Ganwyd Sarah Ponsonby yn 1755 yn Nulyn, yn ferch i Chambré Brabazon Ponsonby (b.f. 1762), cefnder i Iarll Bessborough ac Aelod o Senedd Iwerddon, a'i ail wraig Louisa (g. Lyons, 1730-1758). Gadawyd hi'n amddifad yn saith oed ac aeth i fyw gyda pherthnasau yn Woodstock, Sir Kilkenny. Aeth i ysgol yn Kilkenny, a dioddefodd sylw annymunedig gan ei hewythr. Yn 1768, gofynnwyd i Eleanor Butler, a oedd un mlynedd ar bymtheg yn hŷn na hi, fod yn gyfeilles i Sarah a daethant yn agos iawn.
Yn Ebrill 1778, cynlluniodd y ddwy i ffoi gyda'i gilydd. Dringodd Ponsonby allan trwy ffenestr lawr isaf gyda'i chi bach Frisk, yn gwisgo dillad dyn ac wedi ei harfogi â phistol. Roedd Butler wedi gadael ei thŷ tua 10yh, hithau hefyd wedi ei gwisgo fel dyn, a mynd i ymuno â Ponsonby gyda'r bwriad o farchogaeth i Waterford a dal llong i Loegr. Ond wedi iddynt golli'r llong bu'n rhaid cysgodi mewn ysgubor dros nos. Fe'u daliwyd gan eu teuluoedd drannoeth a'u gorfodi i ddychwelyd adref.
Gwnaethant ymgais arall i ddianc, gyda Butler yn cuddio am sbel yn wardrob Ponsonby a'r forwyn, Mary Carryl, yn dod â bwyd iddi. Fe'u darganfuwyd eto, ond er gwaethaf ymdrechion i'w cadw ar wahân, ildiodd y ddau deulu yn y pen draw a chaniatáu iddynt ymadael ar 9 Mai 1778.
Hwyliodd y ddwy i Aberdaugleddau, a theithio wedyn i ogledd Cymru, gan ymgartrefu yn y diwedd yn 1780 yn Llangollen mewn bwthyn o'r enw Plas Newydd. Daeth Mary Carryl atynt yn fuan wedyn a'u gwasanaethu'n ffyddlon tan ei marwolaeth yn 1809. Cyfeiriai pobl leol atynt fel 'y ledis', a daethant yn adnabyddus fel 'The Ladies of Llangollen'.
Yn ystod eu hoes ystyrid y Ledis yn aml yn 'gyfeillion rhamantaidd' mewn perthynas blatonaidd heb elfen rywiol, a hynny er gwaethaf sïon eu bod yn Sapphistiaid, neu gariadon o'r un rhyw. Wedi eu mawrygu fel esiamplau o gyfeillgarwch aruchel a oedd wedi aberthu priodas a phlant, lledodd eu bri yn eang a byddai llawer o bobl flaenllaw'r cyfnod yn gohebu ac yn ymweld â hwy.
Rhannent yr un gwely am hanner can mlynedd, un mawr pedwar postyn o dderw wedi ei gerfio'n gain. Yn eu dyddiaduron a llythyrau at ffrindiau cyfeirient at ei gilydd yn gyson fel 'beloved' neu 'my better half' gyda'r awgrym o briodas. Yn ei hewyllys, gadawodd Butler ei holl eiddo i 'the beloved of my heart' a phan oedd yn sâl cafodd ymgeledd gan 'My Sweet Love'. Roedd llythrennau cyntaf enwau'r ddwy wedi eu cydglymu ar bopeth o'u heiddo a byddent yn cydlofnodi eu llythyron. Amdanom 'ni' y sonient bob amser. Ers yr ugeinfed ganrif mae union natur y berthynas rhwng y ddwy wedi bod yn destun trafod, ond derbynnir yn gyffredin bellach eu bod mewn partneriaeth oes gyfunrhyw.
Yn ei henaint aeth Butler bron yn gwbl ddall a byddai'n cael ei harwain o gwmpas y tŷ gan Ponsonby fel y dangosir mewn llun gan yr Arglwyddes Delamere. Bu Butler farw ar 2 Mehefin 1829, a Ponsonby ddwy flynedd yn ddiweddarach ar 9 Rhagfyr 1831. Claddwyd y ddwy dan y gofeb drionglog yn Eglwys Collen Sant, Llangollen, wrth ymyl eu cyfaill ffyddlon Mary Carryl.
Gwrthodent yn lân ganiatáu eu portreadu, ond yn 1828 gwnaeth Mary Parker (yr Arglwyddes Leighton yn ddiweddarach) frasluniau o wynebau'r ddwy oddi dan fwrdd eu llyfrgell. Roedd Ponsonby mewn proffil ond gan fod Butler erbyn hynny'n ddall iawn roedd modd braslunio ei hwyneb llawn heb iddi weld. Cwblhawyd y llun dair blynedd wedyn ar ôl i'r ddwy farw. Aeth Parker i Blas Newydd a darlunio'r llyfrgell gyda'r holl eitemau ar y bwrdd yn union fel y bu ac wedyn trosglwyddodd ei brasluniau o'u hwynebau ar gyrff dychmygol. Cafodd y darlun gorffenedig ei engrafio wedyn gan Richard James Lane a'i werthu gan Parker i godi arian i elusen.
Serch hynny, y darlun enwocaf yw'r un gan James Henry Lynch. Gan gymryd delwedd Parker, gwnaeth gopi lladrad rhwng 1833-1845 yn dangos y ddwy yn sefyll tu allan mewn gwisgoedd marchogaeth. Cylchredodd hwnnw'n eang yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac erbyn hyn dyna ddelwedd ddiffiniol Ledis Llangollen.
Dyddiad cyhoeddi: 2024-08-06
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.