WILLIAMS, MARGARETTA (Rita) (1933 - 2018), darlithydd ac ieithydd Celtaidd

Enw: Margaretta (Rita) Williams
Dyddiad geni: 1933
Dyddiad marw: 2018
Priod: Carl Williams
Rhiant: Gwennie Morgan (née Williams)
Rhiant: William Morgan
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: darlithydd ac ieithydd Celtaidd
Maes gweithgaredd: Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Heather Williams

Ganwyd Margretta Williams, neu Rita i bawb a'i hadwaenai, ar 9 Mawrth 1933 yng Nghwm-gors, Sir Forgannwg, ond treuliodd y rhan fwyaf o'i phlentyndod yn y pentref nesaf, sef Gwaun-Cae-Gurwen. Hi oedd trydedd ferch William Morgan (1898-1961), glöwr, a'i wraig Gwennie (g. Williams, 1903-1976), gwraig tŷ. Roedd ganddi ddwy chwaer hŷn: Eulonwy (1925-2010) a Mary (1931-2011). Yn ogystal â bod yn hynod o ddeallus a dysgedig, roedd Rita'n arian byw o gymeriad, ac yn berson cyfeillgar a chymdeithasol iawn. Roedd hi hefyd yn benderfynol iawn, efallai yn rhannol oherwydd iddi frwydro yn erbyn salwch drwy gydol ei hoes, sef bronchiectasis a chlefyd coeliac.

Addysgwyd hi yn yr ysgol leol yng Ngwaun-Cae-Gurwen ac yna yn Ysgol Ramadeg Pontardawe, pan oedd Isaac 'Eic' Davies (1909-1993) yn athro Cymraeg yno. Graddiodd Rita gyda gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1955. Cyn iddi hi ddechrau ar ei gyrfa academaidd bu'n Drefnydd Ieuenctid Sir Gaerfyrddin llawn amser i Urdd Gobaith Cymru yn 1956/7, ac fe barhaodd i wirfoddoli gyda'r mudiad yn ardal Llanymddyfri tra roedd hi'n gweithio fel athrawes yn Ysgol Pantycelyn, a hefyd gwasanaethu fel swyddog yng ngwersylloedd yr Urdd dros yr haf am sawl blwyddyn.

Yna bu'n ymchwilio i gystrawen Llydaweg Canol, gan gyflwyno traethawd 'Dadansoddiad cystrawenol o rai testunau Llydaweg Canol' am radd MA ym 1958. Enillodd gymrodoriaeth hynaf Prifysgol Cymru i astudio Llydaweg Diweddar yn Adran Geltaidd Prifysgol Llydaw yn Roazhon (Rennes), ac yn Aberystwyth, ar gyfer doethuriaeth ar y testun 'Yr Arddodiad mewn Llydaweg Diweddar'.

Wedi cyfnod yn dysgu mewn ysgolion uwchradd (Ysgol Ramadeg Ystalyfera ac Ysgol Uwchradd Pantycelyn, Llanymddyfri), dechreuodd ddarlithio yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan yn 1966. Roedd ei chyfrifoldebau yn eang iawn, ac yn cynnwys Llydaweg, Cernyweg a Gwyddeleg yn ogystal â llenyddiaeth Gymraeg o gyfnodau gwahanol. Yn 1972 fe'i hapwyntiwyd gan Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth i fod yn gyfrifol am ddysgu Astudiaethau Llydewig, Llydaweg Diweddar, Llydaweg Canol a Chernyweg Canol, yn dilyn marwolaeth ddisyfyd J. R. F. Piette (Arzel Even). Datblygodd ac ehangodd Rita y ddarpariaeth Llydaweg, gan gynorthwyo hefyd yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, tan ei hymddeoliad yn 1987.

Cwrddodd â'i gŵr, y Parchedig Carl Williams (1938-2017), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, tra roedd y ddau yn gwirfoddoli i Urdd Gobaith Cymru. Fe briodon nhw yn 1969, a dilynodd Rita Carl i'w amrywiol gapeli y Bedyddwyr: ym Mhontarddulais, Pen-y-groes ac Abergwaun. Roedd y ddau yn hoelion wyth y gymuned Gymraeg yn Abergwaun yn enwedig, ac yn ogystal â dyletswyddau y capel buon nhw'n gyfrifol am gyhoeddi'r papur bro lleol (Y Llien Gwyn), dysgu Cymraeg i oedolion a threfnu teithiau i grwpiau gefeillio i Lydaw, ac o Lydaw i Gymru. Roedd Rita hefyd yn gyfrannwr cyson dros gyfnod hir i dudalen olygyddol Seren Cymru, papur Undeb Bedyddwyr Cymru.

Fel darlithydd rhoddodd Rita flaenoriaeth i'r gwaith o baratoi adnoddau ar gyfer astudio iaith a llenyddiaeth Llydaw, gan nad oedd deunydd priodol ar gael yn Gymraeg nac yn Saesneg. Felly fe gyhoeddodd eiriaduron: Geiriadur Bach Llydaweg-Cymraeg (1984), Geiriadur Brezhonek-Kembraek (1984); a gwerslyfr Cyflwyno'r Llydaweg, sef addasiad o lawlyfr dylanwadol Pêr Denez Brezhoneg… buan hag aes, gydag ychwanegiadau (1981), a nifer fawr o gyfieithiadau o weithiau llenyddol, gan gynnwys ffuglen a barddoniaeth gan Roparz Hemon, Ronan Huon, Abeozen, Pêr Denez a Naïg Rozmor. Cyhoeddwyd ei geiriadur Llydaweg-Cymraeg arlein yn 2023.

Roedd Rita Williams mewn cysylltiad gyda nifer o Lydawyr amlwg ei chenhedlaeth, yn arbennig felly Pêr Denez (1921-2011). Tystia'r ohebiaeth rhyngddi hi a Pêr Denez i'r cydweithio a chydgynllunio a ddigwyddodd rhwng Cymru a Llydaw yn y byd cyhoeddi. Bu hefyd yn weithgar gyda phwyllgorau gefeillio, gan groesawu ymwelwyr a gweithredu weithiau fel cyfieithydd. Byddai hi'n hwyluso teithiau gan fyfyrwyr a disgyblion ysgol o Lydaw i Gymru. Arferai hi a'i gŵr fynd i Lydaw am fis yn yr haf bob blwyddyn mewn carafán, ac roedd llawer o ffrindiau gyda nhw yno. Bu Rita'n weithgar iawn yn Llydaw hefyd, gan ddysgu'r Gymraeg i Lydawyr mewn ysgolion haf yno am flynyddoedd; rhoddodd anerchiad ar Gymru yng Ngŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant (Lorient) yn Awst 1975, a thraddododd ddwy gyfres o ddarlithiau yn Llydaweg ym Mhrifysgol Roazhon (Rennes) o dan nawdd Y Cyngor Prydeinig yn 1983. Roedd hi'n gohebu gyda'r bardd Naïg Rozmor ac Ivona Martin.

Gweithiodd yn ddiflino i hybu cyfeillgarwch rhwng Cymru a Llydaw, a chafodd ei hethol yn Aelod o'r Orsedd er Anrhydedd yn 1994, ac yna derbyniodd wobr Urzh an Erminig (Urdd y Carlwm) yn 1996.

Bu Rita Williams farw ar 3 Medi 2018 yn Ysbyty Llanelli, a chafodd ei hamlosgi yn Amlosgfa Llanelli.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-07-31

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.