DAVIES, BENJAMIN (1858 - 1943), datganwr

Enw: Benjamin Davies
Dyddiad geni: 1858
Dyddiad marw: 1943
Priod: Clara Davies (née Perry)
Rhiant: Hannah Davies
Rhiant: John Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: datganwr
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 6 Ionawr 1858, ym Mhontardawe, Morgannwg, yn fab i John a Hannah Davies. Symudodd y teulu i Gwmbwrla, Abertawe. Dechreuodd ganu yn ieuanc ac enillodd ei wobr gyntaf yn 5 oed. Canai alto yng nghôr Caradog, ac enillodd lawer o wobrau mewn eisteddfodau. Yn 1878 enillodd ysgoloriaeth yr Academi Gerddorol Frenhinol, ac yn ystod ei gwrs enillodd amryw fedalau, a chafodd radd Cymrawd (F.R.A.M.). Yn 1885 penodwyd ef yn brif denor ' Cwmni'r Carl Rosa ', a bu am daith o dair blynedd. Yr un flwyddyn ag yr ymunodd â'r ' Carl Rosa ', priododd Madame Clara Perry, prif soprano 'r Cwmni. Yn 1888 daeth yn ôl i Lundain a chymerodd ran yn y chwaraegerdd ' Dorothy ' mewn agos i fil o berfformiadau, ac wedi hyn dewiswyd ef gan Arthur Sullivan i ganu yn yr opera ' Ivanhoe '. Daeth yn un o gantorion mwyaf poblogaidd y deyrnas ac yn ffafr ganwr gan y Frenhines Victoria. Gelwid arno i gymryd rhan yn yr holl wyliau cerddorol, a phrif gyngherddau Llundain a'r wlad. Bu ar deithiau cerddorol yn yr Unol Daleithiau 12 o weithiau, yr Almaen 9 o weithiau, ac unwaith yn Affrica. Yn 24 oed anrhydeddwyd ef gan Glwb y Cerddorion yn Llundain. Y tro olaf iddo ymddangos yn gyhoeddus oedd yng Nghastell Caernarfon 1937, ar achlysur ymweliad y teulu brenhinol â'r dref. Symudodd o Lundain i fyw yn Arkhill, ger Bath. Bu farw yn Clifton Nursing Home, Bryste, 28 Mawrth 1943, ac amlosgwyd ei gorff yn Armo Vale Cemetery, Bath.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.