DAVIES, Syr ALFRED THOMAS, C.B. (1861 - 1949), ysgrifennydd parhaol cyntaf (1907-25) adran Gymreig y Bwrdd Addysg

Enw: Alfred Thomas Davies
Dyddiad geni: 1861
Dyddiad marw: 1949
Rhiant: William Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgrifennydd parhaol cyntaf (1907-25) adran Gymreig y Bwrdd Addysg
Maes gweithgaredd: Addysg; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 11 Mawrth 1861 yn Lerpwl yn fab i William Davies. Cafodd ei addysg yn Lerpwl ac yng ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Rhwng 1883 a 1907 bu'n gyfreithiwr yn Lerpwl yn arbenigo yng nghyfraith trwyddedi. Bu iddo ran amlwg ym mudiad dirwest y ddinas. Gwasanaethodd fel ysgrifennydd amryw bwyllgorau ac ymddiriedolaethau addysgol, ac o 1904 i 1907 bu'n aelod o gyngor sir a phwyllgor addysg sir Ddinbych. Wedi iddo ymddeol o'r Bwrdd Addysg, parhaodd i ymddiddori mewn materion Cymreig, er ei fod yn byw yn Lloegr, ac ef a sefydlodd Sefydliad Coffa Ceiriog yng Nglyn Ceiriog. Cyhoeddodd ddau fywgraffiad, sef 'O.M.' (cyfrol ar Syr Owen M. Edwards), 1946, a The Lloyd George I Knew, 1948, a nifer o bamffledi. Urddwyd ef yn farchog yn 1918, a gwasanaethodd fel dirprwy raglaw sir Ddinbych a swydd Buckingham. Priododd ddwy waith, a bu iddo dri mab a merch. Bu farw 21 Ebrill 1949, yn Brighton.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.