Ganwyd Eliza Pughe yn 1826 yn Chwaen Wen, Tref Alaw, Môn, yr ifancaf o dri o blant David Roberts Pughe a'i wraig Elizabeth. Chwaen Wen oedd cartref teulu ei mam. Symudodd y teulu i Coch-y-Bug, Pontllyfni ger Clynnog Fawr tua 1828.
Brawd hynaf Eliza oedd John Pughe (1814-1874), Cymrawd o Goleg Brenhinol y Llawfeddgon a gŵr adnabyddus yng nghylchoedd llenyddol Cymru fel cyfieithydd Meddygon Myddfai . Roedd yn gyfaill i'r athro a bardd Ebenezer Thomas (Eben Fardd). Roedd brawd arall Eliza, David William Pughe (1821-1862), yn fardd a hynafiaethydd yn ogystal â llawfeddyg medrus.
Yn ôl nodyn bywgraffyddol yn ei geiriadur Saesneg/Cymraeg darluniadol, bu Eliza Pughe fyw o 1831 i 1850 (sic) yn Coch y Big (sic). Awdur y nodyn oedd nith Eliza, yr artist Buddug Anwylini Pughe (1856-1939), ac mae'n disgrifio Eliza yn 'deaf and dumb from birth, and was a very pretty girl'.
Mae geiriadur darluniadol Eliza (sydd bellach ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru) yn cynnwys cannoedd o fân ddarluniau wedi eu tynnu â llaw, ynghyd ag enwau a berfau Saesneg a Chymraeg yn disgrifio pob darlun. Mae'n debygol iawn mai Eliza ei hun wnaeth y darluniau hyn, ac maent yn dangos ei bod yn arlunydd ifanc dawnus gyda llygad da am fanylion. Tystia'r geiriadur i ymdrechion y teulu i addysgu Eliza yn y cartref, gan ei fod wedi ei ysgrifennu a'i ddarlunio dros hanner can mlynedd cyn Deddf Addysg Gynradd (Plant Dall a Byddar) 1893 a'i gwnaeth yn orfodol i blant byddar fynychu ysgol rhwng pump ac un ar ddeg mlwydd oed.
Mae darluniau Eliza yn rhoi cipolwg difyr ar fywyd domestig dosbarth canol Sir Gaernarfon yn y 1830au a'r 40au, gan gynnwys lluniau o wisgoedd y cyfnod, offer coginio, teclynnau a ddefnyddid yn y cartref, dodrefn, anifeiliaid, pryfed, a bywyd gwledig, yn ogystal â darluniau o offer gwaith ei brodyr megis gefeiliau, chwiliedydd llygaid a thryffin. Mae rhai o'r lluniau wedi eu lliwio'n llachar - cot sgarlad milwr â choler uchel ddu ac epaulette aur. Ceir yma hiwmor hefyd: dyn byddar â thrwmped clust yn codi llaw ar ddyn arall sy'n syllu'n gegrwth, a dyn dall wedi colli ei het trwy daro cangen isel. Mae rhai lluniau'n anghyflawn ond yn cynnig awgrym o helyntion cymdeithasol y cyfnod; criw o ffermwyr wedi eu gwisgo fel merched yn codi terfysg wrth dollborth, a elwir yn y capsiwn yn ferched Rebecca.
Yn ôl nodyn Buddug Anwylini Pughe rhwymwyd y llyfr gan Eben Fardd. Yn ogystal â'i werth o ran hanes cymdeithasol Cymru, mae'r geiriadur yn rhan bwysig o etifeddiaeth hanes pobl fyddar.
Bu Eliza Pughe farw'n un ar hugain oed ar 7 Rhagfyr 1847 yn Brondirion, Clynnog Fawr. Brondirion oedd lleoliad ">meddygfa ei brawd David. Nodir achos ei marwolaeth ar y dystysgrif fel 'llid yr ysgyfaint'. Fe'i claddwyd ym meddrod y teulu ym mynwent eglwys Beuno Sant, Clynnog Fawr. Flynyddoedd yn ddiweddarach claddwyd ei thad yn yr un bedd.
Ar ei charreg fedd ceir englyn o waith Eben Fardd:
Geneth ddoniol, gain, a thyner - edwodd,
Yn adeg ei gwychder;
O dwrf byd, y wyryf ber,
Esgynnodd i lys gwiwner.
Dyddiad cyhoeddi: 2024-06-19
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.