Ganwyd 2 Rhagfyr 1857, yn Ynyscynhaearn, Sir Gaernarfon, yn fab i'r Parch Thomas Jones, gweinidog gyda'r Annibynwyr, Eisteddfa, Cricieth, a Jane Elizabeth, merch Robert Jones o'r un lle.
Bu yn ysgol ramadeg, Porthmadog, ysgol Grove Park, Wrecsam, coleg y Brifysgol, Bangor, ac ysbyty S. Bartholomew, Llundain; cymerodd ei M.D. (Llundain) yn 1885; F.R.C.S. (Lloegr) 1886; F.R.C.P. (Llundain) 1908. Yn 1888 penodwyd ef yn arolygydd meddygol Gwallgofdy Earlswood ac yn 1893 i gyffelyb swydd yng Ngwallgofdy Cyngor Sir Llundain, yn Claybury. Ymneilltuodd yn 1916. Bu'n ddarlithydd ar afiechydon y meddwl yn ysbyty S. Bartholomew; yn feddyg ymgynghorol ynglŷn â'r cyfryw afiechydon i adrannau milwrol Llundain ac Aldershot, ac yn Ymwelydd ar Wallgofrwydd i'r Arglwydd Ganghellor. Bu'n Is-Gyrnol dros dymor yn yr R.A.M.C., a chafodd y C.B.E. (Milwrol) yn 1919. Gwnaed ef yn farchog yn 1917. Mabwysiadodd Armstrong fel cyfenw ychwanegol yn 1913. Yr oedd yn Y.H. ac yn ddirprwy raglaw yn Llundain a Sir Gaernarfon, ac yn aelod o Gyngor ac yn is-lywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.
Priododd, 1893, Margaret Elizabeth (bu farw Mai 1943), merch hynaf Syr Owen Roberts, Llundain, a Plas Dinas, Caernarfon; bu iddynt fab, Ronald Owen Lloyd Armstrong-Jones. Mab iddo yntau, Arglwydd Snowdon, a briododd y Dywysoges Margaret, chwaer y Frenhines Elizabeth II, a dwy ferch. Bu farw 31 Ionawr 1943.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.