BRACE, WILLIAM (1865 - 1947), arweinydd llafur ac aelod seneddol

Enw: William Brace
Dyddiad geni: 1865
Dyddiad marw: 1947
Priod: Nellie Brace (née Humphreys)
Plentyn: Ivor Llewellyn Brace
Rhiant: Ann Brace
Rhiant: Thomas Brace
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arweinydd llafur ac aelod seneddol
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd yn Rhisga, sir Fynwy, 23 Medi 1865, yn fab i Thomas ac Ann Brace. Addysgwyd yn ysgol elfennol Rhisga. Pan yn 12 mlwydd oed cychwynnodd ar ei yrfa fel glöwr yng nglofa Rhisga, a chyn hir dechreuodd gymryd diddordeb ym mhroblemau llafur.

Yn 1890 priododd Nellie, merch William a Harriet Humphreys o Gwmcadarn, sir Fynwy. Yn yr un flwyddyn apwyntiwyd ef yn gynrychiolydd glowyr adran leol Undeb Glowyr Prydain Fawr. Tua'r adeg hon un o bynciau mwyaf llosg y diwydiant glo yn Ne Cymru oedd y ddadl ynglŷn â'r drefn o dalu'r glowyr yn ôl y sliding scale. Arweinid y blaid a ffafriai'r egwyddor honno o dalu gan William Abraham (Mabon), a daeth Brace yn arweinydd y blaid a wrthwynebai. Daeth eu hymdrechion â'r ddau ŵr hyn i wrthdaro swyddogol a phersonol. Cyhuddwyd Brace gan Abraham o enllib ac enillodd Abraham yr achos. Ar ddiwedd streic y glowyr yn 1898, fodd bynnag, ffurfiwyd Undeb Glowyr De Cymru gydag Abraham yn llywydd a Brace yn is-lywydd y pwyllgor gwaith.

Yn 1899 bu Brace, Abraham, ac un arall yng nghynhadledd flynyddol Undeb Glowyr Prydain Fawr gyda chais am uno'r undeb lleol a'r mudiad cenedlaethol. Llwyddasant yn eu cais. Yn 1901 gofynnwyd iddo wasanaethu ar Gomisiwn Brenhinol i ymchwilio i adnoddau glo Prydain Fawr. Bum mlynedd ar ôl hyn etholwyd ef yn aelod seneddol llafur dros Dde Morgannwg. Yn yr etholiad curodd y Cyrnol Wyndham Quin, yn ddiweddarach Iarll Dunraven. Cynrychiolodd yr etholaeth hyd 1918. Drwy'r cyfnod hwn parhaodd ei gysylltiad ag Undeb Glowyr De Cymru, ac yn 1912 penodwyd ef yn llywydd yr Undeb. Erbyn hyn, fodd bynnag, codasai peth gwrthwynebiad iddo o blith y glowyr am na chyfrifid ef yn ddigon radicalaidd.

Yn 1915 penodwyd ef yn Is-ysgrifennydd y Swyddfa Gartref yn llywodraeth unedig cyfnod y rhyfel, a'r flwyddyn ddilynol apwyntiwyd ef yn aelod o'r Cyngor Cyfrin. Parhaodd yn aelod o'r llywodraeth hyd nes i'r Blaid Lafur wrthgilio yn 1918. O 1918 hyd 1920 bu'n aelod seneddol dros adran Abertyleri o sir Fynwy. Derbyniodd swydd yn 1920 fel Prif Gynghorwr Adran Glofeydd y llywodraeth, swydd lawn amser a arweiniodd i'w ymddiswyddiad fel aelod seneddol. Yn 1922 gofynnwyd iddo wasanaethu yn un o bedwar aelod ar Gomisiwn Brenhinol a ffurfiwyd gan lywodraeth De Affrica i wneuthur ymchwiliad i broblemau economaidd ar ôl anesmwythdra ymhlith y glowyr.

Ymddiswyddodd yn 1927 a bu farw 12 Hydref 1947.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.