RIGBY, THOMAS (c. 1783 - 1841), tafarnwr a barbwr

Enw: Thomas Rigby
Dyddiad geni: c. 1783
Dyddiad marw: 1841
Priod: Mary Rigby (née Richards)
Plentyn: George Rigby
Plentyn: Mary Ann Rigby
Plentyn: George Rigby
Plentyn: Alexander Rigby
Plentyn: Thomas Rigby
Plentyn: Elizabeth Rigby
Plentyn: William Rigby
Plentyn: Jane Rigby
Plentyn: Caroline Rigby
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: tafarnwr a barbwr
Maes gweithgaredd: Amrywiol
Awdur: Rita Singer

Ganwyd y dyn a elwid yn Thomas Rigby neu 'Reggbey' tua 1783, a chafodd ei herwgipio gan helwyr caethweision i leoliad anhysbys yn India'r Gorllewin pan oedd tuag wyth mlwydd oed. Mae ei rieni, ei enw gwreiddiol a man ei eni yn anhysbys. Dichon fod y cyfenw Rigby yn gysylltiedig â Richard Rigby, AS (1722-1788) o Mistley Hall, Essex, a oedd yn berchen ar amryw blanhigfeydd siwgr, coco a choffi yn Antigua, Grenada a Jamaica. Yn 1817, daeth Thomas Rigby i Gydweli yng nghwmni'r Parch. John Norcross.

Ar 19 Ionawr 1819, priododd Thomas Rigby a Mary Richards (1801-1854), merch leol a fagwyd ar fferm ger Llanelli. Mae'n debyg na allai'r un ohonynt sgrifennu, gan iddynt adael eu marc yn lle llofnod ar eu tystysgrif briodas. Yn nes ymlaen daeth chwaer iau Mary, Elizabeth Richards (1806-1886), yn fam i'r cerddor Joseph Parry (1841-1903). Yn y blynyddoedd dilynol, bu Thomas a Mary yn rhedeg nifer o dafarndai yng Nghydweli a Llanelli. Gwaneth Thomas waith arall hefyd o dro i dro, fel 'Gentleman's servant' neu'n farbwr.

Cafodd Thomas a Mary naw o blant, er na fu i bob un oroesi eu plentyndod: George (1819-1822), Mary Ann (1821-1878), George arall (1824-1844), Alexander (1826-1833), Thomas iau (1829-1844), Elizabeth (1834-1834), William (1838-1892), Jane (1839-1840) a Caroline (1840-1876). Daeth Mary Ann yn gogyddes, gan wasanaethu teulu meddyg yn Abertawe. Daeth William yn saer dodrefn ym Merthyr Tudful.

Bu Thomas Rigby farw ar 8 Mawrth 1841 yn Llanelli, lle rhedai dafarn yr Union, ac fe'i claddwydd ddeuddydd yn ddiweddarach ym mynwent Eglwys y Santes Fair, Cydweli. Gyda'r cyhoeddiad o'i farwolaeth, cynhwysodd papur y Cambrian fraslun byr o'i fywyd gan nodi ei fod yn 'industrious and harmless man'. Parhaodd Mary i weithio fel tafarnwraig ac ailbriododd ymhen tair blynedd.

Er bod Thomas Rigby yn un o'r ychydig bobl Ddu yn yr ardal yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, nid ef yw'r cynharaf o bell ffordd mewn cofnodion hanesyddol. Cafodd dyn Du ifanc o'r enw 'Jack of St Christopher' (b. f. 1738) ei fedyddio ym Mhenbre yn 1723. Yn 1738, bedyddiwyd Sabacon Gambia (b. f. 1784) yn Eglwys San Pedr, Caerfyrddin, ac yn 1742 rhoddwyd trwydded iddo briodi Candace de Gambia (b. f. 1760) yng Nghydweli. Dengys y cyfenw 'Gambia', yn ogystal â nodiadau yn y cofrestrau bedydd, priodas a chladdu, eu bod yn bobl Dduon.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-11-22

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.