), morwr o Farbados, a'i wraig Gwenllian (g. Lloyd) o'r Barri. Ei brawd iau oedd John Darwin Hinds (1922-1981). Gwasanaethodd ei thad fel taniwr ar longau masnachol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn nes ymlaen daeth yn löwr.

Bu Gwen yn gweithio fel gofalwr yn Llundain, mewn ffatri arfau ym Mhontypŵl, ac am ddwy flynedd ar bymtheg fel goruchwilydd cinio ysgol. Yn 1951, priododd Colin Montgomery Payne o Farbados, a chawsant dri mab.

Roedd Gwen a'i brawd yn aelodau o'r Blaid Lafur. Roedd ei brawd hefyd wedi troi at ffydd Islam, a phan etholwyd ef i Gyngor y Barri yn 1958 ef oedd y cynghorydd Du cyntaf a'r cynghorydd Mwslemaidd cyntaf yng Nghymru. Pan etholwyd Gwen hithau i Gyngor Bro Morgannwg yn 1972 hi oedd y fenyw Ddu gyntaf i fod yn gynghorydd yng Nghymru. Pan ddaeth ei brawd yn Faer Bro Morgannwg yn 1975 - Maer Du cyntaf Cymru - gweithredodd Gwen fel 'Arglwydd Faeres' gydag ef. Yn 1979, daeth hi'n Ddirprwy Faer y Barri.

Yn ogystal â'i gwaith gwleidyddol, bu'n weithgar mewn nifer o fentrau cymunedol ac elusennol, gan gynnwys yn ysgrifennydd sefydlu Cŵn Tywys i'r Deillion, yn aelod sefydlu o Ganolfan Gymunedol Buttrills, yn llywydd Pwyllgor Gofal Gwynegon, Cymdeithas Cymdogion Stryd Da, Canolfan Dydd Tŷ Roundel, Ymchwil Cancr Tenovus a Chanolfan Gymunedol Ynys y Barri. Gwnaeth lawer o hyn ar ôl goroesi cancr ceg y groth yn 1966 a cholli ei gŵr yn 1978.

Bu Elvira Gwenllian Payne farw ar 5 Ebrill 2007 yn Ysbyty Llandochau ac fe'i claddwyd ym Mynwent y Barri.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-11-13

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.